Gwallau Horizon: Cyn-isbostfeistr wedi colli 'mwy na £75,000'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-bostfeistr wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am yr effaith a gafodd rhaglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon ar ei iechyd.
Robin Ennion oedd is-bostfeistr Llanymddyfri am bron i 18 mlynedd ar ddechrau'r ganrif.
Mae'n dweud iddo sybsideiddio gwallau Horizon drwy'r cyfnod, ac yn amcangyfrif iddo golli "mwy na £75,000" - ffigwr sydd yn cynnwys ei fuddsoddiad gwreiddiol.
Dywed Swyddfa'r Post na allan nhw roi sylw ar achosion unigol, a'u bod nhw'n annog dioddefwyr i wneud cais am iawndal.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, mae gwraig Mr Ennion yn disgrifio effaith y straen ar ei gŵr.
"Roedd ei iechyd e'n methu yn eithaf difrifol... cafodd drawiad enfawr ar ei galon," meddai Anne Ennion.
"Roedd yn rhaid i ni dynnu mas o'r swyddfa bost neu bydde fe wedi bod yn ei arch.
"Allwch chi ddim rhoi pris ar fywyd rhywun."
Yn ôl Robin Ennion, cafodd wared ar ei holl gofnodion y llynedd.
Mae'n dweud iddo sybsideiddio gwallau cyfrifo'r system gyfrifiadurol yn gyson o'i boced ei hun.
Weithiau, ychydig o bunnoedd yn unig fyddai'r diffyg, ond ar adegau eraill, gallai'r colledion fod dipyn yn fwy.
'Gweddïo na fyddai'r archwilwyr yn cyrraedd'
"Yr unig adeg roedd pethau'n ddifrifol iawn oedd yn 2018. Ges i golled o £1,100," meddai Mr Ennion.
"Dreuliais i'r noson gyfan yn chwilio amdano fe a'n methu dod o hyd i'r gwall.
"Ddes i â'r cwbl at sero ac arwyddo'r cyfrifon, a gweddïo na fyddai'r archwilwyr yn cyrraedd y diwrnod canlynol."
Fe dalodd yr arian yn ôl dros y diwrnodau nesaf.
Dywedodd ei wraig iddo orfod ymddeol oherwydd y straen arno a'r effaith ar ei iechyd.
Yn ôl y cwpl, fe wnaeth Swyddfa'r Post y sefyllfa'n amhosib iddyn nhw werthu'r busnes.
Mae Robin Ennion yn dyfalu iddo golli ei fuddsoddiad gwreiddiol o ryw £60,000, ac o leiaf £15,000 arall yn "cywiro" gwallau Horizon.
Gall is-bostfeistri yn sefyllfa Mr Ennion wneud cais am iawndal drwy gynllun yr Horizon Shortfall Scheme.
Ond dyw Mr Ennion ddim yn bwriadu gwneud cais am iawndal, gan ddweud ei fod yn ofni rhoi ei hun dan bwysau ac yn amheus ar ôl ei brofiadau blaenorol gyda Swyddfa'r Post.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, sy'n cynrychioli Mr Ennion yn San Steffan, mae angen symleiddio'r cynllun hwnnw, gan ddweud ei fod yn "gymhleth a thrafferthus".
Mewn datganiad, roedd Swyddfa'r Post yn annog y rhai sydd heb wneud cais am iawndal i wneud hynny.
"Mae cynigion o fwy na £120m wedi eu gwneud eisoes drwy'r cynllun, gyda chytundeb ar y rhan fwyaf o'r rheiny a thaliadau wedi eu gwneud," meddai llefarydd.
"Ry'n ni'n parhau gyda thaliadau interim mewn achosion eraill lle nad oes cytundeb eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Ionawr