Gwasanaethau bws Llandegla i ddychwelyd ar ôl tro pedol 20mya
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Arriva wedi cadarnhau y bydd gwasanaeth bws newydd i bentref Llandegla yn Sir Ddinbych yn cael ei gynnig, a hynny ychydig dros wythnos ar ôl i'r gwasanaeth blaenorol ddod i stop.
Fe gyhoeddodd Arriva ym mis Ionawr na fydd y bysiau sy'n teithio o'r Rhyl i Wrecsam yn mynd i Landegla o 14 Ionawr, gan ei bod "hi'n cymryd gormod o amser i weithredu'r gwasanaeth yn sgil terfyn cyflymder is [o 20mya]".
Ond fore Gwener fe ddywedodd y cwmni, yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych, eu bod am gynnig dau wasanaeth X51 fydd yn galw yn y pentref yn ddyddiol - un yn y bore ac un ar ddiwedd y prynhawn.
Er yn croesawu'r cyhoeddiad, mae ymgyrchwyr lleol wedi galw am adfer yr amserlen blaenorol yn llawn
Roedd yna bryder yn lleol wedi'r cyhoeddiad y byddai'r gwasanaeth yn dod i ben, ac o ganlyniad y byddai gofyn i deithwyr fynd i'r safle bws nesaf ar yr A525 - safle sydd heb balmentydd na golau mewn mannau, ac sydd hanner milltir o ganol pentref Llandegla.
Roedd rhai yn dweud bod y penderfyniad yn gwbl "niweidiol" ac yn golygu na fyddai rhai yn cymdeithasu o gwbl.
Dywed yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd Darren Millar, ei fod wedi trafod ei bryderon gyda Mark Drakeford pan ymwelodd y Prif Weinidog â Sir Ddinbych a'i fod hefyd wedi cysylltu gyda chwmni Arriva a chodi'r mater yn y Senedd.
Dywedodd Mr Millar: "Mi fydd pobl sy'n byw yn Llandegla wedi gwirioni â'r ffaith y bydd y gwasanaeth yma'n parhau.
"Mae'r gwasanaeth yn rhan mor bwysig o fywydau nifer o bobl, a dwi'n falch bod hynny wedi cael ei gydnabod.
"Yn amlwg, dwi'n poeni y bydd y gwasanaeth ond yn parhau tan 31 Mai, a phryd hynny mi fydd 'na adolygiad arall o'r gwasanaethau.
"Mi fydda i'n ceisio sicrhau pan fydd yr adolygiad yma'n digwydd, y bydd pryderon pobl yr ardal yn cael eu hystyried ac y bydd y gwasanaeth yn parhau yn y tymor hir."
'Bydd yr ymgyrchu yn parhau'
Dywedodd Sandra Ellis-Rogers o grŵp Keep Llandegla Connected eu bod yn "hapus gyda'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi hyd yma" ond y byddai'r ymgyrchu yn parhau nes bod yr hen amserlen wedi cael ei adfer yn llawn.
"Mae'n welliant ond dydi'r hyn sydd wedi ei gynnig ddim yn neud yn iawn am yr hyn yr ydym ni wedi ei golli.
"Does dim bysiau yn cael eu cynnig fin nos fel rhan o'r cynlluniau yma... yn y gorffennol roedd modd dal yr X51 o Ruthun i Landegla am tua 21:00."
Ychwanegodd nad oes cynllun cadarn o ran bysiau gwennol chwaith a'i bod hi'n bosib "na fydd hynny fyth yn digwydd".
Mewn datganiad dywedodd cwmni Arriva: "Bydd un gwasanaeth X51 yn y bore, ac un yn y prynhawn yn galw heibio pentref Llandegla.
"Bydd y teithiau hyn am tua 08:00 i gyfeiriad Wrecsam, ac yna tua 17:00 i'r cyfeiriad arall.
"Daw cadarnhad o'r union amseroedd maes o law, ac ar hyn o bryd dydi hi ddim yn bosib i ni roi dyddiad pendant o ran pryd fydd y newidiadau yn digwydd."
Ychwanegodd y cwmni bod Cyngor Sir Ddinbych yn edrych ar y posibilrwydd o gynnal gwasanaeth bws gwennol i gysylltu'r pentref â gwasanaeth yr X51 weddill y diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023