Gwrthod iawndal i ddyn gafodd ei garcharu ar gam am 5 mlynedd

Cafodd Brian Buckle ei garcharu ar gam am bum mlynedd yn 2017
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Benfro a gafodd ei garcharu ar gam am bum mlynedd wedi cael gwybod na fydd yn derbyn iawndal gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Cafodd Brian Buckle ei garcharu yn 2017 am droseddau rhyw, ond ar ôl i'r Llys Apêl ddyfarnu bod y cyhuddiad yn anniogel fe wnaeth ei dîm cyfreithiol gyflwyno tystiolaeth newydd mewn ail achos yn 2022.
Fe gafwyd Mr Buckle yn ddieuog gan y rheithgor a chafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn eu diddymu.
Ond fe ddywedodd ei fod "yn ei ddagrau" pan dderbyniodd lythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod yn derbyn ei fod yn "ddieuog" o'r cyhuddiadau, ond nad oedd wedi llwyddo i brofi tu hwnt i unrhyw amheuaeth nad oedd wedi cyflawni'r troseddau.
'Dwi wedi colli pum mlynedd o'm mywyd'
Yn ystod yr ymdrech i geisio profi nad oedd yn euog, fe ddefnyddiodd Brian gynilion a benthyciadau i dalu gwerth £500,000 o gostau cyfreithiol.
O ran iawndal, dyma'r swm uchaf yr oedd hawl iddo wneud cais amdano.
Ond yn y llythyr, a dderbyniwyd bron i flwyddyn ar ôl cyflwyno'r cais, dywedodd yr aseswr - oedd erioed wedi siarad gyda Brian na'i dîm cyfreithiol - nad oedd yn gymwys i dderbyn yr arian gan nad oedd digon o dystiolaeth nad fo oedd wedi cyflawni'r troseddau.
"Beth sydd rhaid i mi ei wneud i brofi fy mod i'n ddieuog? Dwi wedi colli pum mlynedd o'm mywyd, fy swydd, fy mhensiwn. Dyw pobl methu coelio bod fy nghais wedi ei wrthod," meddai Mr Buckle.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw'n cydnabod yr effaith mae camweinyddiad cyfiawnder yn ei gael ar bobl a'u bod wedi "ymroi i gefnogi unigolion sy'n ceisio ailadeiladu eu bywydau".

Mae Stephen Vullo KC yn credu bod y system iawndal bresennol yn "annheg"
Ers newid i'r gyfraith yn 2014, os yw rhywun sydd wedi profi camweinyddiad cyfiawnder eisiau derbyn iawndal, yna mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu bod nhw'n ddieuog.
Yn ôl Stephen Vullo KC, bargyfreithiwr Mr Buckle, "mae'n her sydd bron yn amhosib" i lawer o bobl.
Mae ffigyrau Llywodraeth y DU yn dangos fod 93% o geisiadau am iawndal wedi cael eu gwrthod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ers 2016.
Mae Mr Vullo yn credu fod y drefn newydd wedi ei chyflwyno er mwyn sicrhau nad oedd cymaint o arian yn cael ei dalu i ddioddefwyr.
'System annynol a chreulon'
Mae'r system bresennol yn "annynol" ac yn "greulon", meddai Suzanne Gower, cyn-gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn camweinyddiadau cyfiawnder ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae hi'n credu fod y system yn cyfleu'r neges nad yw'r wladwriaeth yn derbyn cyfrifoldeb pan maen nhw'n achosi niwed.
Yn ôl arbenigwyr cyfreithiol eraill, mae'r cynlluniau iawndal a gafodd eu creu i gefnogi dioddefwyr sgandal y Swyddfa Bost yn brawf nad yw'r system bresennol yn gweithio, a'i fod yn annheg.
Er ei bod yn credu fod yr is-bostfeistri hynny yn "haeddu pob ceiniog o iawndal maen nhw'n ei gael wedi'r hyn maen nhw wedi ei ddioddef", mae'n awgrymu fod hynny ond wedi digwydd ar ôl llwyddiant y ddrama deledu wnaeth ysgogi gymaint o ymateb.
Mae Mr Vullo yn awgrymu nad yw'r system bresennol yn deg i achosion sydd ddim yn derbyn cymaint o gyhoeddusrwydd.

Mae teulu Brian yn dweud eu bod nhw hefyd wedi dioddef yn sgil yr hyn ddigwyddodd iddo
Wrth gyflwyno'r newid i'r gyfraith yn 2014, dywedodd y llywodraeth glymbleidiol rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y byddai'r drefn newydd ond yn rhwystro pobl rhag derbyn iawndal os gafodd eu cyhuddiadau eu diddymu ar bwynt technegol.
Ond mae Lewis Ross, sy'n arbenigo mewn athroniaeth wleidyddol, yn dweud nad yw'r system yn cefnogi pobl ddieuog sydd wedi eu carcharu ar gam.
"Yn sicr mae angen rhyw fath o drefn sylfaenol y mae angen ei dilyn cyn talu unrhyw iawndal, ond mae'n ddiddorol fod y llywodraeth wedi dewis system sy'n gofyn cymaint," meddai.
Mae 'na alwadau cynyddol ar i'r gyfraith gael ei newid fel mai'r unig beth y mae'n rhaid i berson ei brofi er mwyn cael iawndal yw eu bod wedi dioddef camweinyddiad cyfiawnder.
Dyna'r system sydd yn dal i gael ei defnyddio yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ym mwyafrif gwledydd Ewrop.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o ddiwygiadau posib i'r system apeliadau yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys iawndal i ddioddefwyr camweinyddiadau cyfiawnder.
Maen nhw hefyd yn cydnabod fod y ddeddfwriaeth bresennol yn rhy llym, ac wedi gwneud argymhelliad dros dro i gael system lle byddai angen i bobl brofi eu bod yn ddieuog, ond bod y trothwy o ran tystiolaeth ddisgwyliedig yn is.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydden nhw'n ystyried casgliadau'r comisiwn - sydd i fod i gael eu cyhoeddi yn 2026 - cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Mae disgwyl i Ben Lake AS drafod achos Mr Buckle yn San Steffan
Yn ôl Ben Lake, AS lleol Mr Buckle, roedd wedi ei ddychryn o glywed am yr achos, ac mae disgwyl iddo gynnal trafodaeth ar y mater yn San Steffan.
"Yn anffodus mae camweinyddiadau cyfiawnder yn digwydd. Maen nhw wastad wedi, ac maen nhw wastad am ddigwydd.
"Ond pan mae sefyllfa ble mae unigolyn wedi cael ei garcharu am ba bynnag reswm yn sgil tystiolaeth wallus neu gamfarnu, mae angen i ni sicrhau eu bod nhw'n cael iawndal am hynny," meddai Mr Lake.
Ychwanegodd y dylai unrhyw newid i'r gyfraith gael ei ôl-ddyddio fel bod teulu Mr Buckle yn gallu elwa o hynny.
'Cam ymlaen' i ddioddefwyr
Dywedodd Brian fod cefnogaeth Mr Lake yn "gam ymlaen", nid yn unig iddo ef, ond i ddioddefwyr eraill hefyd.
"Nid fi yw'r unig Brian Buckle, rwy'n bendant o hynny. Dwi methu aros mewn swydd am yn hir gan fod fy mhen i ym mhobman, a phob nos yr oll dwi'n breuddwydio amdano yw bod yn y carchar, neu geisio dianc o'r carchar."
Mae Brian wedi cael diagnosis o PTSD, ond mae'r blynyddoedd diwethaf hefyd wedi cael effaith fawr ar ei deulu.
Dywedodd ei ferch, Georgia ei bod hi wedi cael trafferthion gyda'i hiechyd meddwl tra bod ei thad yn y carchar.
Wedi wyth mlynedd hir, mae Mr Buckle yn credu bod angen newid system gyfiawnder "sydd wedi torri", gan ychwanegu ei fod am weld ymddiheuriad a chydnabyddiaeth o'r camgymeriadau gafodd eu gwneud.
"Fe af â'r hyn ddigwyddodd gyda mi i fy medd," meddai, "dyw arian ddim am newid y ffordd rydw i'n meddwl, ond egwyddor y peth sy'n bwysig, a'r ffaith bod angen i'r system gyfiawnder gyfaddef eu bod yn anghywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024