Croeso mawr i un o arwyr y Gemau Olympaidd Arbennig

  • Cyhoeddwyd
Bleddyn GibbsFfynhonnell y llun, Llychlynwyr Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Bleddyn yn ôl ym mhentref Thornton, ger Aberdaugleddau. nos Sadwrn

Mae codwr pwysau a enillodd bedair medal aur yn y Gemau Olympaidd Arbennig wedi cael croeso arbennig wrth ddychwelyd i'w bentref enedigol.

Roedd Bleddyn Gibbs, 18, o Sir Benfro yn cystadlu yng Ngemau'r Byd ym Merlin.

Fe gyrhaeddodd yn ôl ym mhentref Thornton, ger Aberdaugleddau. nos Sadwrn i gymeradwyaeth torf o bobl oedd yno i'w longyfarch.

Cyn mynd allan i Berlin, dywedodd mai ei freuddwyd oedd dod yn ôl i Gymru gyda medal aur, a dyna'n union a wnaeth.

Gan gynrychioli Tîm Prydain Fawr, fe gododd 140kg yn y sgwat, 75 yn y bench press a 150 wrth godi pwysau marw (deadlift).

Roedd yna lwyddiant hefyd yn y gemau i Ethan Orton o Aberhonddu - fe gipiodd e fedal arian yn nyblau cymysg badminton gyda'i bartner Briony Johnson o Groesoswallt.

'Pawb mor falch'

Roedd Andrew Meddings o Lychlynwyr Sir Benfro, sef y tîm rygbi gallu cymysg mae Bleddyn yn ei gapteinio, wedi helpu i drefnu'r croeso.

Dywedodd fod Bleddyn, sydd â Syndrom Down, wedi gwneud Cymru gyfan yn falch ohono.

Ffynhonnell y llun, Llychlynwyr Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd torf mawr i groesawu Bleddyn adref

"Mae pawb mor falch o'i gyflawniadau ac yn teimlo ei fod yn haeddu dod adref," meddai.

"Roedd cefnogwyr ar hyd y stryd, roedd pawb mor falch o'i fuddugoliaeth a cafodd llawer o ddagrau eu colli."

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi ei hebrwng adref ac ar neges ar Twitter dywedodd y llu ei fod yn "anrhydedd" iddyn nhw wneud hynny.

"Da iawn Bleddyn - camp anhygoel… mae Aberdaugleddau i gyd yn falch ohonoch chi."

Ffynhonnell y llun, Strength Academy Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei dad, Steffan, fod Bleddyn 'wedi canfod ei gamp'

Yn siarad gyda'r BBC, dywedodd Bleddyn ei fod wedi "torri fewn i ddagrau".

Dywedodd ei Dad, Steffan, ei fod yn falch fod Bleddyn yn dilyn yn ei olion traed.

"Rwyf wedi codi pwysau trwy chwarae rygbi a bod yn y fyddin, felly mae gen i ddiddordeb erioed," meddai.

"Mae gennym rac sgwat yn y garej a dyna lle dechreuodd pethau. Mae'n hyfforddi 3-4 gwaith yr wythnos nawr.

"Maen nhw'n siarad am bobl yn dod o hyd i'w camp ac mae wedi canfod ei gamp 100% mewn codi pwysau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth aelodau Cymreig y garfan gwrdd â'r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth baratoi i gystadlu yn Yr Almaen

"Mae'r digwyddiad yma yn rhyfeddol.

"Mae'n gyfartal â'r Gemau Paralympaidd a'r Gemau Olympaidd prif ffrwd ac ni ddylai fod yn wahanol."

Y Gemau Olympaidd Arbennig yw un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd eleni gyda 7,000 o gystadleuwyr o bron i 200 o wledydd.

Pynciau cysylltiedig