Menyw yn y llys wedi llofruddiaeth bachgen, 7, yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Papaipit Linse yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo o'r carchar

Mae menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth bachgen saith oed yn Sir Benfro wedi ymddangos yn y llys.

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am tua 10:45 ar 10 Ionawr.

Yn fuan wedyn daeth cadarnhad bod Louis Linse wedi marw.

Fe ymddangosodd Papaipit Linse, 42, drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth o garchar Eastwood Park.

Fe gadarnhaodd ei henw trwy gyfieithydd.

Mae wedi ei chadw'n y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf fod ar 27 Chwefror.