Gemau'r Ynysoedd: Mwy o fedalau nag erioed i Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
A hithau'n ddiwrnod olaf Gemau'r Ynysoedd, mae athletwyr Môn yn dathlu beth sydd wedi bod yn wythnos hynod lwyddiannus yn Guernsey.
Wrth gystadlu yn erbyn 23 o ynysoedd eraill o bedwar ban byd, mae tîm Ynys Môn wedi sicrhau casgliad helaeth o fedalau, gan chwalu llwyddiant y gemau diwethaf.
Mae cyfanswm medalau Môn, sef 18, yn lawer mwy na'r chwech y llwyddodd y Monwysion i'w sicrhau yng ngemau Gibraltar 2019.
Dyma'r nifer fwyaf o fedalau i Ynys Môn eu hennill yng Ngemau'r Ynysoedd erioed, gan wella ar y cyfanswm o 14 a enillwyd yn Jersey yn 1997.
Daw hyn wrth i Fôn barhau i fod ag un llygad ar gynnal y gemau ar eu tomen eu hunain mewn pedair blynedd.
Casgliad o fedalau
Mae Ynys Môn wedi sicrhau 18 o fedalau - chwe aur, saith arian a phum efydd.
Ymysg yr uchafbwyntiau oedd medalau aur ac arian i'r athletwraig Ffion Roberts a champ Osian Perrin yn torri record y gemau drwy groesi gyntaf yn y ras 5,000m i ddynion.
Daeth dwy fedal aur hefyd i Iolo Hughes yn y rasus 1,500m a'r 800m wrth i'w chwaer, Cari, hefyd ennill yr arian yn yr 1,500 a'r aur yn yr 800m.
I ffwrdd o'r trac athletau daeth llwyddiant hefyd i Gwenno Hughes gan sicrhau medal efydd yn y seiclo.
Mae tîm pêl-droed dynion Môn hefyd wedi ennill medal arian, ar ôl cyrraedd y ffeinal cyn colli i Jersey.
Roedden nhw eisoes wedi ennill eu tair gêm yn grŵp, gan gynnwys yn erbyn un o'r ffefrynnau - Ynys Manaw, a threchu Bermuda yn y rownd gynderfynol.
'Mwyaf llwyddiannus i Fôn erioed'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe dywedodd cydlynydd tîm athletau Môn, Barry Edwards, fod yr holl garfan wrth eu boddau gyda'u perfformiad.
"Mae'r gemau yn mynd yn anhygoel," meddai.
"Hefo'r medalau sy'n dod drwodd rŵan hwn fydd y gemau fwya' llwyddiannus i'r ynys ers i'r gemau ddechrau yn 1985."
Fe ychwanegodd, "Mae'r talent sy'n dod drwodd yn anhygoel".
Mae Cari Hughes o Lanfechell wedi ennill dwy o'r 18 rheiny drwy sicrhau'r fedal arian yn y ras 1,500 ac aur yn yr 800m.
Fe ddywedodd: "Mae'r timau wedi gwneud yn wych, mae'n grêt i fod yn part o rhywbeth, dwi wedi joio a dyma fy nhro cyntaf.
"Mae wedi bod yn grêt."
Mae ei brawd, Iolo, wedi ennill dwy fedal aur yn y 1,500m a'r 800m.
"Da ni'n mynd ar y podiwm a canu'r anthem, mae'n gret i glywed yr anthem a pawb yn canu," meddai.
"Mae'n anhygoel."
'Profiad anhygoel'
Yn ôl Osian Perrin, un o sêr y gemau eleni, roedd cystadlu yn y gemau am y tro cyntaf yn "brofiad anhygoel".
Llwyddodd Osian, sy'n 20 oed ac yn dod o Baradwys ger Llangefni, i chwalu record flaenorol 5,000m y gemau o bron i 10 eiliad.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roeddwn yn gobeithio am fedal diolch i'n form yn mynd i fewn, ond roedd yn wych i fod yna.
"Dwi'n rasio mewn pythefnos yn Birmingham ac yn gobeithio sicrhau record Cymru yn y 3,000m.
"Hwn oedd y tro cyntaf i mi gystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd ond roedd yn anhygoel, lot gwell na'r roeddwn wedi ei ddisgwyl.
"'Naeth mwy o bobl ddod i wylio 'na'r British Championships dydd Sadwrn - roedd 'na lot o bobl allan."
Gan ychwanegu y byddai'n hoffi cystadlu pan ddaw y gemau i Fôn yn 2027, ychwanegodd: "Dwi'n meddwl fydd o'n grêt i Ynys Môn."
Paratoadau 2027
Mae trefnwyr y gemau yn Guernsey yn dweud fod yr wythnos o gystadlu wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn, gyda hyd at 8,000 yn gwylio rhai campau.
Yn ôl y Cynghorydd Neville Evans, sydd wedi teithio i Guernsey fel rhan o baratoadau Môn i gynnal y gemau yn 2027, mae wedi bod yn "agoriad llygad".
"Mae wedi bod yn brofiad arbennig i fod yn berffaith onest. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae dod allan wedi dangos i mi be ydi scale y peth a dweud y gwir, a faint o frwdfrydedd sydd yna ymysg y timau a'r ynysoedd ar draws y byd a faint o waith sydd 'na.
"Roedd yn brofiad jyst cael gweld yr holl chwaraeon a faint o waith paratoi o ran lle i aros, trafnidiaeth, gwirfoddolwyr, a dwi wedi'n siomi ar yr ochr orau pa mor llwyddiannus mae'r gemau wedi bod."
Ychwanegodd Owain Jones, sydd hefyd yno ar ran adran hamdden y cyngor: "Roedd 'na o leia' 3,000 yn gwylio'r athletics ac roedd hi'n llawn, a ti'n gweld sut fod pobl leol wedi cymryd at y gemau go iawn.
"Maen nhw wrth eu boddau yn gweld pobl yn dod yma, a mae 'na tua 1,200 o volunteers yn helpu allan.
"Mae'n rhaid i bobl leol gymryd ato i wneud iddo weithio, ond hefo Eisteddfod yr Urdd yn dod i Ynys Môn y flwyddyn gynt [yn 2026] ella fydd o'n help wrth gael gwirfoddolwyr i'r ddau."
Enillwyr medalau Môn
Aur
Iolo Hughes - 1,500 i ddynion
Iolo Hughes - 800m i ddynion
Cari Hughes - 800m i ferched
Ffion Roberts - 400m i ferched
Osian Perrin - 5,000m i ddynion
David Tavernor - Saethu skeet unigol
Arian
Tîm pêl-droed y dynion
Cari Hughes - 1,500m i ferched
Ffion Roberts - 200m i ferched
Patrick Harris - Taflu pwysau (shot put) i ddynion
Bonny Cunliffe, Catriona Duffy, Nia Rogers - Tîm saethu trap
Dominic Breen-Turner - Hwylio ILCA 6
Cai Jones, Cameron Jones, Ewan Jones, Zach Price - Ras gyfnewid 4x100m i ddynion
Efydd
Zach Price - 100m i ddynion
Ben Sergeant - 3,000m dros y clwydi (steeplechase) i ddynion
Gwenno Hughes - Seiclo'n erbyn y cloc i ferched
Frederick Roberts a David Tavernor - Saethu skeet
Dominic Breen-Turner, Josh Metcalfe, Ryan Seddon, Michael Thorne - Tîm hwylio
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023