Datganoli cyfiawnder i Gymru yn 'gam trychinebus'

  • Cyhoeddwyd
Syr Robert BucklandFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Robert Buckland yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng 2019 a mis Medi 2021

Mae cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn "gam trychinebus".

Roedd Syr Robert Buckland yn siarad ar ôl i gomisiwn argymell y dylai Cymru gymryd rheolaeth dros gyfiawnder o San Steffan cyn gynted â phosib.

Yn ôl Syr Robert, a gafodd ei eni yn Llanelli ac a fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, mae bod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn "dda i Gymru" ac ni ddylai hynny newid.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnwys yr adroddiad.

Mae'r comisiwn yn dweud y dylai rheolaeth dros reilffyrdd a phlismona, yn ogystal â chyfiawnder, ddod i Fae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn "gam trychinebus" meddai Syr Robert Buckland

Ond mae Syr Robert yn dweud y byddai hynny'n gamgymeriad mawr.

"Dwi'n meddwl y byddai'n gam trychinebus i gyfiawnder yng Nghymru," meddai.

"Rydym fel rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, un o'r awdurdodaethau uchaf ei barch yn y byd.

"Mae'n henw da am reolaeth cyfraith, annibyniaeth ein barnwyr a'n proffesiwn cyfreithiol rhagorol hefyd yn golygu fod bod yn rhan o gorff mwy yn dda i Gymru.

"Mae'n dda i'r gyfraith yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol, a dweud y gwir, ein bod yn aros fel un awdurdodaeth.

"Rwy'n gwrthod yn llwyr y syniad y byddem rywsut yn well ein byd gydag awdurdodaeth ar wahân i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Rali annibyniaeth yng Nghaerdydd

Cyn-archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister yw cyd-gadeiryddion y comisiwn.

Maen nhw'n awgrymu tri opsiwn wrth edrych ar ddatganoli yn y dyfodol - ffurf gyda mwy o bwerau, system ffederal gyda chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, ac annibyniaeth lawn.

Gallai annibyniaeth "gynnig potensial am newid cadarnhaol hirdymor drwy gael y pwerau i wella'r economi yn sylweddol," medd yr adroddiad, "ond mae'r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno y gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol yn y tymor byr i ganolig".

Ffynhonnell y llun, Lowri Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Mae annibyniaeth i Gymru yn un o'r opsiynau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y dyfodol gan y comisiwn

Ond yn ôl Syr Robert: "Dyw annibyniaeth ddim yn ymarferol bosib.

"Edrychwch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud am galedi.

"A ydyn ni wir eisiau mynd i lawr y ffordd o ddiboblogi am hanner can mlynedd, economi sydd ddim yn ffynnu, a gwlad fyddai'n symud yn ôl, nid ymlaen?

"Byddai annibyniaeth, dwi'n meddwl, yn golygu tlodi i Gymru, nid llwyddiant."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Syr Robert Buckland mae "bod yn rhan o gorff mwy yn dda i Gymru"

Mae'r comisiwn yn dweud nad oedd yn bwriadu argymell un opsiwn dros un arall, ac y bydd gwleidyddion yn cael y cyfle i drafod yr adroddiad.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r adroddiad terfynol yn foment bwysig yn y ddadl ar daith gyfansoddiadol Cymru.

"Mae'n ddarn difrifol o waith sy'n haeddu ystyriaeth ofalus, a bydd Llywodraeth Cymru yn ei adolygu'n fanwl."

Mae mwy am y stori yma ar Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul.