Trafferthion dŵr Sir Conwy: 'Gallai pobl fod wedi marw'

Safle trin dŵr Bryn Cowlyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorydd sir wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cael eu beirniadu'n hallt gan gynghorydd sir sy'n dweud "y gallai pobl fod wedi marw" ar ôl i filoedd gael eu gadael heb ddŵr yng Nghonwy.

Roedd degau o filoedd o bobl ar draws y sir heb ddŵr am ddyddiau wedi i bibell ddŵr fyrstio yn safle trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog dydd Mercher, 15 Ionawr.

Dywedodd Dŵr Cymru ddydd Llun bod cyflenwadau cwsmeriaid a gafodd eu heffeithio wedi eu hadfer yn llawn.

Fe wnaeth cadeirydd pwyllgor cyllid Conwy feirniadu Dŵr Cymru yn ystod cyfarfod ym Mhencadlys Bodlondeb y cyngor ddydd Llun.

Mae Dŵr Cymru wedi "ymddiheuro'n llwyr" am y drafferth a achoswyd i'w cwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi anfon 20,000 o barseli'n cynnwys poteli dŵr i'r cwsmeriaid bregus a oedd wedi'u blaenoriaethu.

Fe wnaeth cynghorydd Hen Golwyn, Cheryl Carlisle, alw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad.

Honnodd y cynghorydd fod pobl fregus wedi bod heb ddŵr a bod swyddogion mewn gorsafoedd dŵr wedi troi pobl â phlant bach i ffwrdd.

Fe wnaeth y Cynghorydd Carlisle ddiolch i weithwyr y cyngor a gwirfoddolwyr, cyn dweud: "Ar nodyn gwahanol, bydd angen ymchwiliad i ymateb argyfwng Dŵr Cymru.

"Allwch chi ddim beio'r peirianwyr, ond yr oedi mewn trefniadaeth sylfaenol, fel sefydlu'r gorsafoedd dŵr.

"Roedd yn 48 awr yn fy nghymuned i. Heb y gwirfoddolwyr, byddai wedi bod yn ddifrifol iawn, iawn i'r rhai â chyflyrau iechyd."

Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaeth tân yn dosbarthu poteli dŵr Maes Parcio West Shore Llandudno

Ychwanegodd: "Ni wnaeth rhestrau blaenoriaeth Dŵr Cymru weithio.

"Roedd yna bobl arno [y rhestr] oedd dal heb gael dŵr neithiwr [dydd Sul], cleifion canser, cleifion dialysis. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.

"Fe wnaeth swyddogion diogelwch wrthod aelodau [o'r cyhoedd] oedd â phlant bach. Roedd hynny'n gwbl annerbyniol hefyd.

"Dwi'n credu bod hyn wedi dod â'r gorau allan o'r rhan fwyaf o bobl, ond y gwaethaf mewn rhai eraill. Mae angen cynllun argyfwng clir yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd canolfan dosbarthu dŵr ei sefydlu ar gyfer pobl fregus ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn a mannau eraill

Mynnodd y Cynghorydd Carlisle fod angen ymchwiliad ar ôl i'r cynghorydd Goronwy Edwards awgrymu adolygiad.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod angen iddo fod yn rhywbeth mwy nag adolygiad, o ystyried y difrifoldeb.

"Gallai pobl fod wedi marw, y rhai â [chyflyrau iechyd difrifol].

"Dydw i ddim yn meddwl y dylen ni israddio unrhyw beth nes bod pawb wedi dod trwy hyn yn gyfan."

'Angen gofyn cwestiynau'

Diolchodd arweinydd Cyngor Conwy, y cynghorydd Charlie McCoubrey hefyd i'r cynghorwyr ac aelodau'r cyhoedd "a oedd wedi mynd gam ymhellach i ofalu am eu cymunedau".

Ychwanegodd fod yr awdurdod bellach mewn cyfnod adfer, gyda rhai cartrefi yn dal heb ddŵr a rhai ysgolion wedi'u heffeithio.

"Yn amlwg, gydag unrhyw ddigwyddiad mawr, mae angen gofyn cwestiynau a ellid bod wedi atal hyn, a oedd yr ymateb yn ddigonol, a beth sy'n digwydd yn y dyfodol o ran sut rydyn ni'n cydlynu pethau ac yn atal pethau fel hyn rhag digwydd eto?"

Dywedodd y Cynghorydd McCoubrey ei fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael atebion gan Dŵr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Paul Hyde Cymru Drones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bibell ei thrwsio ddydd Gwener ac roedd cyflenwadau wedi eu hadfer yn llawn erbyn dydd Llun

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn ymddiheuro'n llwyr i'n cwsmeriaid yn Nyffryn Conwy ac yn deall yr anghyfleustra a achoswyd.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am weithio gyda ni yn ystod y digwyddiad.

"Roedd diogelwch ein cwsmeriaid yn flaenoriaeth yn ystod y digwyddiad a chafodd 20,000 o barseli'n cynnwys poteli dŵr eu hanfon i gwsmeriaid oedd wedi'u blaenoriaethu.

"Fe wnaethom sefydlu pedair gorsaf poteli dŵr a darparu paledi o ddŵr mewn nifer o leoliadau ar draws y sir.

"Gweithiodd ein criwiau yn galed i gadw ysbytai a chartrefi gofal ar gyflenwad trwy ein fflyd o danceri a danfoniad poteli dŵr."

Pynciau cysylltiedig