Estyn: Sgiliau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg 'yn bryder'
- Cyhoeddwyd
Mae sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cynradd Saesneg yng Nghymru yn "dal i fod yn bryder", yn ôl adroddiad newydd.
Aeth Estyn - y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru - i ymweld â gwahanol fathau o ysgolion y llynedd er mwyn cael trosolwg o'r hyn sy'n gweithio, neu ddim, o fewn y system addysg.
Noda'r adroddiad bod diffyg dealltwriaeth ymhlith disgyblion o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod y sylwadau yn "siomedig".
Cafodd yr adroddiad ei lunio gan brif arolygydd Estyn, Owen Evans, a'r bwriad yw rhoi syniad o'r hyn sydd angen ei wella o safbwynt addysg a hyfforddiant.
Mae'n nodi "nad ydi mwyafrif y disgyblion yn gwneud digon o gynnydd o ran y Gymraeg, na chwaith yn eu dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru".
O'r 169 o ysgolion cynradd Saesneg a gafodd eu harolygu, cafodd 51 (30%) o'r rheiny eu hamlygu fel rhai sydd angen gwella sgiliau Cymraeg disgyblion, yn enwedig sgiliau llafar.
Fe dderbyniodd naw (18%) o'r 50 o ysgolion cynradd Cymraeg a gafodd eu harolygu, yr un argymhelliad hefyd.
Wrth gyfeirio at ysgolion cynradd yn benodol, mae'r adroddiad yn dweud: "Yn debyg i'r llynedd, mewn gormod o ysgolion, dyw disgyblion ddim yn gwneud digon o dasgau ysgrifennu hir.
"Mae gormod o gamgymeriadau syml o ran gramadeg ac atalnodi yn cael eu methu, yn ogystal â diffyg adborth gan athrawon."
O'r holl ysgolion uwchradd a gafodd eu hymweld, cafodd 64% (18) argymhelliad i wella effeithiolrwydd y dysgu.
'Arbrofi gyda dulliau addysgu newydd'
Noda'r adroddiad hefyd fod lefelau presenoldeb yn parhau yn is na'r cyfnod cyn y pandemig, gyda phresenoldeb disgyblion o gefndiroedd mwy di-freintiedig yn achos pryder arbennig.
Er hynny mae'r adroddiad yn nodi bod sgiliau llafar disgyblion yn arbennig o gryf yn y rhan fwyaf o ysgolion, tra bod disgyblion hefyd yn arddangos sgiliau digidol hynod o effeithiol.
Yn ogystal, mae'n dweud bod y rhan fwyaf o ysgolion wedi datblygu "gweledigaeth glir ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru", ac yn "arbrofi gyda dulliau addysgu newydd".
Ychwanegodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, bod yr adroddiad yn dangos "diffyg dealltwriaeth o'r pwysau sydd ar arweinwyr ysgolion a cholegau, a'r amgylchiadau heriol sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd".
Bydd adroddiad blynyddol Estyn yn cael ei gyhoeddi yn llawn ym mis Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023