O Tom Jones i Gavin and Stacey: straeon 60 mlynedd yn 'showbiz'
- Cyhoeddwyd
Gweithio efo Diana Dors, mis yn y Casino de Monte Carlo, serennu yn Gavin and Stacey... mae'r diddanwr ac actor Johnny Tudor wedi cael llond trol o brofiadau difyr mewn gyrfa 60 mlynedd ac mae o'n dal i weithio.
Wrth iddo baratoi i ddathlu'r chwe degawd drwy gynnal 'Noson yng Nghwmni...' yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd ar 13 Hydref, dyma chwe llun sy'n cloriannu ei yrfa.
Gwrandewch ar Johnny Tudor yn trafod ei yrfa ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru.
Perfformio yn y gwaed
"Dechreuais i fy ngyrfa pan o'n i'n ddeunaw oed. Roedd fy nhad a mam yn showbusiness. Treuliais y rhan fwyaf o fy mhlentyndod back stage.
"Roedd fy mam yn dysgu fi ddawnsio tap ac roedd fy nhad yn bianydd - yn chwarae piano gyda fi yn y clybiau yn y cymoedd yn y lle cynta'. Sioe broffesiynol gynta' fi oedd yn y summer season yn Skegness yn 1963.
"Yn y lle cynta' dechreuais i ddawnsio tap ac roedd fy nhad yn dweud "look... os 'da chi isio bod yn showbiz go iawn rhaid canu hefyd". Nes i ddeud "I can't sing" a dwedodd e "you haven't tried!" Ar ôl hynny dyma ni'n rhoi act gyda'n gilydd gyda fy nhad yn chwarae'r piano a fi'n gwneud bach o ganeuon, dynwared pobl a 'chydig bach o ddawnsio.
"Es i i Abertawe i wneud audition ar gyfer rhaglen o TWW Looking for the Stars a 'nes i ennill hwnnw... so dyna'r dechre'."
Canu Cymraeg ar deledu byw - cyn dysgu'r iaith
"Rhaglen teledu gynta' i fi wneud oedd yn y Gymraeg cyn bod fi wedi dysgu Cymraeg. 'Nes i ddysgu pan o'n i'n 30 oed.
"Ges i alwad ffôn oddi wrth Ruth Price."Can you speak Welsh?" meddai hi. "Na - I can't speak Welsh". "Well can you sing in Welsh?"... "Well I sang in Welsh in school so I'm sure I can."So dim problem!
"Dysges i'r caneuon fel poli parot felly dyma fi'n neud Disc a Dawn bob Sadwrn yn fyw - felly os oedd rhywbeth yn mynd yn wrong, forget it, do'n i ddim yn gallu ad libio o gwbl so roedd rhaid fi ddysgu fe yn iawn.
"Ar ôl hynny dyma fi'n cael cyfres gyda Ryan Davies - Ryan a Ronnie, a wedyn y pilot Ryan a Ronnie, Jill a Johnny, wedyn cyfres gyda Tammy Jones. So pam nes i Opportunity Knocks [rhaglen deledu fel Britain's Got Talent yn yr 1960au] roedden nhw'n meddwl bod fi'n dechrau yn teledu ond ro'n i'n old pro wedi 'neud o leia 20 o raglenni."
Y Palladium a rhyddhau record
"Fy nghyfle mawr cyntaf oedd pan enillais Opportunity Knocks yn 1969. 'Nes i ennill bedair gwaith. Ar ôl hynny, cael record contract gyda President Records a wnaeth y record company yrru record fi i'r Gibraltar Song Festival yn 1970 a enilles i hwnna hefyd. A pan o'n i yno roedd Dorothy Squires yn y gynulleidfa ac ar ôl i fi ennill dyma hi'n gofyn i fi weithio gyda hi yn y London Palladium.
"Mae 2,500 o bobl yn y Palladium a pan ti ar y llwyfan mae pobl yn teimlo yn agos atat ti oherwydd siâp y Palladium, mae'r sound yn grêt a'r band yn ffantastig - 30-piece orchestra.
"Gweithies i gyda lot o sêr - Diana Dors, Dick Emery, Harry Seacombe a Tom Jones unwaith. Es i i Abertawe, i'r Brangwyn Hall [fel compare i Tom Jones] a dechreuais i ddweud 'ladies and gentleman..."Icouldn't say anythingelse'- roedd y gynulleidfa yn mynd yn wyllt... 'aaaargh - Tom Jones!!'"
Teithio'r byd
"Lle sbesial oedd Monte Carlo. Dwi wedi cael sioe am fis yn y Casino Monte Carlo - roedd e'n brofiad ffantastig.
"Dim ond tri chwarter awr ro'n i'n 'neud ar y llwyfan bob wythnos oherwydd roedden nhw eisiau i bobl mynd lawr i gamblo! Gweld y sioe cynta', bwyta ac wedyn fyny yn y lifft i'r casino i chwarae ar y byrddau.
"Dwi wedi bod i De Affrica, Sun City, Swaziland, Botswana, Lesotho, Awstralia - es i Awstralia dwywaith. Dwi'n dwli ar Awstralia, mae'n lle hyfryd - ac mae'r gynulleidfa fel pobl yng Nghymru - os maen nhw'n hoffi chdi, grêt, os ddim - lwc owt!"
"What's occuring?"
"Ges i alwad ffôn oddi wrth fy asiant i neud audition ar gyfer Gavin a Stacey - y gyfres gyntaf a neb yn gwybod bydd e'n llwyddiannus fel oedd e.
"Felly es i i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i wneud audition i ran Dave Coaches, a dyma'r boi yn dweud 'you don't look like a bus driver... ond wyt ti'n gallu 'neud hwn - y disk jockey - can you ad lib a bit?'... 'aye, dim problem,' medda fi - and I get the part! Disk jockey yn y briodas.
"Ar ôl hynny dyma fi'n cael galwad gan y cwmni. 'John dwi eisiau chi eto rŵan... a ti'n 'neud y job arall rŵan ti yn y clwb yn neud y bingo'... so dyma fi'n neud y rhan bingo. Profiad ardderchog."
Dal i ddawnsio yn 80 oed
"Fi'n ymarfer yn y garej - jest dipyn bach o bren ar y llawr a dwi'n dawnsio yn y garej. Fel athlete, os i chi ddim yn 'neud e chi ddim gallu a ma'n rhaid chi 'neud e, 'neud e, 'neud e, a chadw'r coesau yn iawn.
"Mae'n anodd heddi i 'neud hi yn showbiz - does dim llawer o le i ddysgu eich dawn.
"Pan o'n i'n dechre roedd lot o glybie o gwmpas y wlad i gyd - Manceinion, Lerpwl, Birmingham. Yn y cylch fan hyn er enghraifft Titos yng Nghaerdydd, Double Diamond Club yng Nghaerffili. Ti'n gallu 'neud wythnos mewn un ohonyn nhw, bob wythnos a dysgu eich trade.
"Nawr, os oes rhywun ar y teledu yn 'neud rhywbeth fel Britain's Got Talent - ar ôl hynny ble maen nhw yn mynd i weithio? Os dim musical yn y West End neu panto, does dim arall."
Hefyd o ddiddordeb: