Heriau mawr i bobl ifanc sydd am ffermio - enillydd cyfres deledu

Mae Sara Jenkins a'i phartner Ioan Jones wedi ennill help llaw i wireddu eu breuddwyd o fod yn ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a enillodd y cyfle i rentu fferm am 15 mlynedd ar gyfres deledu wedi galw am fwy o gefnogaeth i helpu ffermwyr ifanc lwyddo.
Sara Jenkins, 28, enillodd gyfres ddiweddaraf 'Our Dream Farm' ar Channel 4, a dywedodd nad oedd digon o gyfleoedd i bobl ei hoed hi ac iau gael mynediad at dir.
Daw hyn wrth i adroddiad newydd gan arweinwyr y diwydiant rybuddio bod yr "heriau sylweddol" sy'n wynebu ffermwyr ifanc, a'r ffigyrau sy'n amlygu gymaint mae'r gweithlu yn heneiddio, yn "bryderus".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi nifer o raglenni i helpu pobl ifanc "i ddod ag egni a syniadau newydd" i amaethyddiaeth.
Mae heriau mawr yn wynebu pobl ifanc sydd eisiau ffermio, yn ôl Sara Jenkins
Daeth Sara a'i phartner Ioan Jones yn denantiaid fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl y profiad "unigryw" o fod ar y teledu y llynedd.
Mae Llyndy Isaf yn fferm fynydd o 248 hectar (613 erw) yng nghalon parc cenedlaethol Eryri, ac mae'r cwpl ifanc eisoes wedi "mynd amdani" ar y fferm yn dilyn blynyddoedd o drio sicrhau tir i'w ffermio.
"Ry'n ni'n ffodus iawn," meddai Sara, "dyw'r cyfleon yma ddim yn dod lan yn aml.
Dywedodd bod tenantiaeth 15 mlynedd o hyd ar y fferm yn rhoi "chance go lew i ni allu gwneud rhwbeth â'r lle".
"'O'n i wastad wedi gobeithio cael lle fy hunan rhyw ddiwrnod ond does dim lot o obaith prynu ffarm dyddie ma - mae prisiau tir mor uchel," meddai.
"'Da ni'n cystadlu â cwmnïau mawr sy'n prynu tir i blannu coed i offsetio carbon - mae hynny wedi neud hi'n anoddach fyth i rywun brynu tir."

Matt Baker (yn y blaen) gyflwynodd Our Dream Farm, welodd ffermwyr ifanc yn cystadlu am gyfle i redeg fferm 600 erw
Roedd yn amser "ansefydlog" i ddechrau busnes ffermio o ystyried y newid mawr i gymhorthdaliadau a pholisi amaeth, a neges Sara i lywodraethau Cymru a'r DU ydy i "feddwl am ffermwyr ifanc" ac i gynnig "sicrwydd".
"Ni'n meddwl bod e'n neud tipyn o ddrwg os ma' person ifanc yn ystyried mynd mewn i amaethu a ma' nhw'n gweld yr holl benawdau 'ma a'r holl brotestio 'ma."
"Dwi'n siwr bod e'n ddigon i roi rhywun off o fynd i ffermio gan bod e'n risg mynd mewn i ffermio really."
"Ar ddiwedd y dydd ma'r wlad angen bwyd - a falle bod e'n mynd i gymryd pobl i ddiodde' a costau byw i godi eto, ond fe na' nhw sylweddoli yn y diwedd faint mor bwysig yw'r ffarmwr a dwi'n reit siwr y daw pethe rownd."

Roedd cefnogaeth ffermwyr hŷn yn hollbwysig i Teleri Fielden pan roedd hi'n dechrau ar ei gyrfa
Mewn adroddiad newydd a gafodd ei gyhoeddi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnig 40 o argymhellion am sut i ddenu mwy o bobl ifanc i'r diwydiant.
Pwysleisiodd yr undeb y "pwysigrwydd allweddol o ddenu a chadw talent ifanc", i ddiogelu cyflenwadau bwyd tra'n delio â heriau amgylcheddol a chynnal cymunedau gwledig."
Yn ôl awdur yr adroddiad, Teleri Fielden, sy'n swyddog polisi i'r undeb, mae'r gweithlu amaethyddol yn heneiddio gyda chyfartaledd oedran ffermwyr sydd â'r prif gyfrifoldeb ar fferm yn 61, a dim ond 3% dan 35 oed.
"Mae 'na genhedlaeth sy' 'di cael ei ddeud, 'peidiwch a mynd mewn i ffarmio, mae just yn rhy anodd' so mae dipyn hawsawch 'wan bod yn cynghorwr neu advisio pobl ar ffarmio na mae o i ffarmio ei hun", meddai.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae prisiau tir uchel a rhwystrau ar fynediad i gefnogaeth ariannol yn cael eu nodi fel "heriau allweddol", ynghyd â thenantiaethau cyfyngedig ac ansicr.
Mae nifer o ffermydd cynghorau sir wedi eu gwerthu hefyd, gydag arwynebedd tir cyngor yng Nghymru yn gostwng 25% (13,000 hectar) yn y degawd ddiwethaf.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod "diffyg sylweddol o gynllunio olyniaeth a/neu barodrwydd o fewn y diwydiant cyfan", gyda 21% o ffermwyr a holwyd mewn arolwg diweddar yn datgelu nad oedd unrhyw fwriad i ymddeol.
Mae'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cynnwys sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn gweithio i ffermwyr ifanc, gyda fwy o gefnogaeth ar gyfer colegau amaethyddol hefyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn annog ffermwyr sydd â thir ac eiddo i gynnig tenantiaethau a trefniadau clir, cyson, fwy hirdymor.
"Rhowch y cyfleoedd hynny i'r genhedlaeth nesaf," erfynnodd Ms Fielden.
Roedd pethau syml y gallai ffermwyr eraill eu gwneud fel "just bod yn fentor i rhywun, achos mae gymaint ohonon ni sy'n ffermio wedi elwa o mentor, boed hynny'n un swyddogol, neu'n answyddogol".

Mae Sion Roberts yn "joio mas draw" yn mart Llanymddyfri gan fod "ffermwyr yr ardal wledig yn wych"
Dweud bod angen newid sut mae pobl yn meddwl am yrfa mewn ffermio, mae Sara Roberts, 28, sy'n ddarlithwraig amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr.
"Dim just pobl i odro gwartheg sy isie arnon ni neu dreifo tractors - mae'r diwydiant yn newid - mae isie pobl nawr i dreifio drones a pethe felly - ma' lle i bawb o fewn y diwydiant ond ffeindio eu lle nhw sy'n anodd", meddai.
Mae Sion Roberts, sy'n 23 o Lanymddyfri, wrthi'n hyfforddi i fod yn arwerthwr da byw a syrfëwr siartredig.
"Mae angen y cenedlaethau nesaf i ddilyn 'mlaen yn y diwydiant ffermio achos mae'n ddiwydiant gwych - mae'n braf gweld ar y funud prisiau stoc ar eu gorau - felly pam na?"
Ond mae'n cytuno falle bod y blynyddoedd diwethaf o benawdau negyddol a ffermwyr yn protestio wedi bod yn ergyd o ran denu pobl newydd.
"Dyw e byth yn dda gweld unrhyw ddiwydiant mewn trafferth - boed hynny'n y diwydiant amaeth neu'r diwydiant dur."

Yn ôl Sarah Roberts, mae pobl sydd ddim yn dod o deuluoedd ffermio "yn cael amser anodd i ffeindio lle nhw"
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i gefnogi pobl ifanc a'r rhai sy'n newydd i'r diwydiant amaethyddol trwy raglenni fel Dechrau Ffermio.
"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch i bob ffermwr gan gynnwys y rheiny sy'n newydd i'r diwydiant a ffermwyr tenant," ychwanegodd llefarydd.
"Rydym am sicrhau y gall pobl newydd ac ifanc ddod i mewn i'r diwydiant a dod â bywiogrwydd a syniadau newydd."