Prifysgol Wrecsam i gynnig cwrs newydd yn sgil yr Eisteddfod

Prifysgol Wrecsam.
Disgrifiad o’r llun,

Academyddion y brifysgol fydd yn arwain y cwrs, 'Croesawu'r Eisteddfod'

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cwrs newydd, sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg, gyda ffocws ar yr Eisteddfod.

Fe fydd y cwrs yn cael ei gynnig cyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni - sy'n cael ei chynnal yn ninas Wrecsam.

Academyddion y brifysgol fydd yn arwain y cwrs, 'Croesawu'r Eisteddfod', a byddent yn edrych ar bwysigrwydd gwyliau diwylliannol o'r fath.

Mae'r modiwl 10 wythnos yn agored i aelodau'r cyhoedd, ac mae disgwyl iddo gychwyn ar ddydd Llun, Mawrth 3.

Arwydd 'welwn ni chi yn Wrecsam'.
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â Wrecsam oedd yn 2011

Un o'r academyddion fydd yn arwain y prosiect ydy Catrin Darlington, Darlithydd Addysg.

Dywedodd ei bod hi'n edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith.

"Rydym yn hynod gyffrous i rannu ein bod yn cynnal cwrs byr o'r enw Croesawu'r Eisteddfod.

"Bydd cyfle i ddysgu am yr Eisteddfod o safbwyntiau diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol.

"Bydd y cwrs hwyliog, rhyngweithiol ac addysgiadol hwn, hefyd yn darparu cyfleoedd i aelodau ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig, tra'n gwella eu profiad a'u hymgysylltiad wrth baratoi am ymweliad yr Eisteddfod."

'Ffordd wych o gyfri i lawr'

Aeth Catrin Darlington ymlaen i sôn am eu balchder yn y brifysgol o'r hyn sydd ganddynt:

"Fel prifysgol Gymreig, rydym yn hynod falch o'n diwylliant a'n treftadaeth gyfoethog a bywiog – ac rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd gwaddol a sgil effaith gadarnhaol ymweliad yr Eisteddfod ar ein cymuned leol.

"Mae'r cwrs yn ffordd wych o gyfri i lawr i'r digwyddiad."

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Isycoed, ar gyrion canol dinas Wrecsam, rhwng 2 a 9 Awst.

'Gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop'

Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam – a Dirprwy Gadeirydd (Diwylliant) Eisteddfod 2025, bod 'na fwrlwm yn y ddinas:

"Mae'r ddinas eisoes yn fwrlwm o weithgarwch wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Fel prifysgol, rhaid i ni chwarae rhan annatod yn y paratoadau hyn – ac fel prifysgol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, rydym yn deall bod llawer o bobl yn lleol, yn ogystal â myfyrwyr a staff y Brifysgol yn awyddus i wybod mwy am yr Eisteddfod.

Ychwanegodd Elen y bydd y cwrs yn ymgais i addysgu pobl am yr effaith gall yr Eisteddfod ei chael ar gymuned.

"Bydd y modiwl hwn yn ymdrechu i addysgu'r dysgwyr am ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop a'r effaith y gall ei chael ar y gymuned ehangach.

"Mae'r modiwl yn agored i bawb – aelodau'r gymuned neu rheiny sy'n gweithio neu'n astudio yma yn y Brifysgol."