Heddlu'r Gogledd yn 50: 'Grwpiau troseddol yw'r her fwyaf'
- Cyhoeddwyd
Ar achlysur hanner canrif ers sefydlu Heddlu Gogledd Cymru, mynd i'r afael â grwpiau troseddol yw her fwyaf y llu, yn ôl y prif gwnstabl.
O weithgaredd troseddol ar-lein i rwydweithiau county lines, dywed Amanda Blakeman bod troseddau grwpiau mawr "ar frig popeth - mae wir yn achosi problemau i ni yn ein cymunedau".
Mewn cyfweliad â BBC Cymru yn cwmpasu sawl pwnc, dywedodd y prif gwnstabl bod llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam yn "dod yn fater gynyddol i'w blismona".
Daeth y llu i fodolaeth ar 1 Ebrill 1974.
Hanner canrif yn ddiweddarach, dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman bod grwpiau troseddol, "boed yn ymhél â chyffuriau, county lines, neu'r we… y troseddwyr hynny sy'n gwneud elw mawr o ddioddefaint ein cymunedau yw'r bobl rydan ni'n awyddus i'w targedu".
Y nod wedyn, meddai, yw "sicrhau bod dim gallu gyda nhw i weithredu yn ein cymunedau ar draws gogledd Cymru".
Pan ofynnwyd a oes wir siawns o drechu rhwydweithiau county lines - trosglwyddo cyffuriau o ardaloedd trefol i rai gwledig - atebodd: "Mae'n frwydr anodd i'w hymladd a'i hennill, ond mae'n un rydan ni'n hollol ymroddi i'w hennill er mwyn ein cymunedau."
Yn sgil y feirniadaeth wedi i un o swydogion Heddlu'r Met gipio, treisio a llofruddio Sarah Everard yn 2021, dywedodd bod angen i'r heddlu "sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd".
Dywedodd ei bod "wedi diswyddo nifer o swyddogion ers i mi ddod yn bennaeth yma yng ngogledd Cymru," trwy wrandawiadau camdymddygiad a gwrandawiadau panel, a bod cynnal safonau proffesiynol yn fater o bwys mawr.
O ran faint o adnoddau sydd ar gael i'r llu, dywedodd: "Gallwn i wastad wneud hefo mwy o adnoddau, a fy ngwaith i fel prif gwnstabl yw gweithio gyda'r cyllid a'r adnoddau sydd gen i a gwneud yn siŵr fy mod yn targedu'n mannau sy'n flaenoriaeth i'n cymunedau lleol.
"Pe tasech chi'n gofyn, a hoffwn i gael mwy o adnoddau? Wrth gwrs. Ond dwi'n gwerthfawrogi bod llawer iawn o bobl yn y sefyllfa yna."
Mae gemau pêl-droed yn rhoi pwysau ar adnoddau ac yn sgil llwyddiant a phoblogrwydd CPD Wrecsam ers i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenny ei brynu mae angen adolygu'n gyson sut mae plismona eu gemau.
Mae'n rhaid, o ganlyniad, "gallu delio gyda nifer fawr o ymwelwyr a nifer fawr o bobl sydd eisiau teithio i gefnogi eu clwb," meddai - mater y mae hi wedi ei drafod mewn cyfarfodydd gyda phrif weithredwr y clwb.
"Mae fy nhîm plismona yn gyson yn adolygu bygythiadau sydd wedi ein cyrraedd ac o ble maen nhw'n teithio."
Ond fe bwysleisiodd bod llwyddiant y clwb wedi dod â buddiannau mawr a balchder i'r ddinas a bod ffactorau felly'n "cael sgil-effaith yn nhermau lleihau trosedd".
Cafodd y Prif Gwnstabl Blakeman ei holi ynghylch galwad i newid deddfau gyrru yn dilyn marwolaethau pedwar teithiwr ifanc o Sir Amwythig mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd fis Tachwedd y llynedd.
Bu farw Harvey Owen, 17, Jevon Hirst, 16, Wilf Fitchett, 17 a Hugo Morris wedi i'w cerbyd adael ffordd yn ardal Llanfrothen a lanio mewn afon.
Mae mam Harvey, Crystal, yn galw am reolau llymach yn achos gyrwyr ifanc, gan gynnwys eu hatal rhag cludo teithwyr nes eu bod yn 25, a chyfyngu ar yrru gyda'r nos.
Gan gydymdeimlo gyda'r teuluoedd, dywedodd y prif gwnstabl ei bod yn deall awydd "i chwilio am gyfle i allu atal teulu arall rhag mynd trwy brofiad annioddefol, sy'n parhau i fod yn annioddefol.
"Dwi wastad â meddwl agored o ran cyfleoedd i allu lleihau digwyddiadau a gwrthdrawiadau ffordd, yn enwedig rhai sy'n lladd pobl.
"Felly dwi'n meddwl bod yna gyfle i weld be allen ni wneud ac os oes angen gwelliannau i wneud ffyrdd gogledd Cymru mor ddiogel â phosib i'r bobl sy'n teithio arnyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022