Pum munud gyda... Gethin Williams
- Cyhoeddwyd
Mae Gethin Williams yn gweithio fel trydanwr o ddydd i ddydd ond yn ystod y penwythnosau mae'n trawsnewid i'w gymeriad reslo, 'Dragon Kid Cymru'.
Os nad yw hynny'n ddigon mae e hefyd yn arddangos ei gorff mewn cystadlaethau adeiladu corff (neu body building).
Aeth Cymru Fyw draw i Cross Hands i gael sgwrs gydag ef.
Oeddet ti'n dilyn rhaglenni reslo pan oeddet ti'n blentyn?
Nago'n. Roedd mwy o ddiddordeb gen i mewn gyrru tractor ar fferm fy nhad yn Talley ger Llandeilo er doedd edrych ar ôl yr anifeiliaid ddim yn apelio chwaith. Doedd dim llawer o ddiddordeb gen i mewn chwaraeon pan ro'n i yn yr ysgol ond mi nes i gymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin (Duke of Edinburgh Award) pan ro'n i'n bymtheg mlwydd oed. Ro'n i ychydig dros bwysau ar y pryd felly 'naeth e'n ysgogi i brynu set codi pwysau. Dyna ble ddechreuodd fy niddodreb gyda ffitrwydd.
Yna nes i fynychu dosbarthiadau Karate yng Nghastell Newydd Emlyn cyn symud i glwb yn Abertawe ac o fan yna daeth y wefr o deithio'r wlad a chystadlu.
Beth ddaeth gyntaf, y reslo neu'r cystadlaethau adeiladu corff?
Y reslo. Es i ac Ethan, fy mab hynaf, i weld sioe Welsh Wrestling yn Llanelli pan o'n i'n 32 a dyna beth 'naeth danio'r sbarc fel petai. Ro'n i'n brysur iawn gyda gwaith ac os dwi'n onest ro'n i'n mynychu bwytai prydiau cyflym yn fwy aml na'r gym. Penderfynes i bryd 'ny bod angen newid fy ffordd o fyw a dechreuais i ymarfer gyda bechgyn Welsh Wrestling. O fewn chwe mis ro'n i'n perfformio gyda'r criw mewn sioeau ar draws Cymru.
Pan rwyt ti'n gwisgo dillad tynn wedi ei 'neud o leicra o flaen cynulleidfa ti'n dechrau dod yn ymwybodol o sut mae dy gorff di'n edrych. Dyna pryd ddechreuais i adeiladu'r corff o ddifri. Mae'r ddau hobi'n mynd law yn llaw 'da'i gilydd.
Pa fath o gymeriad yw Dragon Kid Cymru?
Mae'n gymeriad da! Fel arfer mae'r reslwyr naill ai'n dda neu'n ddrwg. Mae'n rhan o'r sioe ac mae'r dorf yn dwli ar y syniad o gymeriad da yn reslo'n erbyn cymeriad drwg. Pan maen nhw'n gwylltio ti prin yn gallu clywed dy hunan yn y ring ac mae gwybod eu bod nhw'n mwynhau eu hunain yn werth y byd! A ti'n gwybod dy fod ti'n 'neud jobyn teidi!
Petai ti'n gorfod dewis rhwng reslo a chystadlu fel adeiladwr corff pa un fyddet ti'n ei ddewis?
Mae'n amhosib dewis. Dwi'n mwynhau gwneud y ddau. Mae'r criw reslo wedi dod yn deulu ychwanegol i mi erbyn hyn. Ry'n ni gyd yn dod mlaen mor dda a ry'n ni'n cael cymaint o sbort yn perfformio gyda'n gilydd. Mae'n deimlad sbeshal perfformio o flaen torf ac mae'u ymateb nhw'n rhoi cymaint buzzi fi. Heb eu cefnogaeth selog nhw fydden na ddim sioeau. Maen nhw mor ffyddlon ac yn ein dilyn ni i bob man. Mae'r awyrgylch yn drydanol!
Ni'n teithio i wersyllau gwyliau ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban ac yn gwerthu mas bob tro. Dwi'n joio mynd i'r Barri, Cwmbrân a Treco Bay ym Mhorthcawl os dwi'n onest. Yn aml iawn mae 'na rhwng 800 a 1,000 o bobl yn gwylio'r sioeau ar y penwythnosau.
Yr hyn dwi'n mwynhau am yr adeiladu corff yw'r sialens. Dwi'n 41 erbyn hyn a dwi wedi bod yng ngofal Alex Georgiev lawr yng Nghaerffili ers rhyw flwyddyn bellach. Dwi'n ei gofio fel Hawk ar raglen Gladiators nôl yn y 90au. 'Naeth e fy meirniadu i mewn cystadleuaeth rai blynyddoedd yn ôl a 'nes i boeni e i'n hyfforddi i, a diolch byth mi 'naeth e gytuno!
Sut hwyl rwyt ti wedi ei gael hyd yn hyn gyda'r cystadlaethau arddangos dy gorff?
Dwi'n cofio 'neud fy sioe gyntaf yn Theatr Brycheiniog yng nghystadleuaeth PCA (Physical Culture Association) Cymru pum mlynedd yn ôl ac enillais i adran Y Corff Clasurol. Dwi wedi ennill wyth ohonyn nhw erbyn hyn.
Yn 2022 enillais i'r FitX British Championship yn Blackpool a dod yn chweched yng nghystadleuaeth Mr Universe yn Bradford yn yr un flwyddyn. Dwi hefyd wedi ennill Mr Wales i ddynion dros bedwar deg mlwydd oed.
Wyt ti wedi profi unrhyw droeon trwstan tra'n perfformio neu'n cystadlu ar lwyfan?
Naddo, diolch i'r drefn... wel, ddim hyd yn hyn ta beth. Wedi gweud 'ny mi 'naeth rhywbeth ddigwydd i un aelodau hŷn y criw reslo. Roedd e bob amser yn tanlinellu'r pwysigrwydd o fod yn broffesyinol ond yn ystod un sioe roedd e'n perfformio yn y ring ac yn sydyn fe deimlodd e rhywbeth yn crynu ym mhants ei wisg. Cofiodd ei fod wedi cadw'i ffôn symudol lawr 'na! Ei wraig oedd wrthi'n ffonio ar y pryd ond fe daflodd e'r teclyn i'w gornel a'i ffonio hi nôl ar ôl gorffen yr ornest. Ni'n dal yn ei atgoffa fe am y digwyddiad!
Wyt ti wedi dioddef anafiadau tra'n ymarfer neu'n cystadlu?
Diolch i'r drefn, dwi heb. Mae'n rhaid i mi 'weud mae'r criw reslo'n hynod o broffesiynol ac mae pawb yn cymryd gofal wrth ymladd. Dwi'n cael fy adnabod am un symudiad yn bennaf sef dwi'n cydio ym mhen fy ngwrthwynebydd ac yna'n disgyn yn ôl nes fod ei ben e'n taro'n erbyn y llawr.
Dwi'n ofalus pan dwi'n ymarfer codi pwysau hefyd. Mae Alex yn cadw llygad barcud ar bopeth dwi'n 'neud ac mae ei arweinyddiaeth e'n arbennig.
O ble rwyt ti'n cael yr egni i reslo, cystadlu ac ymarfer tra'n gweithio fel trydanwr?
Dwi'n joio 'neud y cyfan os dwi'n onest felly dyw e ddim yn teimlo fel baich. Dwi fel arfer yn ymarfer gydag Alex ddwywaith yr wythnos ac yna gweddill yr amser yn Cross Hands. Fy nod yw i neud sesiwn cardio bob dydd ar fy meic, codi pwysau rhwng pum a chwech gwaith yr wythnos ac yna'r sioeau reslo bob penwythnos.
Mae'r deiet dwi'n ei ddilyn yn un llym iawn; 16 ŵy, cyw iâr a reis, uwd a digon o fwyd gwyrdd - dyna dwi'n ei fwyta ac yfed bob dydd. Mae'n rhaid i mi fwyta naw pryd mewn diwrnod ac yfed rhwng pedair a phump litr o ddŵr yn ogystal.
Pan mae'r cystadlaethau arddangos y corff yn agosáu dwi'n tynnu nôl ar fy mwyd. Heb os y cyfnod anodda i mi yw'r pythefnos cyn unrhyw gystadleuaeth rhwng gwaith, diffyg egni a theimlo'n llwglyd.
Beth sydd gen ti ar y gweill yn y dyfodol?
O ran y reslo bydda i dal wrthi ar y penwythnosau gyda Welsh Wrestling.
O ran nod personol, dwi eisiau cadw i fynd tra bo' fi'n gallu ac pharhau i wella safon edrychiad fy nghorff. Licen i ennill pencampwriaethau Cymru a Phrydain.
Dwi'n gwybod bydd rhaid i mi roi'r gorau iddi rhyw ddiwrnod ond yn y cyfamser dwi eisiau ysbrydoli pobl eraill sydd gyda diddordeb mewn reslo ac adeiladu corff. Dwi bob amser yn barod i rannu 'mhrofiadau gyda phobl ifanc.
Hefyd o ddiddordeb: