Sgandal Swyddfa'r Post yn 'amddifadu' cymuned Nefyn
- Cyhoeddwyd
Mae effaith sgandal system ddiffygiol Horizon yn amlwg yn Nefyn wrth i gangen o Swyddfa'r Post orfod cau am nad oes neb eisiau gweithio yno.
Cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn ar gam am ddwyn arian neu gyflwyno cyfrifon ffug, gyda Swyddfa'r Post yn gwadu mai Horizon oedd ar fai am y colledion.
Mae'r sgandal bellach yn "amddifadu cymuned o wasanaethau", yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, wrth i bobl Nefyn boeni am effaith cau'r post, sydd heb fod ar agor ers Medi 2023.
Dywedodd Swyddfa'r Post bod drama ddiweddar ar ITV yn ddarlun o gyfnod "cywilyddus" yn ei hanes.
Yn ôl Liz Saville-Roberts AS, er gwaethaf ychydig diddordeb mewn rheoli'r gangen, mae'r diddordeb bellach wedi diflannu oherwydd y sylw i system gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon.
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod "staff ofn gweithio oherwydd y diffyg trust o'r system gyfrifiadurol".
Aeth ymlaen i ddweud ei bod "wedi gofyn i Swyddfa'r Post a fydden nhw yn ystyried cael fan Outreach i ddod i Nefyn a'r ateb oedd 'na', gan fod fan eisoes yn dod i Edern".
"Dwi'n meddwl bod gan y Swyddfa Bost ddyletswydd i gymunedau fel Nefyn i sicrhau fod y gwasanaeth yn gyraeddadwy i bobl."
Mae'r penderfyniad i gau'r gangen yn Nefyn yn cael ei nodi mewn neges ar y safle.
"Gyda thristwch mawr yr ydym yn cadarnhau y bydd ein cangen o'r Swyddfa Bost sydd yma ar ein safle yn cau yn barhaol."
Mae'r neges yn pwysleisio effaith sgandal Horizon ar gael staff newydd, gan ddweud fod "gofynion uchel a'r straeon erchyll diweddar o gwmpas y system Horizon, yr ydym yn ei chael hi'n anodd penodi aelodau o staff sydd yn barod i ymgymryd â'r gwaith o redeg y cownter".
'Hollol hurt'
Mae Nicola Wood, goruchwyliwr yn Siop Madryn Nefyn lle'r oedd Swyddfa'r Post wedi'i lleoli, yn gyfarwydd iawn â sgandal Horizon.
Cafodd ei chwaer, Lorraine Williams oedd yn gyn-isbostfeistr yn Llanddaniel-fab ar Ynys Môn, ei chyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug,
Dywedodd: "Mae o'n gyfrifoldeb mawr ac os ydi'r system dal yn faulty, dydi o ddim yn disgyn ar y bobl, ond y perchennog ond ma'n dal yn gyfrifoldeb iddyn nhw."
Mae Liz Saville Roberts wedi cael cynnig cyfarfod gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach yn San Steffan i drafod yr effaith y mae sgandal Swyddfa'r Post yn ei chael ar gymunedau yn ei hetholaeth.
Dywedodd Kevin Hollinrake AS: "Mae'n bwysig iawn bod gan ein dinasyddion - ein defnyddwyr - hyder yn Swyddfa'r Post.
"Mae system Horizon yn cael ei newid. Hyd y gwn i, ni fu erioed achos o gwsmer ar ei golled oherwydd system Horizon, ond rwy'n hapus iawn i gwrdd â'r aelod i drafod ei hachos yn Nefyn."
Darlun 'cywilyddus' hanes Swyddfa'r Post
Mae Swyddfa'r Post wedi ymateb gan ddweud bod drama ITV yn ddarlun o gyfnod "cywilyddus" yn ei hanes.
Ond ychwanegodd llefarydd eu bod yn "croesawu" ei effaith wrth "annog dioddefwyr sgandal Horizon" i ddod ymlaen, gan ddweud y byddant yn gwneud "popeth posib i gefnogi postfeistri".
Wrth nodi sefyllfa Nefyn, mae Swyddfa'r Post yn dweud fod swyddfa Tudweiliog yn agos, bod modd cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus a bod y swyddfa ar agor chwe bore yr wythnos ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Ionawr