Neil Foden: Prifathro yn y llys yn sgil mwy o gyhuddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro wedi ymddangos o flaen llys i wynebu rhagor o gyhuddiadau yn ymwneud â chamdrin plant yn rhywiol.Â
Cafodd Neil Foden, 66 oed, o Fae Colwyn, ei gyhuddo yn Llys Ynadon Caernarfon o chwe throsedd - gan gynnwys cyffwrdd â merched rhwng 12-16 oed yn rhywiol.Â
Roedd y pennaeth ysgol eisoes wedi ei gyhuddo o dair trosedd ar ôl cael ei arestio yn wreiddiol fis Medi.Â
Roedd y tri chyhuddiad gwreiddiol yn cynnwys cyffwrdd â merch o dan 16 yn rhywiol a chyfathrebu rhywiol gyda phlentyn.Â
Mae bellach yn wynebu cyfanswm o naw cyhuddiad.
Yn gwisgo crys glas a throwsus tywyll, fe ymddangosodd Mr Foden yn y llys ddydd Iau trwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn.Â
Fe siaradodd i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad.
Ni chafodd unrhyw ble ei gyflwyno ond dywedodd cyfreithiwr Mr Foden, Dafydd Roberts, fod ei gleient yn bwriadu pledio'n ddieuog.
Mae wedi ei wahardd o'i swydd fel pennaeth ysgol wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar 5 Ionawr 2024.Â
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023