'Gwarthus' bod canolfan ddringo Blaenau ar gau

  • Cyhoeddwyd
Cae Peips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un dringwr ifanc ei fod yn "andros o flin" am benderfyniad y cyngor i rwystro mynediad i Gae Peips

Ym Mlaenau Ffestiniog mae canolfan ddringo yn destun ffrae rhwng pobl leol a Chyngor Gwynedd.

Gyda dŵr yn gollwng ac ôl llygod - mae Cyngor Gwynedd wedi cau safle Cae Peips oherwydd pryder am ei ddiogelwch.

Yn ôl rhai o bobl ifanc yr ardal mae hi'n warthus nad yw'r cyngor yn eu cefnogi.

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod y cytundeb i ddefnyddio'r safle "wedi dod i ben a'u bod wedi comisiynu arolwg i asesu costau dod â'r safle yn ôl i ddefnydd yr ysgol" leol.

Mi oedd y safle ar gyrion y dre, sy'n eiddo i'r cyngor drwy Ysgol Moelwyn, wedi bod yn wag ers wyth mlynedd yn ôl.

Drwy gytundeb â'r ysgol leol mae criw o ddringwyr wedi creu ardal ddringo ar y safle - canolfan sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn wythnosol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae criw o ddringwyr wedi creu ardal ddringo yn yr hen ganolfan

Ond yn ôl y clwb, pan godwyd pryderon am ddiogelwch y safle gan ofyn am gymorth i'w drwsio fe benderfynodd y cyngor atal mynediad i'r safle a'u gadael heb gyfleusterau.

Fe ddaw'r ergyd ddeufis cyn i Ŵyl Hongian, gŵyl ddringo, gael ei chynnal yno. Fe wnaeth ryw 300 o ddringwyr fynychu y digwyddiad y llynedd.

Mae'r criw bellach wedi codi baner tu allan i'r safle i fynegi eu dicter.

"O'n i arfer joio yma ar ddydd Mawrth ac oeddan ni'n cleimio fel clwb ac oedd o'n vibes ia", meddai Ioan sy'n 16.

"Oedd Hongian Fest bob blwyddyn ac oeddan ni'n joio dysgu mwy gan y bobl hyn."

Yn ôl Eban sy'n 16, mi oedd yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd.

Disgrifiad o’r llun,

(Chwith i dde) Ioan, Owen, Eban, a Cian

"'Di o [Blaenau] ddim y lle sycha so pryd doeddan ni methu cleimio tu allan oedda ni'n edrych mlaen i 'neud tu mewn ac ma just yn siomedig 'wan gweld y gwaith da ni di rhoi mewn yn mynd i wast".

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer wedi bod yn gwarchod y safle gan arddio a gwella adnoddau tu mewn ac yn ôl Owen, 15, mae'n ergyd enfawr.

"Dwi'n andros o flin... ma'n cymryd y mic rili.

"Mae'r cyngor yn dweud bod nhw isho i Flaenau flourishio efo pobl ifanc a wedyn mae nhw'n gwneud hyn ac mae'n completely contradictory be ma nhw'n deud - ma'n ridiculous.

"Da ni 'di bod yma cwpl o wicends yn helpu garddio ac yn dod yma i ddringo bob wsos - lot o amser 'di ca'l ei wastraffu ma'n teimlo fel.

"Blwyddyn ddiwethaf oedd 'na dros 300 yma [i Ŵyl Hongian] - ma'n dod ag enw da i Flaenau oherwydd does gan y lle 'ma ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Roberts, un o hyfforddwyr dringo Cae Peips, yn dweud y dylai Cyngor Gwynedd ddod i Blaenau i "weld be di'r sefyllfa go iawn"

Un o'r hyfforddwyr ydi Rhys Roberts sy'n dweud fod 'na ddiffyg eglurder am ddyfodol hir dymor y safle.

"Be da ni angen ydi cyfathrebu, just siarad... does mond dau fis nes daw'r ŵyl ac mae gynno ni filoedd o asedau a 'dan ni'm yn cael mynd yna," meddai.

"Dan ni'n gofyn yn garedig i'r cyngor ... dewch draw 'ma i Flaenau a gweld be 'di'r sefyllfa go iawn."

Mae Connair Cann sy'n gyfrifol am godi'r strwythurau tu mewn yn dweud bod y ganolfan yn hafan i bobl ifanc.

"Mae pawb yn cwyno does 'na'm byd i neud yn Blaenau ac mae'r plant a ni wedi gweithio'n galed i ddatblygu wal ddringo tu mewn a da ni'm yn cael iwsio fo 'wan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Connair Cann yn dweud nad oes llawer i'r ieuenctid ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog

"Mae'r plant 'di dysgu llwyth ond y cyfle wedi mynd wan.

"Does na'm byd yn Blaenau rili wan mae'r clybiau ieuenctid 'di cau so oedd hwn mor bwysig iddyn nhw".

Un o'r rhai sydd wedi bod yn protestio yn erbyn y penderfyniad i gau'r safle ydi Cian sy'n 17.

"O'dd o'n rhoi rhywle sych i ni fynd oddi ar y strydoedd rhag yr alcohol a'r dryga a 'neud be 'dan ni licio 'neud - ehangu sgiliau mewn cymuned a siarad efo'n gilydd cael hwyl a bod fel cymuned fawr.

"Ma'n meddwl lot i ni oherwydd da ni di rhoi amser gwaed a chwys mewn iddo a maen nhw'n cymryd o oddi wrtha ni."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth o gwmpas 300 o ddringwyr fynychu Gŵyl Hongian y llynedd

Wrth ymateb i bryderon dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod ganddynt"hanes hir o gydweithio gydag amrywiol grwpiau lleol er mwyn datblygu a chynnal adnoddau at ddefnydd cymunedol".

"Yn yr achos hwn, mae'r cytundeb rhwng Ysgol y Moelwyn a Chlwb Dringo Hongian wedi dod i ben.

"Bydd arolwg yn cael ei gomisiynu ar Gae Eifion er mwyn asesu costau adfer y cae fel gall yr ysgol ei ddefnyddio ar gyfer addysgu plant yr ardal.

"Mae'r cyngor a'r ysgol wedi bod mewn cyswllt ag arweinwyr y clwb ac yn deall siom a rhwystredigaeth yr aelodau. Pwysleisiwn nad ydym yn cau'r drws ar gydweithio gyda'r gymuned yn y dyfodol."