'Heriau sylweddol' o fewn gofal cleifion strôc - adroddiad
- Cyhoeddwyd
Dydy cleifion strôc ddim wastad yn cael y gofal amserol a phriodol sydd ei angen, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Dyna gasgliad adroddiad newydd, dolen allanol sy'n nodi bod "heriau sylweddol" ar hyd Cymru wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty.
Dywedodd Llinos Parry o'r Gymdeithas Strôc fod "diffygion ar hyd y siwrnai".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod canfyddiadau'r adroddiad ac y byddan nhw'n ystyried yr argymhellion.
Mae'r heriau yn deillio'n bennaf o'r galw uchel am welyau a'r "cymhlethdodau sydd ynghlwm â rhyddhau cleifion meddygol iach o ysbytai" yn ôl AGIC.
Mae'r ymchwil yn yr adroddiad - a ddechreuodd yn 2021 - yn nodi nad oedd modd symud cleifion i'r ward neu'r arbenigedd mwyaf priodol ar gyfer eu gofal bob amser.
Dywedodd AGIC y gall cyfnodau hir diangen yn yr ysbyty oherwydd oedi cyn rhyddhau cleifion achosi'r risg y bydd cleifion yn dal heintiau yn yr ysbyty neu'n dirywio wrth aros i gael eu rhyddhau.
Mae argaeledd gwelyau mewn cartrefi gofal neu ofal cymdeithasol yn y cartref yn her, dywedon.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Rhys Jones o AGIC fod y "pwysau aruthrol" sydd ar y gwasanaeth iechyd yn cael effaith ar lif cleifion rhwng yr ysbyty a'r cartref.
"Pan fo ysbyty er enghraifft yn methu rhyddhau cleifion yn briodol ac yn gyflym, yn brydlon allan o'r ysbytai, mae'n golygu bod yr unedau brys yn orlawn, mae'n golygu bod yr ambiwlansys yn ciwio y tu allan i unedau brys.
"Felly pan mae rhywun falle yn diodde' o strôc yn y gymuned neu gartref yn gwneud yr alwad yna am ambiwlans, bydd yr ambiwlans 'na yn cymryd amser i ddod.
"Pan maen nhw yn yr ysbyty falle bydd y driniaeth ddelfrydol sydd angen arnyn nhw - yn enwedig os ydyn nhw wedi cael strôc, ddim yn cael ei ddarparu yn brydlon a hefyd yn golygu falle bod y gwely ar y ward arbenigol stroc ddim ar gael iddyn nhw."
'Heriau a phwysau eithriadol'
Dydy canfyddiadau'r adroddiad ddim yn syndod i Llinos Wyn Parry o'r Gymdeithas Strôc sy'n dweud fod "diffygion ar hyd y siwrnai".
"Heriau a phwysau eithriadol ar bob elfen o'r ambiwlans i'r ysbytai i'r gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau gofal yn dilyn y ryddhad o'r ysbytai - mae'r holl pathway yn cyflwyno straen," dywedodd.
"Mae 'na wendidau gyda bed blocking - pan nad ydy'r gwasanethau yn eu lle er mwyn i rywun adael yr ysbyty. Does dim all yr ysbyty wneud ond cadw nhw yn yr ybsyty yn saff."
Dywedodd AGIC fod un maes allweddol lle mae angen gwelliannau sef yr angen i wasanaethau gofal iechyd ddeall beth sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio fferyllfeydd, unedau mân anafiadau, ymgynghoriadau ar-lein y GIG a gwasanaeth 111.
Gallai hynny arwain at wneud gwelliannau er mwyn lleihau'r angen i bobl fynd i'w meddygfa neu adran achosion brys, yn ôl AGIC.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury bod angen "perthynas cryf rhwng y byrddau iechyd a'r system gofal cymdeithasol".
"Yn anffodus, weithiau does dim digon o barch tuag at y sector gofal a hefyd rhaid i'r byrddau a llywodraeth leol yn dalu mwy," dywedodd.
"Ma' angen i'r sector gadw a recriwtio staff i wneud gwaith a gofalu am y rhai sy'n dod allan o ysbytai.
"Does dim digon o ddealltwriaeth gan bobl yn gweithio yn yr ysbytai... ddim yn gwybod be' mae'r sector yn ei wneud a be' sy'n bosib ac mae rhaid talu digon am y gwaith."
'Cydnabod ac ystyried argymhellion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod a byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, ac yn disgwyl i fyrddau iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a rhaglenni gwella cenedlaethol i adolygu'r canfyddiadau hefyd.
"Mae ein Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc yn amlinellu ein hymrwymiad i wella canlyniadau i bobl sy'n dioddef strôc, ac mae cynllun gwella ambiwlansys ar waith i gynyddu staffio, gwella amseroedd ymateb a pherfformiad trosglwyddo.
"Rydym hefyd wedi rhoi £25m ychwanegol y flwyddyn i helpu pobl i gael mynediad at ofal brys yn nes at eu cartrefi a £145m ar Gronfa Integreiddio Ranbarthol sy'n cynnwys ffocws ar gefnogi pobl adref o'r ysbyty."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021