Canolfannau anifeiliaid yn llawn o achos costau cynyddol

  • Cyhoeddwyd
Cath
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Tŷ Nant yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhoi cartref i 50 o gathod

Mae canolfannau achub anifeiliaid yn dweud eu bod yn orlawn, wrth i berchnogion fethu ag ymdopi â'r gost gynyddol o gadw eu hanifeiliaid anwes.

"Dydi'r cyhoedd ddim yn sylweddoli'r argyfwng rydyn ni ynddo," meddai Paula Beeforth, wrth iddi ofalu am y cathod yng nghanolfan Tŷ Nant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Yn ogystal â rhoi cartref i 50 o gathod, mae 35 arall yn cael eu maethu mewn cartrefi pobl.

Dywedodd canolfannau achub cŵn wrth y BBC eu bod nhw hefyd yn llawn anifeiliaid anwes anfforddiadwy.

Yng Ngheredigion mae canolfan arall yn dweud bod perchnogion yn gadael cŵn mawr sydd wedi mynd yn ddrutach i'w cadw.

'Biliau wedi cynyddu'n sylweddol'

Yn ôl elusen anifeiliaid y PDSA mae 85% o berchnogion anifeiliaid yng Nghymru wedi gweld y gost o gadw anifail anwes wedi cynyddu.

Roedd rhai perchnogion yn troi at fwyd anifeiliaid rhatach, yn lleihau ymweliadau â'r milfeddyg neu'n rhoi'r gorau i ofalu am eu hanifeiliaid yn gyfan gwbl.

"Mae biliau milfeddygon wedi cynyddu'n sylweddol," meddai Paula Beeforth.

Yn ddiweddar mae bil misol y milfeddyg ar gyfer ei chanolfan cathod wedi dyblu i £6,000.

Disgrifiad o’r llun,

"Dydi'r cyhoedd ddim yn sylweddoli'r argyfwng rydyn ni ynddo," meddai Paula Beeforth

Dydi Tŷ Nant ddim yn derbyn mwy o gathod ar hyn o bryd, ond mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn dwsinau o alwadau bob dydd.

Dywedodd Paula fod cynnydd ym mhoblogaeth cathod yn golygu bod canolfannau achub dan straen.

"Dydy'r tymor ar gyfer genedigaeth cathod bach ddim yn para cwpl o fisoedd nawr," meddai, "mae'n para trwy'r flwyddyn gyfan."

Mae'r ganolfan yn cynnal diwrnodau mabwysiadu rheolaidd.

Yn y tri mis diwethaf mae 80 o gathod wedi'u mabwysiadu, ond mae'r ganolfan wedi achub 93 o gathod bach yn yr un cyfnod.

'Dod ymlaen yn dda iawn'

"Mae un gath newydd gael ei faethu," meddai Paula.

Mae hi'n sôn am Vinnie, cath a oedd wedi bod yn y ganolfan ers dros 1,000 o ddiwrnodau.

Roedd ganddo gyfrif cyfryngau cymdeithasol i geisio denu perchennog newydd.

"Roedd e'n semi-feral pan ddaeth i mewn, doedden ni ddim yn gallu mynd yn agos ato," meddai.

"Mae'n dangos, er eu bod nhw'n gallu bod gyda ni am amser hir, maen nhw'n dod ymlaen yn dda iawn o gymharu â'r dechrau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Magi a Mari yn disgwyl i gael eu mabwysiadu, wedi i chwech o'u brodyr a chwiorydd adael eisoes

Mae canolfannau achub cŵn hefyd yn llawn, gyda'r gost gynyddol o gadw anifeiliaid yn cyfrannu at y nifer sy'n rhoi'r gorau i ofalu am eu hanifeiliaid anwes.

Yng nghefn gwlad ger Llandysul yng Ngheredigion, mae Linda White yn rhedeg Alpet Poundies Rescue.

Cŵn mawr, ar y cyfan, sydd yng ngofal Linda.

"Byddwn yn ffodus os gallwn ddod o hyd i gartref iddo," meddai am un o'r cŵn mawr sy'n chwilio am gartref newydd.

"Does neb eisiau ci o'r maint yna, bellach. Mae'n rhy ddrud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda White, yma gyda Leon y ci, yn gorfod gwrthod derbyn mwy o gŵn

Dywedodd fod cadw cŵn mawr yn debygol o "ddyblu eich ffi gyda'r milfeddyg" oherwydd eu maint.

"Mae'n torri fy nghalon, achos rwy'n llenwi'r kennels â'r rhai y bydd pobl eraill yn gwrthod eu cymryd.

"Alla i ddim eu hailgartrefu nhw, ac mae hynny'n golygu bod rhaid i mi wrthod derbyn cŵn eraill."

'Rydyn ni i gyd yn llawn dop'

Dywedodd Linda fod ganddi restr aros "hyd fy mraich" o gŵn sydd eisiau lle yn ei chanolfan.

"Mae'n rhaid i mi ddweud wrth bobl, 'mae gen i ofn y bydd yn rhaid i chi gael eich ci wedi'i roi i lawr', achos does gen i ddim lle.

"Ac nid fi yw'r unig un - mae pob canolfan achub yn yr un sefyllfa. Rydyn ni i gyd yn llawn dop."

Pynciau cysylltiedig