Ehangu ysgol filfeddygol sydd wedi 'agor drysau' yn Aber

  • Cyhoeddwyd
Cadi RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cadi Roberts ei bod wrth ei bodd yn yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth

Mae cael astudio milfeddygaeth ger ei chartref wedi "agor pob math o ddrysau" i un o fyfyrwyr Ysgol Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth, sy'n dweud ei bod yn hynod o falch o fedru gwneud llawer o'r gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cadi Roberts, 20, o Aberystwyth yn ei hail flwyddyn, a dywed na fyddai hi wedi dilyn cwrs milfeddygaeth oni bai am yr ysgol filfeddygol yn y dref.

Daw ei sylwadau wrth i'r ysgol filfeddygol ehangu gyda rhodd o £100,000.

"Mae'n gwbl ffantastig gallu dilyn cwrs yn ymyl fy nghartref - dwi ddim yn meddwl y buaswn i â'r hyder yn 18 oed i fynd y tu allan i Gymru," medd Cadi.

"Dwi wrth fy modd. Mae llawer o'r addysg yn Gymraeg, dwi'n gallu trafod y gwaith gyda staff sy'n siarad Cymraeg - mae'n gymaint o bleser 'neud y gwaith yn fy iaith fy hun.

"Hefyd mae'r dosbarthiadau yn fach - rhyw 24 sydd yma ac felly 'dach chi'n cael addysg gwbl bersonol.

"Flwyddyn nesaf fyddai'n mynd bant i Potters Bar yn Sir Hertford ddim yn bell o Lundain - a dwi'n teimlo'n fwy hyderus i fynd wedi i fi fod yma yn Aber am ddwy flynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr yn dysgu trin anifeiliaid mawr a bach

Cafodd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ei hagor yn swyddogol yn 2021 wedi buddsoddiad o dros £2m mewn adnoddau dysgu newydd ar gampws Penglais.

Mae'r cwrs, sydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bellach mae cynlluniau i ehangu'r ysgol wedi iddi gael rhodd o £100,000 gan ystad y diweddar Gordon Burrows.

'Hyfforddiant milfeddygol clinigol yn bwysig'

Y bwriad yw ffurfio'r hyn sy'n debyg i glinig milfeddygol, a bydd yn cynnwys cyfleusterau safonol megis ystafelloedd aros, archwiliadau a thriniaethau ynghyd â'r offer angenrheidiol ar gyfer trin anifeiliaid bach.

Bydd yr adnodd newydd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi israddedigion ar y cwrs BVSc mewn Gwyddor Milfeddygaeth, a gyflwynir ar y cyd â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn ogystal â myfyrwyr ar gwrs gradd Nyrsio Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth sy'n dechrau yn hwyrach eleni.

Dywedodd Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Fel rhan o'u proses addysgu, mae'n bwysig bod ein myfyrwyr yn ennyn profiad ym maes hyfforddiant milfeddygol clinigol a dealltwriaeth o'r offer allweddol a'r prosesau clinigau milfeddygol.

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am y gymynrodd hael hon sy'n ein caniatáu i gymryd cam ymlaen gyda'n cynlluniau i ehangu'n cyfleusterau a gwella ymhellach fyth ar yr addysgu ry'n ni'n ei gynnig yn Aberystwyth."

Ychwanegodd Cadi Roberts bod ei chwrs yn rhoi cyfle iddi ymdrin â phob math o anifeiliaid - o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Mae'r cyfan yn cael ei gyflwyno mewn dull ymlaciol iawn - gyda chyfle i'r myfyrwyr fynd i ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol ac i Ganolfan Geffylau Lluest.

"Fe ddaeth yr ysgol filfeddygol jyst mewn pryd i fi a fuaswn i ddim yn dymuno am gwrs gwell."