Super Furry Animals i berfformio ym Mhafiliwn Llangollen

Pum aelod Super Furry Animals yn sefyll mewn rhes mewn gardd gyda rhesi o flodau lliwgar yn tyfu o'u hamgylchFfynhonnell y llun, Ryan Eddleston
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Super Furry Animals wedi dilyn sawl trywydd unigryw, yn gerddorol ac yn weledol, ers ffurfio yn 1995

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr cyfres flynyddol o gyngherddau ym Mhafiliwn Llangollen wedi cadarnhau y bydd y Super Furry Animals yn perfformio yno y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd y grŵp poblogaidd yn ddiweddar eu bod yn ailffurfio i berfformio'n fyw am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd fis Mai nesaf.

Fe werthodd pob tocyn yn gyflym iawn ar gyfer cyngherddau'r daith Supacabra yn y DU ac Iwerddon, gan gynnwys dau yng Nghymru - yng Nghaerdydd a Llandudno.

Mae yna gyfle arall nawr i'w gweld yn Llangollen nos Iau 2 Gorffennaf, gyda'r tocynnau cyntaf ar werth ddydd Mercher i Ffrindiau Eisteddfod Gerddorol Rynglwadol Llangollen ac yna yn gyffredinol ddydd Gwener.

Dau grŵp arall o Gaerdydd fydd yn eu cefnogi yn Llangollen, sef Panic Shack a Melin Melyn.

Melin Melyn sydd hefyd yn eu cefnogi pan fydd y daith yn cyrraedd Arena Utilita, Caerdydd ar 16 Mai.

"Gynted a glywsom bod y Super Furry Animals ar daith eto haf nesaf roedden ni'n benderfynol bod eu cynlluniau'n cynnwys sioe ym Mhafiliwn Llangollen," dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Llangollen, Dave Danford.

"Prin iawn yw bandiau Cymreig sydd yr un mor eiconig, ac rydym mor falch o allu cynnig cyfle i ddilynwyr a fethodd â chael tocyn i'w sioeau yng Nghaerdydd a Llandudno.

"Mae gyda ni hefyd ddau grŵp Cymreig gwych ar y noson, felly bydd hwn wir yn ddathliad o gerddoriaeth indie gorau Cymru!"

Syr Tom Jones yn canu ym Mhafiliwn Llangollen yn 2024Ffynhonnell y llun, Desk Kapur (Cuffe & Taylor)
Disgrifiad o’r llun,

Fe berfformiodd Syr Tom Jones ar noson agoriadol Eisteddfod Llangollen yn 2024

Y Super Furry Animals yw'r artistiaid blaenllaw diweddaraf o Gymru i gytuno i berfformio ym Mhafiliwn Llangollen.

Mae Syr Bryn Terfel, Syr Tom Jones a'r Manic Street Preachers hefyd wedi perfformio yn y blynyddoedd diwethaf ers dechrau partneriaeth gyda chwmni allanol i drefnu digwyddiadau byw y tu hwnt i rai wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Mae Rick Astley, Tom Grennan, Billy Ocean a David Gray ymhlith yr arlwy yn Llangollen haf nesaf ac fe fydd yna gyngherddau gan Michael Ball ac Emeli Sandé yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Straeon perthnasol