Betsi Cadwaladr: Gweinidog iechyd yn gwadu bwlio

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Eluned Morgan ofyn i aelodau annibynnol y bwrdd ymddiswyddo ym mis Chwefror

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod ymddygiad y gweinidog iechyd "gyfystyr â bwlio" pan orfododd aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ymddiswyddo.

Fis diwethaf fe wnaeth Richard Micklewright gyhuddo Eluned Morgan o drin aelodau'r bwrdd fel "pethau dibwys i'w defnyddio".

Fe wnaeth ef ac aelodau arall y bwrdd ymddiswyddo ym mis Chwefror wedi pwysau gan y gweinidog iechyd.

Mae'r llywodraeth wedi gwadu bod ymddygiad Ms Morgan gyfystyr â bwlio ar ôl iddi ddweud wrth gynhadledd wasg ei bod "ddim yn siŵr" a oedd ei gweithredoedd yn "swnio fel bwlio".

'Profiad anodd a thrawmatig'

Gorfodwyd aelodau annibynnol y bwrdd i ymddiswyddo ar ôl adroddiad damniol gan Archwilio Cymru ynglŷn â phroblemau yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd.

Bu beirniadaeth fod y bobl anghywir wedi cael eu targedu - y bwrdd annibynnol sy'n goruchwylio'r sefydliad, yn hytrach na'r swyddogion gweithredol sy'n gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd.

Cafodd tîm y swyddogion gweithredol eu disgrifio fel "camweithredol" gan Archwilio Cymru.

Yn siarad gyda Wales Live fis diwethaf dywedodd Mr Micklewright fod gweithredodd y gweinidog "gyfystyr â bwlio" a'i fod wedi digwydd yn sydyn.

"Doedd dim cyfathrebu wedi bod ganddi hi na'i swyddogion i awgrymu bod anfodlonrwydd gyda'r hyn roeddwn yn ei wneud," dywedodd.

"Roedd yn brofiad hynod anodd a thrawmatig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Micklewright nad oedd y gweinidog wedi cyfathrebu â'r bwrdd i ddweud ei bod yn anfodlon gyda'u gwaith

Mewn cynhadledd i'r wasg ar ddydd Mawrth dywedodd Ms Morgan: "Mi fydden i'n dweud bod diffiniad bwlio wedi newid tipyn.

"Doeddwn i erioed wedi cwrdd ag ef fel aelod o'r bwrdd o'r blaen, ac i ddarllen datganiad a gymeradwywyd yn gyfreithiol i rywun nad wyf erioed wedi cwrdd â nhw o'r blaen, dwi ddim yn siŵr bod hynny gyfystyr â bwlio.

"Fe wnaethon ni gymryd y camau. Rydym yn y broses o wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwella Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr."

Pan ymddiswyddodd aelodau'r bwrdd dywedodd Ms Morgan fod adroddiad Archwilio Cymru wedi gwneud yn glir "nad oedd yn bosibl... i'r unigolion annibynnol weithio'n dda gyda'r swyddogion gweithredol yn y dyfodol i wella'r sefyllfa".

Ar ôl y gynhadledd wasg, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gweinidog wedi gwadu bod ei gweithredodd gyfystyr â bwlio.

'Mae hyn yn mynd i gymryd amser'

Fe wnaeth Ms Morgan osod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig pan orfodwyd aelodau'r bwrdd i ymddiswyddo.

Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai'r broses o wella'r bwrdd iechyd yn cymryd amser.

"Mae'n rhaid i ni fod yn glir, nid yw hyn yn mynd i wella pethau yn y cyfnod byr. Mae hyn yn mynd i gymryd amser," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod y bobl sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd yn deall y newidiadau sydd angen eu gwneud.

"Mae'n rhaid i ni feddwl am ddiwylliant newydd yn y bwrdd iechyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gwelliannau perfformiad yn cael eu mesur."

Yn ddiweddar mae canfyddiadau adroddiad hynod feirniadol gan y cyfrifwyr EY wedi cael eu rhyddhau i'r wasg.

Dywedodd yr adroddiad bod swyddogion ar y bwrdd wedi rhoi cofnodion anghywir yn fwriadol yng nghyfrifon y bwrdd.

Dywedodd yr ymchwiliad fod Betsi Cadwaladr wedi cadw cofnodion anghywir am filiynau o bunnoedd.