John Hughes: Dyn haearn Dyffryn Donetsk

  • Cyhoeddwyd
John HughesFfynhonnell y llun, Archif Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

John Hughes

Donetsk yw un o'r dinasoedd mwyaf yn Wcráin, gyda hanes o ddiwydiant trwm, ac mae brwydro ffyrnig wedi bod yno ers i Rwsia ymosod ar y wlad yn Chwefror 2022.

Cymro o Ferthyr Tudful, John James Hughes, sefydlodd y ddinas. Cafodd Yuzovka neu Hughesovka ei enwi ar ei ôl. Pan ddaeth Stalin i rym cafodd enw'r ddinas ei newid i Stalino, yna cafodd yr enw Donetsk ei fabwysiadu yn 1961.

Yr hanesydd Robert Morris, o Ddyffryn Nantlle, sy'n olrhain hanes John Hughes, Yuzovka (1814-1889) mewn darn arbennig i Cymru Fyw.

Un diwrnod yn 1864 daeth dau gadfridog o Rwsia i ymweld â gwaith haearn mawr Millwall, yn Llundain. Roedden nhw'n awyddus i ddysgu mwy am wrthgloddiau-parod o haearn i warchod safleoedd caerog rhag ergydion gynnau mawr.

Y peiriannydd profiadol a'u dyfeisiodd, ac a fu'n esbonio'r dechnoleg wrthyn nhw, oedd pennaeth y gwaith, John Hughes, brodor o Ferthyr Tudful. Gobaith y cadfridogion oedd defnyddio'r gwrthgloddiau hyn i warchod caer fawr llynges Rwsia yn Kronstadt, yng ngheg y culfor sy'n arwain at St. Petersburg.

Trefnodd John Hughes arddangosfa lwyddiannus o'r gwrthgloddiau yn harbwr milwrol Portsmouth. Ond wrth sgwrsio â'r ddau gadfridog dysgodd John Hughes am bosibliadau busnes addawol yn Rwsia.

Cefndir

Mab i brif beiriannydd gwaith haearn mawr Cyfarthfa, ym Merthyr, oedd John Hughes. Ganed ef yn y dref yn 1814, ac fe'i hyfforddwyd yn beiriannydd yng Nghyfarthfa o dan oruchwyliaeth ei dad.

Daeth yn beiriannydd yng ngwaith haearn Glyn Ebwy, gan ennill profiad a chryn dipyn o gelc yno. Fe brynodd waith haearn Glan Wysg, ym mhorthladd Casnewydd, yn 1852.

Yno cyfarfu ag Elizabeth Lewis, merch i berchennog gwesty, ac fe priodwyd y ddau. Cawsant wyth o blant - chwe mab a dwy ferch.

Ffynhonnell y llun, Archif Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Dau o deulu John Hughes wedi gwisgo fyny mewn gwisg gwerinwr o Rwsia

Yng Nghasnewydd, daeth John yn enwog am gynhyrchu cadwyni angor, a gwahoddwyd ef i ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr gwaith haearn morwrol pwysig Millwall. Yno y buasai Isambard Brunel yn adeiladau llong haearn arloesol y Great Eastern.

Erbyn 1860 roedd John Hughes yn bennaeth y gwaith, â'i deulu yn byw yn Great Winchester Street, Millwall. Yno, mae'n debyg, yr arhosodd Elizabeth Hughes. Nid oes hanes iddi erioed fyw yn Yuzovka. Ym mynwent Norwood, Llundain, y claddwyd hi yn 1880.

Rwsia

Un o'r pethau a ddysgodd John am Rwsia oddiwrth y ddau gadfridog oedd yr angen mawr yno am gledrau rheilffordd. Roedd y Tsar Alexander II yn ceisio datblygu diwydiannau modern, ac yn arbennig glo ac haearn.

Un rhwystr, mewn gwlad mor enfawr, oedd diffyg cysylltiau mewnol a chludiant. Roedd y Tsar â'i fryd ar ddatblygu rhwydwaith o reilffyrdd, ond roedd mewnforio cyflenwadau mawr o gledrau parod yn afresymol o ddrud.

Rhoesai gonsesiwn masnachol i un o'i uchelwyr i sefydlu gwaith haearn yn Nyffryn Donets, yn nwyrain Wcráin, ond roedd hwnnw wedi bod yn fethiant. Serch hynny, roedd arolwg daearegol wedi dangos bod adnoddau helaeth o lo a mwyn haearn yn y dyffryn.

Penderfynnodd John Hughes brynu'r consesiwn a gwneud y gwaith ei hun. Ffurfiodd gwmni masnachol a llwyddodd i ddenu £300,000 mewn buddsoddiadau i'r fenter. Yn 1869 fe ymfudodd i Ddyffryn Donets, gyda 70 o weithwyr profiadol, i gychwyn ar y gwaith.

Gwelodd bod amrywiaeth o wahanol fathau o lo ar gael yn y rhanbarth, fel ag ym maes glo de Cymru, yn cynnwys glo golosg a'r glo caled. Erbyn 1872 roedd y gwaith yn cynhyrchu haearn yn llwyddiannus, ac yn 1874 cynhyrchwyd 8,000 o dunnelli o gledrau.

Roedd y cyflenwadu glo mor helaeth fe allai John ddefnyddio peiriannau ager ar gyfer bob un o'r prosesau, gan fod llafur yn brin ar y cychwyn.

Proses newydd

Penderfynodd llywodraeth Rwsia mai cledrau dur, nid rhai haearn, oedd eu heisiau, ac addasodd John Hughes y gwaith i ateb y galw. Mabwysiadodd ddull o gynhyrchu dur a arloeswyd yng ngwaith Glandŵr, Abertawe, sef proses Siemens-Martin.

Erbyn 1884 roedd John Hughes yn cynhyrchu 20,000 o dunnelli o gledrau dur yn flynyddol.

Ardal wledig a thenau ei phoblogaeth oedd Dyffryn Donets, heb fod mor ffrwythlon â'r "tir du" a nodweddai lawer o Wcráin, tir yn gyforiog o gaeau ŷd.

Er iddo ricriwtio mwy o weithwyr o wledydd Prydain, a nifer o Gymry yn eu plith, denwyd y rhan fwyaf o'r gweithlu o rannau eraill o Rwsia. Cyfanswm poblogaeth y gymuned gyfan ar safle'r gwaith yn 1870 oedd 164, ond bu'r cynnydd yn syfrdannol dros yr 20 mlynedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Glamorgan Archive
Disgrifiad o’r llun,

Dau weithiwr o Rwsia - dau o'r nifer wnaeth symud i Hughesovka i weithio

Erbyn 1889, pan fu John Hughes farw, roedd 6,000 o weithwyr haearn a dur a 2,000 o lowyr yn y dyffryn. Daeth llawer o'r rhain â'u teuluoedd i fyw yno, a thyfodd tref sylweddol o tua 20,000 o bobl. Enw'r gymuned ar y cychwyn oedd Yuzouskoi Zavoa ("Ffatri Hughes"), ond maes o law fe fabwysiadwyd yr enw Yuzovka ar gyfer y dref a'r gweithfeydd.

Yn 1896 roedd 8,000 o weithwyr haearn a dur yno, a chwmpasai'r safle 55,000 o aceri, yn cynnwys ei fferm ei hun. Yn ogystal â'r gweithwyr diwydiannol, daeth llawer o grefftwyr a siopwyr i fyw yno - rhai ohonyn nhw o Brydain, ond eraill o'r dref fawr agosaf, Kharkiv.

Ffynhonnell y llun, Archif Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Hughesovka

Erbyn yr 1880au roedd dwy ysgol yno, un cyfrwng-Saesneg ac un Rwsieg. Roedd yno eglwys Anglicanaidd, swyddfa'r post, swyddfa'r heddlu a gwesty moethus, y Great Britain Hotel. Sefydlwyd gwaith brics yno ar gyfer yr holl waith adeiladu, gan nad oedd llawer o feini addas ar gael. Codwyd tai brics ar gyfer y gweithwyr o Gymru a gweddill Prydain, ond cytiau pur wael oedd cartrefi'r gweithwyr Rwsiaidd. Roedd eu cyflogau, hefyd, yn llawer is na chyflogau'r Prydeinwyr.

Gwrthdaro

Datblygodd undebaeth lafur yno, a bu streiciau a gwrthdaro rhwng y gweithwyr a'r heddlu ar adegau. Fel cyflogwr, roedd agwedd John Hughes yn debyg iawn i agweddau meistri glo a haearn yn ne Cymru ac, yn wir, ar draws y byd diwydiannol.

Disgrifiad o’r llun,

Yuzovka, fel ag yr oedd yn nyddiau John Hughes ynghanol yr unfed ganrif a'r bymtheg

Os rhywbeth, gan fod awdurdodau biwrocrataidd y Tsar mor bell i ffwrdd, medrai John Hughes a'i feibion reoli'r gymuned yn ôl eu safonau eu hunain, a gallent ddibynu ar yr heddlu i gadw trefn yno. Serch hynny, mae'n debyg bod cyngor John Hughes yn cael ei barchu yn St. Petersburg, ac ar ymweliad â'r brifddinas y bu John farw yn 1889. Dychwelwyd ei gorff i Lundain i'w gladdu gyda'i wraig.

Does dim sicrwydd pa nifer o Gymry a ymgartrefodd yn Yuzovka, ond treuliodd pedwar o feibion John Hughes eu gyrfaoedd yno. Yn 1896, lluniodd un o'r meibion, Arthur, restr o'r Cymry oedd yn byw yno bryd hynny. Roedd 73 ohonyn nhw, sef 22 o weithwyr a'u teuluoedd. Hawliai Arthur y buasai nifer y Cymry gryn dipyn yn fwy mewn blynyddoedd a fu. Cododd John Hughes blasty o frics ar gyfer ef ei hun a'i deulu, ac roedd cragen hwnnw'n dal i sefyll yn solet yn 2006.

Ymysg y Rwsiaid a fu'n byw ac yn gweithio yn Yuzovka roedd Nikita Krushchev. Ymfudodd ei deulu yno o'u pentref gwledig yn 1908, pan oedd Nikita'n 14 oed. Bu yntau â rhan pwysig yn hyrwyddo Comiwnyddiaeth yn y Donbas wedi'r Chwyldro, cyn troi ei olygon i Moscow o dan Stalin. Bu Krushchev yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd o 1956 i 1964, yng nghanol y Rhyfel Oer.

Torrwyd cysylltiad teulu Hughes ag Yuzovka gyda'r Chwyldro Bolsieficaidd yn 1917. Meddiannwyd y gweithfeydd gan y Sofiet rhanbarthol yn Kharkiv a gadawodd y teulu a'r rhan fwyaf o'r Prydeinwyr y wlad. Yn 1929 newidiwyd enw Yuzovka i Stalino.

Mae'n bosib bod y newid hwn yn adlewyrchu twf 'cwlt' Stalin fel arweinydd; ond 'Stali' ydi'r gair Rwsieg am ddur, a dinas y dur oedd Yuzovka yn ddi-os. Cymerasai Stalin ei ffugenw pan oedd yn wrthryfelwr ifanc - enw'n golygu 'dyn o ddur'. Yn 1961 newidiwyd enw'r ddinas eto i Donetsk, a dyna yw ei henw heddiw.

Ffynhonnell y llun, Glamorgan Archive
Disgrifiad o’r llun,

Y gweithfeydd dur yn Hughesovka yn y 1890au

Yn 1961 roedd y boblogaeth oddeutu 700,000: erbyn heddiw mae'n tynnu at filiwn; ond mae'r cyffiniau dinesig yn cynnwys tua dwy filiwn o bobl. Mae dur a chemegolion yn dal yn bwysig yn economi Donetsk, ond bu dihoeni ar y diwydiant glo yno erbyn hyn.

Gellir dadlau bod ymgyrch ddiwydiannu John Hughes wedi cael effaith ddemograffig dyngedfennol ar Wcráin. Datblygodd gwahaniaeth sylweddol rhwng rhanbarthau dwyreiniol Donetsk a Luhansk a gweddill Wcráin, gwahaniaeth a ddaeth fwyfwy i'r amlwg yn dilyn chwalfa'r Undeb Sofietaidd ac annibyniaeth Wcráin yn 1991.

Mae llawer o boblogaeth Donetsk a Luhansk o dras Rwsiaidd ac yn arddel Rwsieg fel eu prif iaith, llawer yn ddisgynyddion i'r gweithwyr a gyrchodd gynt i Yuzovka i chwilio am waith, a bu mewnfudo pellach drwy'r cyfnod Sofietaidd.

Bu gwrthwynebiad yno i ymdrechion llywodraeth Wcráin i uniaethu â'r gorllewin, er enghraifft y diffyg cefnogaeth yn y dwyrain i'r 'Chwyldro Oren' yn 2004, ac i fudiad protest 'Maidan' yn 2013, mudiad yn gwrthsefyll ymgais Rwsia i danseilio chais Wcráin i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd.

Daeth y ddeuoliaeth yn gignoeth o amlwg yn 2014 pan gafwyd gwrthryfel arfog gan gefnogwyr Rwsia yn nwyrain Wcráin, gyda Rwsia ei hun yn eu cefnogi. Roedd y gwrthryfel hwnnw yn dal i waedu'r wlad pan oresgynwyd Wcráin gan luoedd Vladimir Putin ym mis Chwefror 2022.

Er nad yw enw'r ddinas yn coffau John Hughes erbyn hyn, saif cerflun ohono ar un o strydoedd Donetsk - yn ei ddangos yn ddyn cydnerth yn llewys ei grys, yn barod ar gyfer gwaith mawr ei oes.

Pynciau cysylltiedig