Dŵr Cymru: Cyflenwadau Sir Conwy wedi eu hadfer yn llawn
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru yn dweud bod cyflenwadau cwsmeriaid a gafodd eu heffeithio gan drafferthion gyda'r rhwydwaith yn Sir Conwy wedi eu hadfer.
Roedd miloedd o bobl heb ddŵr am ddyddiau ar ôl i bibell ddŵr fyrstio yn safle trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog brynhawn Mercher.
Cafodd y bibell ei hatgyweirio ddydd Gwener yn dilyn "gwaith anodd a pheryglus" ac mae'r cwmni wedi cadarnhau fore Llun bod y rhwydwaith bellach wedi cael ei ail-lenwi.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Hoffwn ymddiheuro unwaith eto am yr holl anghyfleustra a gafodd ei achosi i gwsmeriaid, a diolch yn fawr iawn iddyn nhw am weithio gyda ni."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Fe ddywedodd Dŵr Cymru wrth BBC Cymru mai creigiau'n pwyso yn erbyn y bibell oedd yn gyfrifol am y difrod.
Roedd y cwmni wedi cadarnhau bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau.
Cafodd y gwaith o drwsio'r bibell ei gwblhau amser cinio ddydd Gwener, ond roedd "angen ail-lenwi'r prif gyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr ehangach yn ofalus iawn" er mwyn osgoi problemau pellach, meddai'r cwmni.
Erbyn bore Sul roedd cyflenwadau 90% o'u cwsmeriaid yn yr ardal wedi eu hadfer.
Mae Dŵr Cymru wedi dweud y bydd cwsmeriaid yn cael ad-daliad o £30 am bob 12 awr heb gyflenwad, tra bydd busnesau yn derbyn £75 am bob 12 awr fel taliad sylfaenol.
Fe fydd proses hefyd lle bydd modd i fusnesau hawlio mwy o arian yn seiliedig ar enillion sydd wedi eu colli.
Ond mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates yn dweud bod angen i Dŵr Cymru ystyried a oes angen cynyddu'r iawndal "yn sylweddol" i deuluoedd a busnesau a gafodd eu heffeithio.
"Mae trigolion, cwsmeriaid domestig a busnesau wedi dioddef poen meddwl ofnadwy yn ystod y cyfnod yma, ac mae nifer o fusnesau hefyd wedi colli symiau enfawr o arian," meddai.
'Ymddiheuro unwaith eto'
Mewn datganiad fore Llun, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Gallwn gadarnhau fod ein rhwydwaith wedi ei ail-lenwi ac mae cyflenwadau wedi cael eu hadfer.
"Mae cyflenwadau pob ysgol oedd wedi eu heffeithio bellach yn ôl hefyd, ond fe fydd cyflenwadau wrth gefn yn parhau ar gael ddydd Llun.
"Rydyn ni eisoes wedi cadarnhau'r trefniadau o ran iawndal i gwsmeriaid a busnesau.
"Hoffwn ymddiheuro unwaith eto am yr holl anghyfleustra gafodd ei achosi i gwsmeriaid, a diolch yn fawr iawn iddyn nhw am weithio gyda ni."