'Anochel' y bydd ffermwyr yn protestio dros 'anniddigrwydd anferth'
- Cyhoeddwyd
Mae hi "mwy neu lai yn anochel" y bydd ffermwyr Cymru'n troi at brotestio, yn ôl arweinwyr y diwydiant.
Rhybuddiodd undebau amaeth fod 'na "anniddigrwydd anferth" ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r sector.
Bydd ffermwyr yn cwrdd nos Iau ar faes y sioe Caerfyrddin i drafod y sefyllfa, ar ôl i dros fil ymgynnull mewn cyfarfod tebyg yn y Trallwng.
Annog amaethwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad diweddaraf ar y cynlluniau wnaeth y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, gan ddweud y byddai 'na newidiadau'n deillio o'r adborth.
Mae'r cymorth ariannol a'r rheolau sy'n effeithio ar amaeth yn wynebu'r trawsnewidiad mwyaf mewn cenhedlaeth - a hynny ar draws y DU.
Roedd ffermio'n arfer cael ei ddylanwadu'n fawr gan yr Undeb Ewropeaidd - ond o ganlyniad i Brexit daeth rheolaeth lawn o amaeth yng Nghymru i lywodraeth Bae Caerdydd.
Ers hynny maen nhw wedi bod yn gweithio ar gynllun cymhorthdal newydd i ffermydd - fydd yn cael ei gyflwyno o 2025 ymlaen.
Y bwriad yw gwobrwyo cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, ac ymdrechion i daclo newid hinsawdd a gwarchod byd natur.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliadau newydd, bydd rhaid i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi ei blannu â choed, a 10% arall wedi ei reoli fel cynefin i fywyd gwyllt.
Mae'r undebau'n dadlau na fydd hyn yn ymarferol nac yn fforddiadwy i nifer, gan honni bydd gofynion eraill y cynllun hefyd yn llethu ffermydd â gwaith papur.
Mae'r trydydd ymgynghoriad - a'r olaf - ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn digwydd ar hyn o bryd.
'Mynd adref a jyst crio'
Mae cyfarfodydd i egluro'r cyfan i ffermwyr wedi'u trefnu gan yr undebau a'r llywodraeth ar wahân - ac wedi denu torfeydd mawr ym mhob sir.
"Mae pobl wir yn poeni," eglurodd Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru.
"Mae hyn yn gymaint o wahanol fodel i'r hyn sydd wedi bodoli yn y gorffennol mae e'n mynd i gael goblygiadau andwyol i fusnesau amaeth," meddai.
"Ro'n i mewn cyfarfod neithiwr ac na'th rywun ddweud eu bod nhw wedi mynd adref a jyst crio - dyw hynny ddim yn dderbyniol."
Fe awgrymodd asesiad effaith economaidd a gafodd ei gyhoeddi ar y cyd â'r ymgynghoriad diweddaraf y gallai nifer y da byw yng Nghymru ostwng 10.8% a byddai na 11% o doriad mewn gweithwyr ar ffermydd Cymreig.
Dywedodd NFU Cymru fod hynny gyfystyr â cholli 5,500 o swyddi.
Mae'r manylion wedi arwain at sioc a phryder, yn ôl Ms Reader - gyda ffermwyr ar eu liwt eu hunain bellach yn trefnu cyfarfodydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol i drafod eu camau nesa'.
Mae protestiadau gan ffermwyr wedi bod yn lledu ar draws Ewrop yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u sbarduno'n rhannol gan bolisïau a rheoliadau newydd yn ogystal â chostau cynyddol.
"Dwi'n credu ei bod hi fwy neu lai yn anochel y bydd 'na ryw fath o brotestio," rhybuddiodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'r pryderon am y cynllun cymhorthdal newydd wedi cyfuno â chwynion parhaus am reoliadau gwasgaru gwrtaith costus a'r frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg.
"Mae'n haelodau ni'n teimlo fel eu bod wedi cyrraedd pen eu tennyn," meddai.
Mae Mali Davies, 20 wedi bod yn rhedeg eu fferm deuluol ger Tregaron gyda'i hefaill Gwawr a'i mam ers i'w thad farw yn 2020.
Roedd y chwiorydd yn astudio ar gyfer eu harholiadau lefel A ar y pryd, ond gyda ffermio yn y gwaed doedd gwerthu'r fferm ddim yn teimlo fel opsiwn.
Erbyn hyn mae'n astudio am radd amgylcheddol ym Mhrifysgol Harper Adams am ran o'r wythnos cyn teithio'n ôl i dreulio gweddill eu hamser ar y fferm biff a defaid.
Tra bod ffermio'n hollbwysig iddi hi a'r bobl ifanc eraill ar ei chwrs mae hi'n dweud bod pobl yn anobeithio at y dyfodol ar hyd o bryd.
"Fi'n credu nawr bod ffermwyr wedi cael llond bol efo'r llywodraeth," meddai.
"Maen nhw'n teimlo fel petai (amaeth) ddim yn cael y sylw dyle fe gael, dy'n nhw ddim yn gwrando arnon ni - ac mae angen i rywbeth newid."
"Mae angen i ni sicrhau dyfodol amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd fi'n credu bod y cynllun ni'n mynd i gael efo'r ffermio cynaliadwy 'ma, dyw e ddim yn mynd i fod yn ddigon i ni."
"Mae'n rhaid ni sicrhau fod cynhyrchu bwyd yn parhau a'r unig ffordd ni'n mynd i gael y neges ar draws i'r llywodraeth yw i brotestio."
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod hi'n deall bod hi'n gyfnod o newid mawr, a'i bod hi'n naturiol i bobl deimlo'n ansicr ynglŷn â hynny.
"Ydw i'n meddwl bod angen newid rhai o'r cynigion? Ydw, wrth gwrs - does dim gwerth mewn cael ymgynghoriad os nad ydych chi'n gwrando ar bobl."
Wrth ymateb i sylw am dorri swyddi posib, dywedodd bod y ffigyrau hynny yn seiliedig ar fersiwn cynharach o'r cynllun, ac na fyddai'r toriadau mor eang yn y cynlluniau terfynol.
"Rydw i wastad wedi bod yn weinidog sydd eisiau gweithio gyda'r diwydiant, a dwi'n gobeithio fod pobl wedi gweld hynny dros y blynyddoedd," meddai.
"Mae'r ymgynghoriad yma yn werthfawr, ac mae hi'n bwysig iawn fod pobl yn cymryd rhan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr