Caerdydd: Dyn yn gwadu llofruddiaeth Noswyl Nadolig

William BushFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu William Bush wedi'i ddisgrifio fel dyn "ffyddlon, gofalgar a doniol"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi gwadu llofruddio dyn 23 oed ar Noswyl Nadolig y llynedd yng Nghaerdydd.

Cafodd William Bush ei ddarganfod wedi'i anafu'n ddifrifol mewn eiddo yn ardal Llandaf yn y brifddinas ar 24 Rhagfyr 2023, a bu farw'n ddiweddarach.

Fe ymddangosodd Dylan Thomas, 24, trwy gyswllt fideo ar gyfer y gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 12 Tachwedd.

Wrth siarad yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Bush eu bod "wedi'n llethu fel teulu" yn dilyn colled dyn "ffyddlon, gofalgar a doniol".

Pynciau cysylltiedig