Gwynedd: Pentref yn galw am ailagor pont droed bwysig
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar asiantaethau niwclear i ailagor pont bwysig yng Ngwynedd sydd wedi bod ynghau am dros flwyddyn a hanner.
Oherwydd pryderon diogelwch nid yw'r bont droed chwarter milltir o hyd sy'n croesi Llyn Trawsfynydd wedi bod ar agor i'r cyhoedd ers Awst 2022.
Yn boblogaidd gyda physgotwyr a cherddwyr, fe gafodd y bont ei hagor yn 1920au pan gafodd y llyn ei greu i wasanaethu pwerdy hydro Maentwrog - cynllun aruthrol o fawr ar y pryd.
Gyda thir amaeth wedi ei golli fe gafodd y bont ei chodi i gadw'r cysylltiad rhwng pentref Trawsfynydd a chymunedau ar ochr draw y llyn newydd.
Ond roedd pentrefwyr yn dweud fod colli'r adnodd wedi bod yn ergyd i rai yn eu bywydau bob dydd ac maen nhw'n galw ar Wasanaethau Adferiad Niwclear (NRS) i wneud y gwaith angenrheidiol i'w hailagor, neu adeiladu pont newydd.
Ond mae NRS, a oedd yn cael ei adnabod fel Magnox, yn dweud y byddai'r gwaith o adeiladu pont newydd yn costio tua £3m.
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gweithio gyda'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a'r gymuned leol "i geisio dod o hyd i ateb sy'n ystyried y defnydd gorau o arian trethdalwyr".
'Rhy beryg'
Yn y 1960au fe gafodd gorsaf niwclear ei hagor ger y llyn, sydd ers blynyddoedd, wedi bod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal.
Fe wnaeth Trawsfynydd stopio cynhyrchu trydan yn 1991 ar ôl bod yn weithredol am 25 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'r atomfa yn y broses o gael ei datgomisiynu.
Erbyn hyn, mae cannoedd o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb gan Gyngor Cymuned Trawsfynydd yn galw ar yr awdurdodau niwclear - a oedd yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw - i ailagor y bont.
Ymysg y rheiny sydd wedi ychwanegu eu llais i'r ymgyrch mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd.
Un o'r rhesymau y codwyd y bont yn wreiddiol, bron i 100 mlynedd yn ôl, oedd helpu plant i gyrraedd yr ysgol.
Ond dywedodd y pennaeth presennol, Heulwen Jones, bod cau'r bont wedi effeithio ar fywydau rhai o'r disgyblion a'u teuluoedd gan fod yr unig ffordd erbyn hyn yn golygu cerdded ar hyd yr A470.
"Mae'r plant yn siarad am fod yna dipyn yn mynd am dro rownd y llyn a mae cael torri ar draws y bont yn osgoi gorfod mynd ar hyd y ffordd fawr," meddai.
"Mae wedi effeithio ni fel ysgol hefyd am fod ni'n cael mynd am dro neu wedi cael gwadd i fynd i Gapel Cae Adda i weld y tîm achub mynydd.
"Ond 'dan ni wedi gorfod gwrthod am fod o rhy beryg i fynd ar hyd ochr y lôn hefo 30 o blant.
"Mae'r bont yn ffordd fach dda o gael mynd am dro i'r ochr arall yn gwbl saff a heb geir."
'Pawb yn hoffi mynd am dro'
Yr un oedd y farn ymysg rhai o'r disgyblion.
Dywedodd Daniel: "O'ddwn i'n licio mynd am dro yna ac yn hoffi mynd â'r ci ar ben fy hun, ond rŵan dwi'm yn gallu am bod ni'n gorfod mynd rownd y bypass a wedyn mae rhywun yn gorfod dod hefo fi.
"Oedd pawb yn hoffi mynd am dro ar y bont."
Dywedodd Harri: "'Dan ni angen y bont yn ôl i allu mynd lot hawsach i Gapel Cae Adda.
"Plîs adeiladwch y bont yn saffach i wneud y pentref yn hapusach."
Yn ôl Idris, sy'n bysgotwr brwd, mae gorfod cerdded yr holl ffordd o amgylch y llyn yn peri problemau.
"Rhaid i mi fynd rownd y bypass ac erbyn cyrraedd lle dwi angen pysgota mae'n dechrau tywyllu.
"Mae'n haws mynd dros y bont achos mae pobl yn licio ei defnyddio... agorwch o eto."
'Gweithio gyda'r gymuned'
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Adferiad Niwclear (NRS), nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud ar ddyfodol y bont.
Ychwanegodd NRS eu bod wedi buddsoddi £5m i brosiectau cymunedol yn ardal Trawsfynydd dros y ddegawd diwethaf a'u bod yn ymwybodol o'r teimladau yn lleol.
"Roedd pont droed Trawsfynydd yn destun archwiliadau cynnal a chadw blynyddol ac atgyweiriadau hyd at fis Awst 2022 pan fu'n rhaid ei chau oherwydd pryderon am ddiogelwch y cyhoedd, sef ein prif flaenoriaeth.
"Penderfynwyd nad oedd y bont yn strwythurol ddiogel nac yn hyfyw i'w hadfer oherwydd maint y dirywiad a ganfuwyd.
"Ers ei chau mae NRS a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned leol i geisio dod o hyd i ateb sy'n ystyried y defnydd gorau o arian y trethdalwr."
'Trychineb'
Mae'r cynghorydd sir lleol yn argyhoeddiedig bod angen datrysiad i'r sefyllfa.
Dywedodd y Cynghorydd Elfed Roberts, sy'n cynrychioli ardal Trawsfynydd, Gellilydan a Maentwrog, bod y bont wedi ei gosod yn wreiddiol i helpu plant i gyrraedd yr ysgol.
"Mae'n drychineb bod hi wedi cau i ddweud y gwir, achos mae 'na lawer iawn yn ei defnyddio hi ac mae'n golled mawr i'r ardal.
"Mae'n rwbath mae rhywun wedi arfer gyda a gafon ni sioc bod hi wedi cau heb rybudd.
"Cafodd y bont ei rhoi yn wreiddiol i helpu plant yr ardal ddod i'r ysgol, ond er mwyn lles pobl mae hi rŵan ar gyfer cerdded a bob dim ac mae 'na ddefnydd mawr ohoni.
"Maen nhw'n gorfod cerdded ar hyd y ffordd fawr i fynd rownd rŵan yn lle o'r blaen mynd dros y bont.
"'Dan ni isio ffendio allan yn iawn oes 'na ddyletswydd cyfreithiol ar y pwerdy ta cyfrifoldeb moesol.
"Yn draddodiadol maen nhw wedi bod yn maintainio hi heb drafferth ond ers i'r pwerdy gau yn y 90au mae'r gwaith papur wedi mynd i Wylfa a dydi'r neges heb ddod yn ôl i warchod y bont.
"Mae 'na weithgor wedi ei setio fyny a 'dan ni wedi siarad hefo rhai o benaethiaid yr NRS i drio datrys y broblem.
"Maen nhw'n ei gym'yd o ddifri dwi'n meddwl ond 'dan ni isio sicrhau bod y bont am gael ei cynnal a'i chadw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2015