Cael gwared â'r Senedd 'ddim yn bolisi' gan Reform

Mae Nigel Farage wedi mynegi cefnogaeth yn y gorffennol dros fodolaeth sefydliadau datganoledig fel y Senedd a Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Reform UK wedi cadarnhau nad ydy diddymu'r Senedd yn bolisi gan y blaid.
Mae arweinydd y blaid, Nigel Farage, wedi mynegi cefnogaeth yn y gorffennol dros fodolaeth sefydliadau datganoledig fel y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Ond yn siarad yng nghynhadledd y blaid yn Birmingham ddydd Gwener fe gwestiynodd Laura Anne Jones a ddylai Senedd Cymru barhau os na allai Reform "ei gwneud i weithio".
Mewn datganiad dydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK nad ydy diddymu'r Senedd yn bolisi gan y blaid ac mai blaenoriaeth Reform ydy trwsio pethau yng Nghymru drwy ffurfio llywodraeth.
"Dyw e ddim yn bolisi gan y blaid i ddiddymu'r Senedd. Ni fydd yn ein maniffesto'r flwyddyn nesaf. Ond nid ydym am gau'r drafodaeth i lawr," meddai.
Ychwanegodd na fyddai'r blaid yn diystyru unrhyw beth allai sicrhau gwell werth am arian i'r trethdalwr yn y dyfodol.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.