'Rhagorol, anhygoel, rhyfeddol': Cefnogwyr Cymru'n dathlu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Anhygoel': Ymateb cefnogwyr Cymru i guro Awstralia

"Rhagorol", "anhygoel" a "rhyfeddol".

Yn dilyn buddugoliaeth Cymru o 40-6 yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd nos Sul, roedd na rywfaint o anghrediniaeth ymysg y cefnogwyr wrth ddathlu yn Lyon.

Dyma oedd y sgôr uchaf erioed i Gymru sgorio yn erbyn y Wallabies, ac mae'n sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf i garfan Warren Gatland hefyd.

Roedd cefnogwyr Cymru'n orfoleddus y tu allan i'r stadiwm.

"Anhygoel," dywedodd Einion Davies o Langollen.

Einion Davies [chwith]
Disgrifiad o’r llun,

Mae Einion Davies yn edrych ymlaen at y rownd nesaf wedi'r fuddugoliaeth

"Dechreuon ni'r hanner cyntaf ychydig yn nerfus, ond yr ail hanner roedden ni'n gyfforddus yr holl ffordd trwy.

"Dwi methu credu'r perfformiad yna ar ôl y gemau yn erbyn Fiji a Portiwgal. Ond 'dan ni'n gwybod ein bod yn gallu ei wneud nawr - edrych ymlaen at y rownd nesaf!"

Ac wrth edrych ymlaen, mae gobeithion Steffan a Nicholas yn uchel am weddill y bencampwriaeth.

Nicholas [chwith] a Steffan [dde]
Disgrifiad o’r llun,

I Steffan (dde) mae gan Gymru wir obaith yn y gystadleuaeth

"Rhagorol," meddai Steffan. "Chwarae teg... Dwi'n credu mae ni yw'r tîm mwyaf ffit yn y gystadleuaeth, a ni'n mynd i'w hennill."

'Methu credu'r peth'

Dywedodd Erin Ansell bod y canlyniad a pherfformiad y tîm wedi rhoi balchder mawr iddi.

"Rhyfeddol - mor falch i fod yn Gymraes. O'n i yma i fwynhau'r awyrgylch - Ffrainc a Chwpan y Byd - unreal. Ond wedyn i gael y sgôr yna.

"O'n i'n gw'bod bod Cymru'n mynd i ennill, ond o gymaint â hynny, methu credu'r peth."

Erin Ansell a Gareth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Erin a Gareth wedi mwynhau'r awyrgylch yn Lyon nos Sul

Roedd ei phartner Gareth wedi mwynhau ei amser yn y stadiwm hefyd: "Roedd Awstralia yn sâl, ond dydy hynny ddim yn digwydd i Gymru yn aml iawn.

"Iesu, ga'thon ni amser da yn y stadiwm!"

Disgrifiad,

Cyn y gêm, fe fuodd Aelwyd Hafodwenog yn diddanu yn Lyon

Ac er bod rhai oedd yn gwylio ddim yn gallu credu'r hyn welon nhw ar y cae, i gyn-faswr Cymru Nicky Robinson, roedd y sgôr yn "gwbl haeddiannol" o ystyried perfformiad y chwaraewyr.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd: "Fi'n siŵr bod y chwaraewyr yn agor llygaid nhw bore 'ma, wedi blino falle ond mor hapus gyda gwen ar eu wynebau nhw.

"Cwbl haeddiannol o gael y wên yna ar ôl perfformiad anhygoel neithiwr."

Nicky RobinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyn-faswr Cymru Nicky Robinson yn llawn clod i'r tîm fore Llun

"O'n i'n edrych trwy record Cymru ac edrych 'nôl pryd ni wedi chwarae mor dda a churo tîm o hemisffer y de gan siwt gymaint o bwyntiau.

"Wrth gwrs ni wedi ennill gemau mawr - curo Awstralia yng Nghwpan y Byd diwethaf gyda phedwar pwynt ond pan ti'n curo tîm o 34 pwynt, ti'n gw'bod bod ti wedi rhoi perfformiad da."

'Tîm caled iawn i faeddu'

"Perfformiad cyflawn" oedd hi gan Gymru, meddai sylwebydd arall, Emyr Lewis, ar Dros Frecwast.

Dywedodd cyn-flaenwr Cymru: "Fe gafon ni'r hunan-hyder a hunan-gred ac roedd y gwaith yn y lein yn wych, fi'n credu dim ond un lein gollon ni neithiwr sydd yn wych i gofio pa mor effeithiol oedd lein Awstralia yn erbyn Fiji.

"Felly mae'n dangos faint ni wedi datblygu fel carfan ers y 6 Gwlad. Ni'n dîm caled iawn i faeddu."

Jac Morgan yn dathluFfynhonnell y llun, Guillaume Horcajuelo

Mae'r canlyniad yn gadael Awstralia ar y dibyn yn y gystadleuaeth, ar ôl dwy golled a dim ond un gêm ar ôl yn y grŵp - bach iawn yw eu siawns o gyrraedd yr wyth olaf.

Roedd Gethin Owen, sy'n byw yn Tasmania, wedi cael blas ar y pwysau oedd ar y Wallabies a'u prif hyfforddwr Eddie Jones cyn nos Sul.

"Cyn y gêm oedden nhw'n adeiladu'r gêm fel un hynod bwysig i Awstralia oherwydd yn amlwg os yn colli roedden nhw allan o Gwpan y Byd, maen nhw wedi bod yn adeiladu pwyse iddyn nhw eu hunain.

"Ar ôl y perfformiad, dim just y sgôr y perfformiad, maen nhw yn reit dorcalonnus yma ar y funud."

Ond mae gan Gymru seibiant nawr cyn y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Georgia ar 7 Hydref.

A gyda'u lle yn yr wyth olaf yn sicr, bydd y golygon yn troi at ornest yn y rownd nesaf yn Marseille.