Galw am ymchwiliad cyhoeddus i wasanaeth fasgwlar y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r crwner John Gittins wedi ysgrifennu am ei "bryderon" ynglŷn â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae crwner wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cynnal ymchwiliad cyhoeddus i wasanaethau fasgwlar bwrdd iechyd mwyaf y wlad.

Ysgrifennodd John Gittins, uwch-grwner ar gyfer gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru, i bob aelod o gabinet Llywodraeth Cymru fis diwethaf yn amlinellu ei "bryderon" am y gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Saith mis wedyn mae Mr Gittins yn dweud nad yw wedi derbyn ymateb oddi wrth unrhyw un.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi adleisio sylwadau'r crwner, gan ychwanegu mai "dyma'r lleiaf y dylai teuluoedd mewn profedigaeth ei ddisgwyl".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Iechyd wedi ymateb i'r crwner ddydd Gwener ac er eu bod yn "pryderu" am wasanaethau fasgwlar y gogledd, bod "sawl darn o waith ar y gweill" i wella'r gwasanaethau sydd ar gael.

Ychwanegon nhw: "Byddwn yn aros am ganlyniad y gwaith hwnnw cyn penderfynu a oes angen ymchwiliad cyhoeddus."

Nid oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am wneud sylw.

'Problemau darpariaeth'

Mae Mr Gittins wedi dechrau edrych ar farwolaethau pedwar claf a bu farw yn 2021 ar ôl cael triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Dinbych.

Cafodd yr achosion eu cyfeirio at Mr Gittins yn Hydref 2022 wedi i adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) ddarganfod risgiau i ddiogelwch cleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Mewn gwrandawiad cyn cwest yn Rhuthun ddydd Gwener, darllenodd Mr Gittins y llythyr anfonodd i naw o weinidogion y llywodraeth ar 12 Mai.

Yn ei lythyr dywedodd: "Yn bresennol rwy'n cynnal cwest i nifer o farwolaethau sydd wedi cael eu cyfeirio ataf i sydd... yn ymddangos eu bod yn ymwneud â thriniaeth fasgwlar a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac yn fwy penodol â'r ansawdd o ofal a thriniaeth a roddwyd iddynt gan y bwrdd iechyd.

"Yn ychwanegol i'r achosion sy'n rhan o'r cwest mae aelodau o'r cyhoedd o gefndiroedd cyfreithiol a meddygol wedi tynnu fy sylw at bryderon sy'n cyffwrdd â nifer o broblemau'n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau fasgwlar yn Betsi Cadwaladr."

Aeth Mr Gittins ymlaen i ddweud ei fod yn annog gweinidogion i ystyried cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

'Cynnydd boddhaol'

Er iddo dderbyn cydnabyddiaeth awtomatig o'i lythyr oddi wrth saith gweinidog, dywed Mr Gittins nad yw wedi derbyn unrhyw gyswllt pellach gan unrhywun.

Mae gwasanaethau fasgwlar yng Nghymru wedi dod dan sylw ers iddynt gael eu haildrefnu yn 2019, gyda holl wasanaethau fasgwlar y gogledd yn cael eu symud i Ysbyty Glan Clwyd.

Yn dilyn yr adroddiad gan yr RCS yn 2022, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gategoreiddio'r gwasanaethau fel "angen gwelliant sylweddol".

Ddydd Iau, cafodd y statws yna ei newid wedi i'r bwrdd wneud "cynnydd boddhaol", er bod "angen rhagor o waith".

Wrth ymateb i'r galwadau gan y Crwner, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor AS: "Ddiwrnod yn unig ar ôl i Arolygiaeth Iechyd Cymru wneud 11 argymhelliad i wella gwasanaethau fasgwlar o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'n siomedig iawn i glywed bod gweinidogion Cymru wedi anwybyddu gohebiaeth mor ddifrifol gan y crwner.

"Rwy'n adleisio galwad John Gittins am ymchwiliad cyhoeddus, dyma'r lleiaf y dylai teuluoedd mewn profedigaeth ei ddisgwyl."

Fe ychwanegodd: "O ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi cael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror a bod pryderon difrifol wedi bod am y gwasanaethau fasgwlar ers cau'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd a'u canoli yng Nglan Clwyd, byddech chi'n disgwyl i weinidogion y llywodraeth weithredu yn ddi-oed ac ymateb i geisiadau gan y Crwner.

"Mae hyn yn dystiolaeth bellach o'r dirmyg tuag at y rhai sy'n eu herio a'u diystyrwch o les cleifion fasgwlar yn y gogledd."

'Gwaith ar y gweill'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ymatebodd y Gweinidog Iechyd i'r crwner heddiw.

"Ddoe fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddarganfod bod gwelliannau wedi eu gwneud i'r gwasanaeth, ond bod angen mwy o waith. Rydym wedi comisiynu adolygiad sicrwydd gan Weithrediaeth y GIG, sydd ar y gweill.

"Rydym yn parhau i bryderu am wasanaethau fasgwlaidd yn y bwrdd iechyd ac mae nifer o ddarnau o waith ar y gweill ar hyn o bryd ynglŷn â gwella'r gwasanaethau hynny.

"Byddwn yn aros am ganlyniad y gwaith hwnnw cyn penderfynu a oes angen ymchwiliad cyhoeddus."