Pryder am gynigion i leihau gwasanaeth y Post Brenhinol

  • Cyhoeddwyd
PostFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ofcom wedi lansio "sgwrs genedlaethol" ar ddyfodol y gwasanaeth post

Mae busnesau sy'n anfon cardiau a rhoddion trwy'r post yn dweud eu bod wedi "dychryn" gan gynigion i leihau rhai o ymrwymiadau'r Post Brenhinol.

Mae'r rheoleiddiwr Ofcom wedi awgrymu cwtogi ar nifer y diwrnodau mae llythyrau yn cael ei danfon, ac i ganiatáu i'r post dosbarth cyntaf gymryd hyd at dri diwrnod i gyrraedd.

Mae perchnogion busnesau bach yn dweud eu bod yn poeni am golli dibynadwyedd y Post Brenhinol.

Dywedodd y Post Brenhinol fod angen newidiadau "ar frys" ac nad yw'r gofynion arno ar hyn o bryd yn gynaliadwy.

Beth yw'r cynigion?

Dywedodd Ofcom ei fod yn lansio "sgwrs genedlaethol" ar ddyfodol y gwasanaeth post, gan rybuddio y gallai ddod yn anghynaladwy.

Mae'r boblogaeth bellach yn anfon hanner nifer y llythyrau a bostiwyd yn 2011, tra bod Ofcom wedi dweud bod dosbarthu parseli wedi dod yn "gynyddol bwysig" i gwsmeriaid.

Mae Ofcom yn cynnal ymgynghoriad tan 3 Ebrill 2024.

Mae'r rheoleiddiwr wedi nodi dau opsiwn ar gyfer diwygio'r gwasanaeth:

  1. Gwasanaethau dosbarthu llythyrau i gymryd hyd at dri diwrnod neu fwy, gyda gwasanaeth diwrnod nesaf ar gael ar gyfer llythyrau brys;

  2. Lleihau nifer y diwrnodau dosbarthu llythyrau o chwech i bump neu dri.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Roberts o gwmni Draenog yn dweud y byddai'r newidiadau yn cael "effaith fawr"

"Mae o yn rywbeth sy'n poeni fi dipyn," meddai Anwen Roberts, cynllunydd cardiau cyfarch Draenog yng Nghaernarfon.

Mae'r Post Brenhinol yn anfon cardiau ar ran ei chwmni yn ddyddiol, ac mae Anwen yn dweud bod "neb arall yn cymharu o ran costau postio, a hefyd y gwasanaeth pa mor hir mae'n cymryd i archebion gyrraedd".

'Dibynnol ar y gwasanaeth'

Mae'r rhan fwyaf o archebion Draenog yn cael eu hanfon fel maint llythyr bach, ac felly yn debygol o fod yn destun y newidiadau mae Ofcom yn ystyried fel rhan o'i ymgynghoriad.

"Bydda fo yn cael effaith fawr arnon ni yn anffodus," meddai Anwen.

"'Dyn ni'n ddibynnol ar y gwasanaeth o ran gwybod faint o amser mae'n gymryd i rywbeth gyrraedd, ac hefyd pryd maen nhw'n casglu archebion gennon ni."

Fe fydd y cwmni yn ystyried defnyddio cludwyr eraill, ond meddai Anwen fod y costau yn uwch "a hefyd dyw'r gwasanaeth ddim wastad cystal chwaith".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Cottam fod gwasanaethau'r Post Brenhinol yn bwysicach fyth y tu allan i ardaloedd trefol

Dwedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod chwarter cwmnïau Cymreig yn ystyried gwasanaeth chwe diwrnod y Post Brenhinol fel un "hanfodol".

"Y dibynadwyedd hwnnw sy'n hollbwysig i weithrediadau busnes, sy'n hollbwysig i ni fel cwsmeriaid," meddai Ben Cottam o'r ffederasiwn yng Nghymru.

"Rydym wedi ein dychryn yn fawr gan y posibilrwydd y bydd y Post Brenhinol yn lleihau ei wasanaeth."

Cefn gwlad yn fwy dibynnol

Dywedodd fod rhwymedigaethau gwasanaeth y Post Brenhinol yn golygu ei fod yn bwysicach fyth y tu allan i ardaloedd trefol, lle mae gweithredwyr masnachol weithiau'n cael trafferth darparu gwasanaeth.

"Mae busnesau gwledig yn dibynnu'n fawr iawn ar ddibynadwyedd gwasanaeth chwe diwrnod yr wythnos gan y Post Brenhinol," meddai Ben Cottam.

"Pan edrychwn ar yr opsiynau ar gyfer yr ymgynghoriad [gan Ofcom], mae angen inni gadw hynny mewn cof.

"Mae'n bosibl iawn y bydd rhai o'n hardaloedd mwy gwledig yn cael eu heffeithio'n drymach gan unrhyw wanhad i'r gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Sandra Jervis yw y bydd cwsmeriaid yn colli ffydd yn y gwasanaeth post ac y bydd gwerthiant yn gostwng

Newid arferion ymhlith cwsmeriaid ydy un elfen mae busnesau yn poeni amdani.

"Bydd busnesau sy'n dibynnu arno, fel fy un i, yn dioddef yn barhaol," meddai Sandra Jervis, perchennog Creative Cove yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae hi'n gwerthu cardiau cyfarch, ac yn poeni y bydd cwsmeriaid yn colli ffydd yn y gwasanaeth post ac y bydd gwerthiant yn gostwng.

Pryder am ddibynadwyedd

Wrth gofio effaith y streiciau post yn 2022 a 2023 ar ei busnes, mae Ms Jervis yn pryderu am newidiadau all effeithio ar ddibynadwyedd y post.

"Yn y cyfnod cyn y Nadolig hwnnw lle cawsom y streiciau, roedd gennym ni gwsmeriaid yn dod i mewn bron bob dydd yn dweud nad oedden nhw'n mynd i anfon cerdyn Nadolig y flwyddyn honno, achos beth oedd y pwynt?" meddai.

"Doedd y cerdyn ddim yn debygol o gyrraedd, neu doedd y gwasanaeth ddim yn hollol ddibynadwy."

Honnodd Ms Jervis fod natur anrhagweladwy'r gwasanaeth yn ystod streic wedi costio £3,000 iddi mewn gwerthiant a gollwyd, ac roedd yn ofni y byddai arferion "yn newid yn barhaol" pe bai'r gwasanaeth craidd yn cael ei leihau a'i fod yn cael ei ystyried yn annibynadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sandra Jervis yn poeni y byddai eu busnes hi yn "dioddef yn barhaol" o ganlyniad i unrhyw newidiadau

Dywedodd prif swyddog gweithredol y Post Brenhinol, Martin Seidenberg, fod adroddiad Ofcom yn dangos fod angen newidiadau "ar frys" i'r gwasanaeth.

"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i newid, ond nid yw'n gynaliadwy i gynnal rhwydwaith a gafodd ei adeiladu ar gyfer 20 biliwn o lythyrau, pan 'dyn ni nawr ond yn danfon saith biliwn.

"Mae gwasanaeth post modern a chynaliadwy yn allweddol i'n pobl, ein cwmni a'n cwsmeriaid."

Dywedodd llefarydd ar ran adran busnes a masnach Llywodraeth y DU y byddan nhw'n ystyried argymhellion Ofcom, ond nad yw gweinidogion ar hyn o bryd yn ffafrio cyflyno deddfwriaeth newydd i newid ymrwymiadau danfon llythyrau.