Covid-19: 'Mor bwysig siarad am y bobl gollon ni'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Teleri Mair Jones, y plant a HuwFfynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Huw - a oedd yn ŵr ac yn dad i ddau o blant - ar 19 Chwefror 2021

Mae hi'n dair blynedd ers i Teleri Mair Jones golli ei gŵr yn ystod y pandemig.

Doedd gan Huw Gethin Jones ddim cyflyrau iechyd cyn iddo gael ei heintio â Covid-19.

Bu farw ar 19 Chwefror 2021 yn 34 oed.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig i Gymru am y tro cyntaf - yn rhannol i glywed straeon pobl fel Teleri, sydd wedi colli anwyliaid.

Yn y cyfamser, bydd diwrnod o gofio cenedlaethol am y rhai fu farw yn ystod y pandemig yn cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Sul cyntaf mis Mawrth o eleni ymlaen.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Teleri, o Dynlon ar Ynys Môn, bod cael diwrnod swyddogol yn bwysig er mwyn rhoi cyfle i bawb edrych yn ôl ar gyfnod "sydd wedi effeithio ar bob un ohonom ni".

"Mae o'n beth da, does 'na'm angen teimlo'n annifyr am siarad am bob da ni 'di golli - roedden nhw'n gig a gwaed, ma' nhw wedi creu argraff ar bobl... mae o mor bwysig," meddai.

"Mae 'na rw'beth wedi newid ym mywyd pawb... 'oedd o'n ddigwyddiad mor od, yn gyfnod mor swreal, a be sy'n bwysig i ni gofio ydy fysa lot o'r miloedd o bobl wnaethon ni golli dal yma oni bai am Covid.

"Dwi'n grediniol iawn am hynny efo Huw, achos 'oedd o'n ifanc, a ma' 'na lot o deuluoedd yn teimlo'r un fath - heblaw am y feirws 'ma, fysa 'na lot o'r bobl gollon ni dal yma."

Ffynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn aml yn mynd i draeth Llanddwyn, meddai Teleri, gan mai dyna oedd hoff le Huw

Roedd Teleri wedi penderfynu yn syth ei bod hi'n benderfynol o sicrhau bod ei meibion, Gwydion a Math, yn cofio eu tad.

"'Dwi ddim yn meddwl bo' ni'r Cymry yn 'neud galar a cholled yn dda iawn - yn enwedig pan ma' o'n rhywun ifanc neu fod rhywbeth anarferol wedi digwydd," meddai.

"Mae o mor bwysig i drafod, achos dydyn nhw [ei meibion] ddim yn mynd i gofio fo'n iawn, ond dwi'n trio creu atgofion drwy siarad amdano fo.

"Mae o'n beth da a does 'na'm angen i neb deimlo'n annifyr am siarad am bobl 'da ni 'di golli, dwi'n teimlo'n angerddol iawn am hynny."

O ran ei chynlluniau ar gyfer y diwrnod o gofio cenedlaethol dywedodd Teleri: "'Da ni'n siarad am Huw bob diwrnod beth bynnag.

"Fydda ni'n mynd a blodau melyn i'r fynwent a mynd am dro. 'Da ni'n hoff iawn o fynd i Landdwyn achos dyna oedd hoff le Huw."

'Ysgwyd' gogledd Cymru

Er bod tair blynedd wedi pasio erbyn hyn, mae Teleri yn dweud fod bob diwrnod dal yn anodd a hynny er gwaetha'r gefnogaeth wych y maen nhw wedi ei gael gan bobl yr ynys.

"'Da ni dal i fynd... ma' bob diwrnod dal yn anodd, rhai dyddiau yn anoddach na'i gilydd... Dwi'n trio byw dros y ddau ohonom ni, trio neud be fysa fo wedi bod isio 'neud.

"Mae'r hogiau'n neud yn wych, ma' nhw'n neud yn grêt yn yr ysgol... dwi rŵan yn amlwg yn fam sengl felly dwi angen bob help, ond ma' pawb dal i gofio, mae pawb wedi bod yn grêt.

"Wnaeth o ddychryn gymaint o bobl [marwolaeth Huw], mi ysgwydodd o rhan fwya' gogledd Cymru dwi meddwl ac mae'r ymateb wedi bod yn lyfli chwara' teg - ma' pobl dal yr un mor glên ag oedden nhw tair blynedd yn ôl... 'Da ni'n oce."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r ymchwiliad cyhoeddus presennol i Covid-19, dywedodd Teleri ei bod hi'n "gobeithio y bydd 'na gwestiynau'n cael eu hateb, a gwersi'n cael eu dysgu".

"'Dwi heb fod yn ei ddilyn o'n fanwl achos dwi'n teimlo bod o'n dod â lot o atgofion eithaf poenus yn ôl," meddai.

"'Dwi jest yn gobeithio y bydd 'na wersi yn cael eu dysgu, ac os ydyn ni yn y ffasiwn sefyllfa eto, bo' 'na well syniad o be wnawn ni, be fydd y cynllun a bod y cyhoedd yn fwy parod i ddilyn cyngor a phethau felly.

"O ran yr hyn dwi wedi ei weld - yr hyn sy' 'di cael ei ddweud gan y teuluoedd gafodd eu heffeithio - dwi'n cytuno efo nhw bob cam o'r ffordd.

"Mae'r niferoedd gollon ni i feddwl bo' ni'n wlad ddatblygedig yn anhygoel, mae o'n hurt... dwi'm yn meddwl bod un person yn ymatebol iddo fo, ond dwi'n meddwl bysa ni wedi gallu delio efo fo yn well."

Pynciau cysylltiedig