Covid: Llywodraeth Cymru 'wedi'u dal gyda'u trowsus i lawr'
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp teuluoedd mewn profedigaeth Covid wedi dweud eu bod eisiau gwybod pam na chafodd cleifion oedrannus yng Nghymru brawf gorfodol am Covid cyn cael eu rhyddhau i gartrefi gofal dros bythefnos ar ôl i'r profion gael eu cyflwyno yn Lloegr.
Clywodd yr ymchwiliad, ar ail ddiwrnod y gwrandawiadau yng Nghaerdydd, sut y cyflwynwyd profion yng Nghymru ar 29 Ebrill 2020, o gymharu â 16 Ebrill yn Lloegr.
"Rydyn ni eisiau gwybod pam," meddai Elizabeth Grant wrth y gwrandawiad yng Nghaerdydd.
"Mae'n swnio fel eu bod wedi eu dal gyda'u trowsus i lawr. A phan sylweddolon nhw effaith y feirws ar lannau Cymru, fe eisteddon nhw ar eu dwylo."
Collodd Ms Grant ei mam Betty - oedd â dementia ac wedi torri clun - ar 19 Ebrill 2020, yn 86 oed.
Roedd hi "heb amheuaeth" wedi dal Covid yn yr ysbyty, meddai.
'Pobl yn troi'n ystadegau'
Defnyddiodd hi Facebook i ddod o hyd i berthnasau eraill, a arweiniodd at ffurfio'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth ym mis Gorffennaf.
"Rwy'n gwybod bod ystadegau'n ddefnyddiol iawn ond roeddwn i'n meddwl ar y pryd bod y miloedd ar filoedd o farwolaethau ar y dangosfwrdd - roedden nhw'n dadsensiteiddio pobl i'r ffaith eu bod yn bobl, eu bod yn bobl annwyl ac roedden nhw newydd ddod yn ystadegau… ," meddai wrth yr ymchwiliad.
Roedd yr aelodau eisiau atebion, gwirionedd ac atebolrwydd, meddai.
Erbyn diwedd 2022 roedden nhw wedi cael pum cyfarfod gyda'r gweinidog iechyd, dau yn cynnwys swyddogion iechyd ac mae cyfarfodydd chwarterol wedi bod gyda'r gweinidog iechyd a'r dirprwy brif swyddog meddygol tan ddechrau 2023.
Roedd awyru yn yr ysbyty a chaffael PPE yn faterion allweddol, meddai, ynghyd â nifer fawr o gleifion heb eu profi a ryddhawyd i gartrefi preswyl.
Dywedodd y gellid bod wedi gwneud mwy i atal yr haint rhag lledaenu yn yr ysbyty.
"Roedd y mwyafrif yn teimlo bod angen y cyfyngiadau i atal y lledaeniad ond nid oedd y cyfathrebu o fewn ysbytai i deuluoedd yn bodoli," meddai Ms Grant wrth yr ymchwiliad.
'Rhy ofnus'
Hefyd o grŵp teuluoedd mewn profedigaeth Covid, dywedodd Amanda Provis iddi golli dau berthynas o Covid - ei mam a'i nain.
Dywedodd fod ei thad yn borthor ysbyty heb ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol (PPE), ac fe ddechreuodd ddangos symptomau Covid ddiwedd mis Mawrth 2020.
Dywedodd fod ei mam wedi dechrau dangos symptomau Covid ryw ddiwrnod ar ôl iddo ef gael ei anfon adref o'r gwaith.
Dywedodd Ms Provis fod ei mam yn "rhy ofnus" i fynd i'r ysbyty. Derbyniodd alwad ffôn gan ei thad ar 7 Ebrill i ddweud bod ei mam wedi marw.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad ei bod yn bryderus am ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol yn yr ysbyty.
"Rwy'n pryderu nad oedd PPE digonol ar gyfer unrhyw un a oedd yn gweithio yno. Pe bai yna… ni fyddai wedi dod adref at fy mam a byddai hi gyda ni o hyd."
Dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna - o grŵp cynghori Covid du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) y prif weinidog - wrth y gwrandawiad mai un maes sy'n peri pryder yw nad yw data ethnigrwydd yn cael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth, er ei fod yn cydnabod "nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus" yn cofnodi'r wybodaeth.
Dywedodd yr Athro Ogbonna hefyd fod y pandemig wedi datgelu anghydraddoldebau hiliol presennol ymhellach.
"Mae problemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o gael eu canfod mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig ac mae canlyniadau yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol yn y grwpiau hynny.
"Felly roedd yn bryder arbennig y byddai pandemig fel Covid yn ei waethygu."
Saith o bob 10
Tynnodd Debbie Foster, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sylw at faterion yr oedd pobl anabl wedi eu profi, gan gynnwys "gwisgo mygydau a oedd yn rhoi pobl â nam ar eu clyw dan anfantais, y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a oedd yn broblematig i bobl â nam ar eu golwg a'r cyfnodau clo i bobl ag anableddau dysgu".
Clywodd yr ymchwiliad fod saith o bob 10 marwolaeth rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 yn ymwneud â phobl anabl.
'Problem mor fawr'
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, wrth yr ymchwiliad am y pryderon am ddiffyg profion mewn cartrefi gofal ym mis Ebrill 2020.
Cododd hi'r mater yn gyntaf mewn llythyr at y dirprwy weinidog Julie Morgan ar 14 Ebrill 2020.
"Roedd hwn yn broblem mor fawr, fod pobl hŷn yn cael eu rhyddhau i gartrefi gofal o'r ysbyty heb brofion ac nid oedd pobl mewn cartrefi gofal yn cael eu profi," meddai wrth yr ymchwiliad.
"Yr adborth roeddwn i'n ei weld mewn perthynas â'r nifer o bobl yn anffodus oedd yn colli eu bywydau oedd bod profi yn rhan hanfodol o amddiffyn pobl, ac roeddwn i'n teimlo bod angen brys i wneud gwelliannau."
'Torri'r ymddiriedaeth'
Dywedodd Helena Herklots hefyd fod llythyr a anfonwyd gan feddygfa yn gynnar yn y pandemig "yn nodi'n glir sut roedd pobl hŷn yn cael eu gweld bryd hynny".
"Fy mhryder wedyn oedd ei fod wedi torri'r ymddiriedaeth oedd gan rai pobl hŷn yn y GIG," meddai.
Roedd yn ymddangos bod Ms Herklots yn cyfeirio at lythyr a anfonwyd gan feddygfa Llynfi ym Maesteg at gleifion gyda salwch angheuol oedd yn gofyn iddynt gwblhau ffurflen i "beidio adfywio".
Roedd y llythyr o feddygfa Llynfi yn gofyn i gleifion arwyddo'r ffurflen fyddai'n golygu na fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys fynychu pe bai eu cyflwr yn gwaethygu o ganlyniad i coronafeirws.
Ymddiheurodd y feddygfa ar ôl i'r comisiynydd godi'r mater.
'Colli profiadau'
Dywedodd yr Athro Sally Holland, a fu'n Gomisiynydd Plant Cymru tan fis Ebrill 2022, fod y pandemig yn gyfnod "rhyfeddol" i blant, a gollodd brofiadau fel mynd i'r ysgol, cymdeithasu gyda ffrindiau a gweld neiniau a theidiau.
"Nid yn unig y mae'r rhain yn braf eu cael i blant, ond yn rhan bwysig o'u datblygiad a'u gallu i ffynnu," meddai.
Dywedodd fod Covid wedi cael effaith ddofn ar blant, ond nad oedd eu profiadau wastad yn cael eu cydnabod ar wahân i'r boblogaeth yn gyffredinol.
Ychwanegodd fod "yr anghydraddoldebau y mae plant yn eu profi y tu allan i bandemig yn fwy amlwg yn ystod pandemig".
Roedd y rhain yn cynnwys tlodi, anabledd, ethnigrwydd a bregusrwydd y rhai nad oedd eu cartref yn lle diogel.
Dywedodd y cyn-gomisiynydd plant wrth yr ymchwiliad hefyd na ymgynghorwyd â hi ynglŷn â chau ysgolion ym mis Mawrth 2020.
Er na fyddai hi wedi gwrthwynebu'r penderfyniad, dywedodd Sally Holland y byddai'r llywodraeth wedi elwa o wybodaeth ac arbenigedd y comisiwn.
'Lles a chefnogaeth'
Dywedodd fod y pandemig wedi atgoffa pobl fod ysgolion yn llawer mwy na darparwyr dysgu academaidd yn unig.
"Maen nhw'n bwydo ein plant, weithiau maen nhw'n golchi eu dillad ac maen nhw'n ffynhonnell bwysig iawn o les a chefnogaeth."
Yn gynharach, gan roi enghreifftiau lle nad oedd anghenion plant yn cael eu hystyried, dywedodd fod parciau a mannau chwarae yn cael eu hailagor i blant ar ôl i dafarndai gael eu hailagor.
Roedd yr achosion pan oedd ysgolion ar gau ond tafarndai a bwytai ar agor yn teimlo'n annheg i blant, meddai Sally Holland.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Chwefror