Harddu Pen Llŷn: Silff lyfrau arbennig Aberdaron
- Cyhoeddwyd
O ddraig goch yn Nhudweiliog, i'r Orsedd ym Mhwllheli a chadair ym Motwnnog, mae pobl Llŷn ac Eifionydd wedi bod yn brysur yn harddu eu bro i groesawu'r Eisteddfod i'w hardal.
Ond yn Aberdaron, mae silff lyfrau go drawiadol i'w gweld ger arwydd maes gwersylla Dwyros.
Ffion Enlli sy'n gyfrifol am greu'r campwaith gyda chymorth ei thad, Alun Jones, perchennog y gwersyll, a'i phartner Coco.
Aberdaron yn ysbrydoli beirdd a llenorion
Wedi ei magu yn Aberdaron, y pentref agosaf at Ynys Enlli, man geni'r ieithydd Dic Aberdaron, llecyn a ysbrydolodd Cynan yn ei gerdd, a cherdd sydd wedi ysbrydoli'r grŵp Bwncath, mae yna hud i'r pentre' sy'n dylanwadu ar feirdd, llenorion a chantorion.
Ag Enlli hefyd yn awdures ar y nofel Cwlwm a gyhoeddwyd llynedd, nid yw'n syndod mai silff lyfrau oedd ei syniad i harddu gwersyll Dwyros, unwaith iddi gasglu saith o hen baledi pren.
"Mae pawb yn defnyddio'r pallets pren yma ymhobman dydi a nes i jest cal rhyw vision o; faswn i yn gallu creu silff lyfrau mawr allan o rheina.
"Dwi yn amlwg wrth fy modd efo llyfra', dwi 'di sgwennu un fy hun a dwi'n darllan lot.
"'Nes i ddweud wrth Dad, 'Dwi'n meddwl allwn ni 'neud llyfra' allan o rhain,' ond doedd o ddim yn rwbath oedd o'n gallu ei weld yn iawn nes i fi ista fo i lawr a deud 'Ocê , jest gwna hyn, rho bren yn fan'ma.' Fo ydy'r dyn DIY rili.
"Gan bod y Steddfod yn dod i fan'ma a bod yna gymaint o lenorion a beirdd mor adnabyddus yn y rhan yma o'r byd, nes i feddwl pam lai.
"Dad oedd yn rhoi y prenia at ei gilydd a fi a 'mhartnar Coco oedd yn peintio. Meingefn rhan fwyaf o'r llyfrau sydd i'w weld, oni bai am glawr Cynan. Coco wnaeth glawr Cynan, cefndir mewn dylunio sydd ganddo fo."
Dewis llyfrau i'r silff
Er y gallai Enlli greu sawl sillf lyfrau arall sydd â chysylltiad â Phen Llŷn, dim ond saith paled pren oedd ganddi ac roedd dewis y llyfrau i'r silff yn ychydig o gur yn pen.
"Oedd o'n ofnadwy o anodd dewis. Mae 'na jest gymaint o wahanol awduron a beirdd o'r rhan yma o'r byd ac ond saith paled odd gynnon ni, a hefyd, dim lot o amsar!"
Y rhai ddewisodd hi oedd:
Atyniad, nofel gan Fflur Dafydd lle mae Ynys Enlli yn brif gymeriad.
Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones, nofel wedi ei lleoli yn yr ardal.
Dan Leuad Llŷn, stori Penri Jones am grŵp o ffrindiau mewn tref glan môr.
Capten gan Meinir Pierce Jones, nofel fuddugol Gwobr goffa Daniel Owen y llynedd sy'n rhoi llais i fywyd morwrol Llŷn.
Y Mabinogi; dydi'r chwedlau Cymreig byth yn bell.
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, nofel Alun Jones wedi ei gosod ym Mhen Llŷn.
Cerddi Cynan, casgliad o gerddi'r bardd a'r archdderwydd o Lŷn.
"Mae'n cymryd dipyn o amsar i beintio petha mor fanwl felly wnaethon ni orfod mynd efo'r saith yna. Rhyw ddau ddiwrnod llawn gymrodd o i gyd, a wedyn ambell noson yn varnisho!"
Un cyfrol sy'n absennol o'r silff yw llyfr Enlli ei hun, Cwlwm, nofel sy'n rhoi lle canolog i Ben Llŷn a pherthynas y cymeriad Lydia sy'n byw yn Llundain gyda bro ei mebyd.
"Do'n i ddim isio peintio fy llyfr fy hun i fod yn onast. Rydan ni ychydig bach fel'na fel Cymry dydan," eglura Enlli yn ddiymhongar.
"Mae'n siŵr fasa wedi bod yn un da hefyd o ran lliw. Oedd pawb yn deud y dylwn i ond dwi'n meddwl bod yna lenorion llawar mwy adnabyddus a gwell na fi i roi i fyny."
Fydd y silff lyfrau'n aros yn Dwyros?
Ar ôl denu sylw ymwelwyr a phobl leol sy'n gyrru heibio a derbyn ymateb gwych ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi bod yn gwestiwn i Enlli, Alun a Coco beth i'w wneud gyda'r silff lyfrau ar ôl i wythnos yr Eisteddfod ddod i ben.
Meddai Enlli: "Oeddan ni wedi meddwl ei roi o yn Plas Carmel achos mae hwnna yn brosiect dwi'n gwirfoddoli efo, a Dad sy'n arwain y prosiect yna."
"Rhywun sydd wrth galon y prosiect yna fel cymeriad ydy Dic Aberdaron a mae pawb yn gwybod fod o'n dipyn o ieithydd ac yn darllen felly dwi'n meddwl fasa fo'n neis ei gael o yn fan'no.
"Hefyd ma Plas Carmel wrth ymyl lle roedd Dic Aberdaron yn byw. Ac ella 'nawn ni fwy o silffoedd llyfra, rŵan 'dan i'n gwybod be i 'neud!"
'Braf rhannu diwylliant'
Bydd Enlli yn cymryd rhan yn y Babell Lên ac ar ambell i banel trafod ar faes yr Eisteddfod, ond mae'n edrych ymlaen at fwynhau ei hun yn ystod ail hanner yr wythnos.
Rhywbeth arall mae'n edrych ymlaen ato ydy gweld pobl yn heidio i Ben Llŷn, boed yn Eisteddfodwyr neu beidio, yn mwynhau'r arwyddion a gwrthrychau sy'n addurno bro'r Eisteddfod ar hyn o bryd.
"Mae yna gymaint o bobl wedi bod yn gofyn am y silff lyfrau, gan gynnwys pobl di-Gymraeg felly mae'n braf rhannu bach o'n diwylliant ni efo nhw.
"Mae hynna yn wir am y lle i gyd dydi, mae ymwelwyr yn pasio llwyth o betha' gwych sydd wedi cael eu creu gan bobl Pen Llŷn ar hyn o bryd."