Y Bencampwriaeth: Leeds United 3-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jamie PattersonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Abertawe ar y blaen wedi llai na dau funud diolch i ergyd Jamie Patterson

Er i Abertawe fynd ar y blaen yn Elland Road, roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Leeds yn y pendraw - gyda dau o gyn-chwaraewyr yr Elyrch yn serennu i'r tîm cartref.

Roedd Daniel James yn credu ei fod wedi rhoi Leeds ar y blaen wedi llai na munud - ond roedd y Cymro yn camsefyll.

Eiliadau yn unig wedi hynny roedd Abertawe wedi sgorio wrth i Jamie Paterson godi'r bêl dros ben y golwr.

I goroni dechrau gwallgof i'r gêm, roedd Leeds yn gyfartal wedi 4 munud ar ôl i gyn-ymosodwr Abertawe, Joël Piroe daro'r bêl i gornel y rhwyd o ganol y cwrt cosbi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daniel James sgoriodd y drydedd i Leeds

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi i Georginio Rutter orffen yn dda ar ôl i Ethan Ampadu godi'r bêl dros amddiffyn yr Elyrch.

Wedi'r egwyl fe sgoriodd James - un arall o gyn-chwaraewyr Abertawe - i'w gwneud hi'n 3-1 i Leeds.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn y 18fed safle yn y tabl.