Miles yn anhapus am broses Unite o ffafrio ymgeisydd
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r ddau ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi ymateb yn chwyrn i'r ffordd y gwnaeth undeb ddewis yr ymgeisydd maen nhw'n ei ffafrio i gael ei benodi'n brif weinidog nesaf Cymru.
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth undeb Unite wahodd Vaughan Gething a Jeremy Miles i hysting er mwyn i'r ddau annerch aelodau'r undeb.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Unite - sy'n dweud mai nhw yw'r undeb fwyaf yng Nghymru - ddatgan mai Mr Gething oedd yr ymgeisydd a fyddai'n cael eu cefnogaeth.
Ond mae wedi dod i'r amlwg fod Unite wedi penderfynu nad oedd Jeremy Miles yn gymwys i gael ei ystyried fel yr ymgeisydd a oedd yn cael ei ffafrio gan yr undeb.
Yn ôl rheol a gafodd ei fabwysiadu y llynedd, all yr undeb ond ffafrio ymgeisydd sydd â hanes o fod wedi cael eu hethol i gynrychioli gweithwyr fel swyddog lleyg.
Mae Mr Miles yn dweud nad oedd ef na neb arall o fewn ei ymgyrch yn ymwybodol o'r rheol.
Mae Unite wedi amddiffyn eu penderfyniad, tra bo ymgyrch Mr Gething wedi croesawu'r enwebiad.
Yn ôl datganiad gan Jeremy Miles fe wnaeth y ddau ymgeisydd ateb cwestiynau yn yr hysting ar 16 Ionawr ond, yn ôl Mr Miles ni chafodd y pwyllgor gwleidyddol oedd yn cynnal y noswaith wybod am y rheol newydd tan y noson honno.
Mae Mr Miles yn dweud na chafodd wybod am y rheol pan gafodd ei wahodd i'r hysting, ac i benaethiaid yr undeb ddweud dim wrtho am y rheol.
Mae'n honni hefyd nad yw wedi gweld prawf fod y fath reol yn bodoli.
Yn ôl Mr Miles mae aelodau Llafur Cymru yn disgwyl i reolau ynglyn â dewis ymgeisydd ar gyfer arweinydd nesa'r blaid fod yn dryloyw, ac i gael eu defnyddio'n deg.
'Anghymwys i gael ei enwebu'
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Unite: "Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Blaid Lafur Unite Cymru, cafodd yr enwebai dan sylw ei gyfweld ac ystyriwyd ei addasrwydd.
"Fodd bynnag, penderfynodd Cynhadledd Rheolau Unite y llynedd y byddai Unite 'ond yn cymeradwyo'n ffurfiol ymgeiswyr sydd wedi dal swydd lleyg etholedig fel cynrychiolwyr gweithwyr'.
"O dan y rheol hon roedd yn anghymwys i gael ei enwebu.
"Mae Unite yn fodlon bod y broses enwebu wedi ei chynnal yn gywir."
Yn ôl y rheolau ar gyfer y ras i ddewis arweinydd nesaf Llafur Cymru does gan yr undebau ddim pleidlas unedig, felly mae gan bob aelod o'r undeb hawl i gefnogi unrhyw ymgeisydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023