Pryderon am ddiogelwch cronfa ynni batris ger Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
baner grŵp ymgyrchu
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn ofni y gallai'r safle achosi risg o dân

Mae ymgyrchwyr ger Wrecsam yn dweud eu bod yn pryderu am gynllun ar gyfer cronfa ynni batris mawr yn agos i'w pentref.

Bwriad cwmni ynni adnewyddadwy Innova yw adeiladu cyfleuster 400MW ar safle maes glas ger yr A483 yn Rhostyllen.

Ond mae rhai trigolion lleol yn ofni y gallai'r safle achosi risg o dân a ffrwydrad sylweddol gan arwain at ddifrod amgylcheddol.

Dywedodd y datblygwr fod y cynlluniau wedi lleihau o ran maint o ganlyniad i ymateb trigolion lleol a'i fod yn cymryd diogelwch o ddifrif.

Dydy Innova ddim wedi cyflwyno cais cynllunio hyd yma, ond roedd yna digwyddiad ymgysylltu cymunedol fis Mai, pan oedd y cynlluniau ar gyfer y safle yn fwy - 1,025MW.

Mewn ymateb, cafodd grŵp ymgyrchu lleol ei sefydlu i wrthwynebu'r cynigion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin Williams yn poeni am yr effaith posib ar Rostyllen pe bai yna dân ar y safle

Yn ôl Kevin Williams, sy'n byw yn Rhostyllen ac yn aelod o'r grŵp ymgyrchu, mae eu gwaith ymchwil nhw yn awgrymu bod y batris yma yn gallu mynd ar dân, neu ffrwydro.

"Oedd 'ne ddim sôn am hynny pan nethon nhw ddod i'n gweld ni," meddai.

"A rhyw 300 llath lawr y ffordd mae 'ne bentre' efo ysgol feithrin, ysgol gynradd, poblogaeth o ryw 2,000. Mae 'ne bentre' arall, Rhosllannerchrugog, rhyw ddwy filltir i ffwrdd. 'Den ni'n ymyl ffordd ddeuol.

"A 'den ni'n poeni os fyse'r batris 'ma'n ffrwydro ac yn mynd ar dân, fyse'n cael effaith fawr ar y pentre'." 

Ychwanegodd Mr Williams: "Fyse raid i bobl adael eu tai nhw tra mae'r tân yn cael ei ddiffodd, ac o be' 'den ni'n gweld, mae'n cymryd dyddie' a miliynau o litrau o ddŵr i ddiffodd y tannau yma."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r fath o fatris fyddai'n cael eu storio ar y safle ger Rhostyllen

Mae cronfeydd ynni batri yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o leihau allyriadau carbon gyda dros 90 o safleoedd llai ledled y Deyrnas Unedig.

Maen nhw'n storio trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy, ac yn ei ryddhau pan nad ydy'r ffynonellau hynny'n cynhyrchu pŵer.

Ond mae tanau a ffrwydradau wedi cael eu hadrodd ledled y byd gan gynnwys un ar safle 20MW yn Lerpwl yn 2020.

Daeth adroddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Glannau Mersi i'r casgliad fod y digwyddiad - "y cyntaf" o'r math hwn yn y DU - wedi ei achosi gan "rediad thermol" gan arwain at "ddigwyddiad ffrwydrol sylweddol".

Mae Cyngor y Penaethiaid Tân yn annog datblygwyr i ymgysylltu'n gynnar â gwasanaethau tân lleol yn y broses gynllunio, ond dydy hynny ddim hyn yn ofyniad statudol.

'Os ydy pethau'n mynd o'i le, be sy'n digwydd wedyn?'

Yn ôl y cyn-ddiffoddwr tân, Alan Hughes, sydd bellach yn hyfforddi ar ddiogelwch tân, mae'r dechnoleg batris wedi datblygu'n gyflymach na gallu diffoddwyr tân i daclo'r fflamau allan nhw ei achosi.

"Dwi'n gweld sut mae pobl yr ardal [Rhostyllen] yn boenus am hyn a dwi'n meddwl ddylsa' nhw edrych lot mwy i fewn i os fyse pethau'n mynd o le," meddai.

"Be' di'r tebygrwydd iddo fynd o'i le? 'Lasa hwnna fod y fychan iawn - 'na i dderbyn hynny. Ond os ydy o'n mynd o'i le, be' sy'n mynd i ddigwydd wedyn?

"Mae'r dechnoleg yn rasio yn ei flaen, ond mae'r mesuriadau i ddiogelu'r math yma o broblem i weld yn ara' deg yn dal i fyny."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r caeau fyddai'n cael ei ddefnyddio fel rhan o gynlluniau Innova

Mewn datganiad dywedodd Innova ei fod yn cymryd diogelwch staff a'r cyhoedd "yn eithriadol o ddifrifol" a'i 'fod "yn gwbl hyderus yn niogelwch y safle."

"Rydym wedi cynnal adolygiad ac ymgynghoriad trylwyr gydag Awdurdodau Tân, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru."

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nad ydyn nhw "mewn cysylltiad uniongyrchol ar hyn o bryd" ag Innova, ond eu bod yn ymwybodol o drafodaethau ar gyfer storio ynni batri ar y safle yn Rhostyllen.

Enw'r safle yw Legacy ESS ar ôl is-orsaf Legacy gerllaw, lle mae Innova yn bwriadu cysylltu â'r grid trydan.

Dywedodd y cwmni mai ei flaenoriaeth oedd dod o hyd i safleoedd tir llwyd, ond nad oedd unrhyw leoliad addas i fedru cysylltu â'r grid mewn amser i gyrraedd targedau sero net.

"Mae'r safle hwn yn bodloni'r gofynion niferus ac mae modd ei gyflawni nawr," yn ôl y datblygwr.

£1m i'r gymuned leol dros 50 mlynedd

Dywed Innova eu bod wedi gwneud "newidiadau mawr" yn dilyn digwyddiad ymgysylltu cymunedol ym mis Mai, "gan gynnwys gostyngiad o 64% mewn erwau".

Maen nhw'n dweud y bydd y prosiect yn cyfrannu £1m i'r gymuned leol dros 50 mlynedd yn ogystal â darparu "enillion net bioamrywiaeth".

Mewn ymateb i ddatganiad Innova ar leihau maint y prosiect dywedodd Grŵp Ymgyrchu Esclusham fod ei safbwynt yn parhau i fod yr un fath "sef ei fod yn lleoliad hollol anghywir".

Dywed Innova y bydd y cynlluniau diweddaraf yn cael eu cynnwys mewn Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fydd yn dechrau'n fuan.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae cronfeydd ynni batri yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o leihau allyriadau carbon

Mewn datganiad, dywedodd Olly Frankland o Electricity Storage Network - y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant - bod cyfleusterau o'r fath yn dod yn fwy fwy pwysig, a bod diogelwch yn flaenoriaeth.

"Fel gyda phob math o brosiectau seilwaith, mae hi'n bwysig bod cyfleusterau storio trydan yn dilyn canllawiau diogelwch tân a chynllunio yn ofalus iawn," meddai.

"Mae'r diwydiant yn gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth er mwyn parhau i ddatblygu, a rhannu'r arfer orau ym maes diogelwch tân."

Pynciau cysylltiedig