AS Reform yn gwadu ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau

Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones yn gwadu ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau

  • Cyhoeddwyd

Mae unig wleidydd Reform UK yn y Senedd, sydd wedi bod dan ymchwiliad gan gomisiynydd safonau'r sefydliad, wedi gwadu ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau, mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

Roedd negeseuon o ffôn Laura Anne Jones, a gyhoeddwyd gan BBC Cymru y llynedd, yn ymddangos fel pe bai'n gofyn i aelod staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwna fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanega stwff i mewn plîs ok."

Doedd cyd-destun y negeseuon ddim yn glir.

Yn siarad gyda BBC Cymru yng nghynhadledd Reform UK yn Birmingham, fe wnaeth Ms Jones wrthod egluro be roedd hi'n ei feddwl, ond dywedodd y byddai'r cyd-destun yn adroddiad y comisiynydd safonau.

Fe wnaeth yr heddlu ollwng eu hymchwiliad nhw i Ms Jones ar ddiwedd 2024, wedi iddyn nhw ganfod "dim tystiolaeth o dwyll".

Roedd Ms Jones yn aelod Ceidwadol o'r Senedd ar y pryd, cyn iddi adael y blaid i ymuno â Reform fis Gorffennaf eleni.

Y gred yw bod comisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain wedi cwblhau ei ymchwiliad i Ms Jones, ond nid yw wedi cael ei gyhoeddi eto.

Y disgwyl yw y bydd yn cael ei ystyried gan bwyllgor safonau'r Senedd wedi gwyliau'r haf.

Pan wnaeth Ms Jones ymuno â Reform dywedodd ei bod wedi gweld yr adroddiad a'i bod yn hapus gyda'r canlyniad.

Roedd negeseuon o ffôn Laura Anne Jones, a gyhoeddwyd gan BBC Cymru y llynedd, yn ymddangos fel pe bai'n gofyn i aelod staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwna fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanega stwff i mewn plîs ok."
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r negeseuon Whatsapp Saesneg a ddaeth i'r amlwg rhwng Laura Anne Jones ac aelod staff

Y llynedd fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu'r negeseuon am dreuliau a gafodd eu gyrru o ffôn Ms Jones at aelod o'i staff.

Roedd un yn dweud: "Wrth wneud y peth petrol - gwna fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanega stwff i mewn plîs ok."

Pan mae'r aelod staff yn gofyn "fel ymweliadau â swyddfa etholaeth?", mae ymateb yn dweud "Ie - pethau fel yna".

Laura Anne Jones gyda Nigel Farage yn y Sioe Frenhinol eleniFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Laura Anne Jones gyda Nigel Farage yn y Sioe Frenhinol eleni

Yn ei chyfweliad llawn cyntaf gyda BBC Cymru ers i'r negeseuon ddod i'r amlwg, gofynnwyd i Ms Jones beth oedd hi'n ei olygu yn y neges.

"Rydw i wedi cael fy nghlirio gan yr heddlu achos 'nes i fyth ddim o'i le," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi bod yn mynd trwy "uffern" a'i bod yn "edrych ymlaen i adroddiad y comisiynydd safonau ddod mas, fel y gallwn ni ddod â'r mater i ben".

Pan ofynnwyd iddi eto beth roedd hi'n ei olygu, dywedodd: "Mae'n hawdd iawn, pe bawn i'n cymryd eich ffôn chi nawr er mwyn darllen rhywbeth heb unrhyw gyd-destun na dim byd arall, yn dyw hi?"

Gofynwyd iddi beth oedd y cyd-destun. Dywedodd: "Mae adroddiad yn dod mas yn fuan, yn does?"

Dywedodd y byddai hi'n "credu" fod hynny yn yr adroddiad.

Pan awgrymwyd iddi fod y neges yn ymddangos fel pe bai'n ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau, ychwanegodd: "Dydw i ddim, a dydw i erioed wedi."

"Alla i eich sicrhau chi 100% mai hynny fydd yn dod i'r amlwg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig