Ymchwiliad Llaneirwg: Carcharu dyn am yrru peryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 32 oed wedi cael dedfryd o garchar fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad a laddodd dri pherson ifanc ar gyrion Caerdydd fis Mawrth.
Roedd Shane Loughlin o Dredelerch, Caerdydd eisoes wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus a gyrru tra roedd wedi ei wahardd ar yr M4 ar 3 Mawrth.
Roedd Loughlin yn ddiweddarach ar y noson ym mis Mawrth yn rhan o wrthdrawiad ar yr A48 ger Llaneirwg.
Doedd y cyhuddiadau ddim yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad hwnnw.
Gwelodd y llys luniau ffôn symudol o Loughlin yn ffilmio ei hun yn anadlu nwy allan o falŵn tra'n gyrru ar gyflymder o hyd at 90mya ar ochr ddwyreiniol yr M4.
Ar adegau, doedd ei ddwylo ddim ar olwyn lywio'r car, ac roedd golau ar y panel deialau yn awgrymu nad oedd pawb yn gwisgo gwregys diogelwch.
Yn oriau mân fore 4 Mawrth bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24, mewn gwrthdrawiad yn Llaneirwg. Cafodd Loughlin a Sophie Russon, 20, eu hanafu'n ddifrifol.
Ychydig cyn y ddamwain roedd Loughlin wedi dod yn deithiwr yng nghefn y car Volkswagen Tiguan, wnaeth wyro oddi ar y ffordd ger cylchfan yn Llaneirwg. Chafodd y car ddim ei ddarganfod am 46 awr.
Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener cafodd Loughlin ddedfryd o flwyddyn a phum mis o garchar am yrru peryglus a gyrru tra roedd wedi ei wahardd, yn yr oriau cyn y gwrthdrawiad.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd Cofiadur Caerdydd, y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth Loughlin: "Fe wnaethoch chi benderfyniad bwriadol i anwybyddu rheolau'r ffordd.
"Fe wnaethoch chi ddangos difaterwch llwyr tuag at ddefnyddwyr eraill y ffordd. Mater o lwc yn hytrach nag unrhyw farn ar eich rhan chi oedd na wnaethoch chi ladd unrhyw un."
Clywodd y llys bod ganddo 23 o euogfarnau am droseddau yn y gorffennol gan gynnwys gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, gyrru tra roedd wedi ei wahardd, a churo mam ei blant.
Dywedodd y barnwr bod ei hanes troseddol yn "gwbl warthus".
Ar 4 Medi fe blediodd Loughlin yn euog i dair trosedd yrru arall oedd ddim yn gysylltiedig â'r rhai blaenorol, yn cynnwys yfed a gyrru, a gyrru tra roedd wedi ei wahardd a heb yswiriant, wedi iddo gael stopio gan yr heddlu yn ardal Ystum Taf yng Nghaerdydd yn gynnar fore Sadwrn 2 Medi.
Bydd yn cael ei ddedfrydu am y troseddau rheiny yn ddiweddarach fis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023