Argymhelliad i beidio adeiladu trydedd bont dros y Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd yn argymell peidio adeiladu trydedd bont dros Afon Menai ar hyn o bryd - gan ategu'r hyn gafodd ei nodi mewn adroddiad interim blaenorol.
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tro am gael pont arall rhwng Gwynedd a Môn er mwyn lleddfu tagfeydd traffig.
Mae'r adroddiad gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn dweud y byddai pont o'r fath yn cymryd cryn amser i'w hadeiladu ac y byddai nifer o faterion cynllunio angen eu hystyried - yn arbennig rhai yn ymwneud â threftadaeth a bioamrywiaeth.
Ond awgryma'r comisiwn fod gwerth edrych eto ar y cynllun pe bai yna "ddatblygiadau economaidd sylweddol" ar yr ynys.
Mae pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu na fydd y cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros Afon Menai yn cael eu gwireddu.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi canmol y llywodraeth, ond mae eraill wedi beirniadu'r penderfyniad, gyda Phlaid Cymru yn eu cyhuddo o "anwybyddu anghenion yr ardal".
Mae adroddiad y comisiwn yn cynnwys 16 o argymhellion ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gydag Ynys Môn.
Mae'r rhain yn cynnwys datblygu llwybr teithio actif ar bont Britannia ochr yn ochr â'r rheilffordd bresennol.
Yn ogystal, mae 'na alw am gyflwyno taflwyr gwynt [wind deflectors] gyda'r nod o leihau'r achosion o orfod cau'r bont oherwydd gwyntoedd cryfion.
Noda'r comisiwn hefyd y dylid cyflwyno newidiadau i'r systemau traffig ar y ddwy ochr, sicrhau bod mwy o wasanaethau trenau yn stopio yn Llanfairpwll er mwyn gwella cysylltiadau â gweddill gogledd Cymru, a chyflwyno system parcio a theithio.
'Rhwydwaith diogel, cyfforddus a chynhwysfawr'
"Ry'n ni'n argymell datblygu rhwydwaith deithio actif diogel, cyfforddus a chynhwysfawr sy'n ymestyn o ddwy ochr y ddwy bont er mwyn cysylltu cymunedau a lleoliadau pwysig yn Ynys Môn a gogledd Gwynedd," meddai'r adroddiad.
Ond mae'n ychwanegu bod gwerth posib mewn edrych eto ar y syniad o drydedd bont yn y dyfodol: "Gallai hyn fod yn sgil datblygiad economaidd sylweddol ar Ynys Môn, er enghraifft datblygiadau ar safle Wylfa Newydd.
"Byddai'r fath ddatblygiadau, o bosib, yn cynnig cyfleoedd i rannu costau, yn enwedig pe bai'r bont yn cludo trydan yn ogystal â chynnig llwybrau teithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022