Rygbi: Cefnogwyr hyderus yn disgwyl ‘sgôr enfawr’ i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr o Gaerdydd yn Nice
Disgrifiad o’r llun,

Criw o Gaerdydd - Joe Dyer, Saul Enos, Scott Taylor, Mason Good a Lloyd Phillips - yn mynd i hwyl wrth amlygu eu cefnogaeth i Gymru

Allwch chi ddim dod i Nice heb fynd i gerdded yn hamddenol ar hyd y promenâd - ac mae cefnogwyr Cymru'n hyderus y bydd tasg y tîm ddydd Sadwrn yr un mor ddidrafferth.

Gydag hyd yn oed prif hyfforddwr Portiwgal yn taflu dŵr oer ar obeithion ei dîm o drechu'r crysau cochion, ar bapur dyma her hawsaf y gystadleuaeth i garfan Warren Gatland.

Cymaint felly, fel bod ambell un yn llygadu sgôr tebyg i 1994, pan wnaeth Cymru drechu Portiwgal o 102-11 yn yr unig gêm rhwng y ddau dîm cyn heddiw.

'Nawn ni roi cweir iddyn nhw'

"Fi'n gobeithio am 100 pwynt fory, i gael y gwahaniaeth pwyntiau lan," meddai Matthew Griffiths o Gastell-nedd.

"Fi'n hyderus - fi'n meddwl nawn ni roi cweir iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cymru y dechrau gorau posib i'w hymgyrch yng Nghwpan Rygbi'r Byd gyda buddugoliaeth o 32-26 mewn gêm wych yn erbyn Ffiji nos Sul

Gyda'r gêm hon yn disgyn rhwng y fuddugoliaeth agoriadol yn erbyn Ffiji, a'r ornest dyngedfennol yn erbyn Awstralia, does dim syndod bod 13 newid i'r tîm fydd yn herio Portiwgal.

Wedi dweud hynny, mae'r gwrthwynebwyr o Iberia bellach yn 16eg yn rhestr detholion World Rugby - eu safle uchaf erioed - ar ôl cyrraedd y gystadleuaeth eleni ar draul yr UDA.

Ac o ystyried y gêm gystadleuol rhwng Ffrainc ac Uruguay nos Iau, mae rhai o'r cefnogwyr yn rhybuddio fod angen dangos parch.

Disgrifiad o’r llun,

Graham Thomas o Landysul a Nigel Thomas o Ynysybwl yn cyrraedd y stadiwm yn Nice

"Fi'n eitha' hyderus o ystyried mai Portiwgal yw e," meddai Rhidian Jones o Gaerfyrddin.

"Ond mae'r timau llai wedi gwella - ti'n gweld 'na o Uruguay yn erbyn Ffrainc.

"Felly bydd hi dal yn eitha' corfforol hanner cynta' - gobeithio yn yr ail hanner gewn ni ddigon o geisiau ac allwn ni fwynhau gwylio'r gêm."

'Cymru'r holl ffordd!'

Mae Matt Davies yn un o'r cefnogwyr sydd wedi ymlwybro ar eu taith o Bordeaux i Nice rhwng y ddwy gêm, ac yn gobeithio am gêm llai nerfus y tro yma.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld tîm gwahanol fel Portiwgal, achos 'dyn ni ddim yn cael y cyfle i weld Cymru'n chwarae timau Tier 2 yn aml," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Matt Davies a Tia Robbins

Er bod Gareth James yn Gymro sy'n byw yn Rugby, Lloegr - a bod ganddo deulu o Bortiwgal - does dim amheuaeth pwy y bydd yn ei gefnogi.

"Dwi'n chwarter Portiwgaeg, ond na, Cymru'r holl ffordd!" meddai.

"Mae Portiwgal yn hoffi taflu'r bêl o gwmpas, felly dylai hi fod yn gêm gyffrous. Ond byddwn ni'n iawn, buddugoliaeth pwynt bonws yn hawdd."

Rhannu'r positifrwydd mae Sian Morris o Borth Tywyn, sy'n meddwl bydd Cymru'n ennill o "sgôr enfawr".

"Dyw tîm Cymru ddim mor gryf â wythnos diwethaf, ond mae'n rhaid rhoi tro i bob aelod o'r garfan sydd 'di dod mas 'ma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Donna Rees, Stephen Rees, Ryan, 14, Llyr, 13, Sian Morris, Elan, 14, Robert Morris a Lucy, 17

Ychwanegodd Lucy, 17, bod y teulu'n cael amser hyfryd wrth ymweld ag ardal y Côte d'Azur hyd yma.

"Fi'n joio loads a fi mor excited am fynd i'r gêm," meddai.

"Ma' Nice yn bouncing, rili neis, a mae'n boiling hefyd."

'Bwysig cael cymaint o bwyntiau â phosib'

A bydd ambell i gefnogwr yn cadw un llygad hefyd ar yr ornest arall yn y grŵp, wrth i Awstralia herio Ffiji nos Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Eurig Thomas, Dianne Thomas, Mansel Thomas, Iolo, 12 a Meilyr, 9

"Os na gewn ni bump pwynt fory, man a man i ni fynd gartre' fi'n credu," meddai Mansel Thomas o Fynydd y Garreg.

"Fi'n eitha' hyderus newn ni'n dda, ac wedyn os bydd Awstralia'n maeddu Ffiji fyddwn ni drwyddo."

Gyda'r grŵp dal yn y fantol, gall gwahaniaeth pwyntiau fod yn bwysig yn ôl Rhun Jones o Giliau Aeron.

"Fi'n weddol obeithiol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhun Jones, Rhidian Jones a Gwion Ramage

"Mae'n bwysig i ni gael cymaint o bwyntiau mas o hon â phosib, achos mae 'na gemau caled iawn i ddod. Ond fi'n hyderus iawn.

"Mae'n rhaid i ni gadw llygad ar beth mae Ffiji'n 'neud. Maen nhw'n dîm peryglus, mae lot o dalent 'da nhw, a dwi'n hanner disgwyl iddyn nhw guro Awstralia."