Pwy ydy'r sêr chwaraeon i'w gwylio yn 2024?
- Cyhoeddwyd

Roedd 2023 yn flwyddyn llawn cyffro ym myd y campau yng Nghymru, ond pwy sy'n debygol o serennu yn 2024?
Owain Llŷr, gohebydd chwaraeon BBC Cymru, sy'n edrych ar y sêr i gadw golwg arnyn nhw.

Jordan James - pêl-droed

Jordan James yn chwarae i Gymru yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd
Am argraff mae'r chwaraewr yma wedi ei gael ers dechrau yn nhîm cyntaf Cymru.
Roedd ei berfformiad yn y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia ym mis Hydref yn un hynod o gofiadwy.
Dim ond 19 oed ydy James ac mi gafodd o'r gorau o Luke Modric, Mateo Kovacic a Marcelo Brozovic.
Mae'n gwbl amlwg yn barod y bydd yn ganolbwynt i dîm Cymru am flynyddoedd i ddod.
Mae James hefyd yn cael tymor da yn y Bencampwriaeth gyda'i glwb Birmingham, does bosib mai mater o amser fydd hi cyn y gwelwn ni o'n chwarae'n Uwch Gynghrair Lloegr.
Emma Finucane - seiclo

Emma Finucane oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2023
Mae pawb yn ymwybodol o dalentau Finucane ar ôl yr hyn gyflawnodd yn 2023.
Hi oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar ôl ennill medal aur yn y ras wib ym Mhencampwriaethau Seiclo'r Byd.
Yn ogystal â chael ei choroni'n bencampwraig y byd, fe enillodd bedair medal aur ym Mhencampwriaethau Trac Prydain a dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn fawr iddi oherwydd Gemau Olympaidd Paris. Mae hi fwy neu lai yn saff o le yn nhîm seiclo Prydain ar gyfer y Gemau, a'r gobaith ydy y bydd hi'n cipio medal.
Mackenzie Martin - rygbi

Wythwr 20 oed Rygbi Caerdydd ydy Mackenzie Martin
Mae toriadau i gyllideb rhanbarthau rygbi Cymru o'r tymor yma ymlaen yn golygu bod 'na lai o arian ar gael iddyn nhw arwyddo chwaraewyr newydd.
Ond o leiaf fod hynny wedi rhoi cyfle i chwaraewyr iau ymddangos yn fwy rheolaidd.
Un sydd wedi creu argraff yn ystod y misoedd diwetha' ydy wythwr 20 oed Rygbi Caerdydd, Mackenzie Martin.
Yn barod, mae o wedi sgorio cais yn erbyn un o gewri Ewrop yn Toulouse.
Pan fydd gyrfa Taulupe Faletau yn dod i ben, mae Martin yn edrych fel rhywun allai lenwi'r bwlch anferth y bydd Faletau yn ei adael yn nhîmau Cymru a Chaerdydd.
Medi Harris - nofio

Medi Harris gyda'i medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022
Roedd 2022 yn flwyddyn arbennig i Medi Harris wrth iddi ennill medalau di-ri' ym Mhencampwriaethau Ewrop, ac ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad.
Fe lwyddodd hi i adeiladu ar y llwyddiant yna yn 2023 drwy ennill medal aur yn y ras 100m dull cefn ym Mhencampwriaethau Prydain am yr eildro yn ei gyrfa.
Mae hi hefyd newydd ddychwelyd o Rwmania lle enillodd hi dair medal ym Mhencampwriaethau Cwrs Byr Ewrop.
Y nod i'r ferch o Borthmadog yn 2024 fydd sicrhau ei lle yn nhîm nofio Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Mi fydd angen perfformiadau cryf ganddi ar ddechrau'r flwyddyn er mwyn gwireddu'r freuddwyd honno.
Ben Kellaway - criced

Mae Morgannwg wedi rhoi cytundeb newydd i Ben Kellaway tan 2026
Roedd 2023 yn flwyddyn i'w chofio i'r cricedwr 19 oed talentog o Gasnewydd.
Ar ôl ei berfformiadau, mae Morgannwg wedi rhoi cytundeb newydd iddo tan 2026.
Er ei fod wedi chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd ac yn y gystadleuaeth 20 pelawd, fe ddaeth ei berfformiadau gorau yn y Cwpan Undydd.
Fe sgoriodd 82 heb fod allan yn ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Sir Gaerwrangon.
Mae o hefyd wedi profi ei fod yn gallu bowlio'n dda gan gipio tair wiced yn erbyn Sir Warwick mewn gêm yng Nghastell-nedd.
Mae gan bawb ym Morgannwg feddwl mawr ohono, ac mi fydd yn chwarae'n llawer mwy rheolaidd yn 2024.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023