S4C yn penodi Pennaeth Ffrydio a Digidol newydd

Bydd Tecwyn Davies yn dechrau yn ei rôl fis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi bod Tecwyn Davies wedi'i benodi i swydd newydd Pennaeth Ffrydio a Digidol gyda'r darlledwr.
Bydd Mr Davies yn arwain ar y gwaith i roi mwy o bwyslais ar gynnwys digidol o dan strategaeth digidol-yn-gyntaf y gwasanaeth - 'Mwy na Sianel Deledu'.
Dywedodd prif weithredwr S4C, Geraint Evans, fod y penodiad yn dod "ar adeg mor allweddol yn esblygiad S4C wrth i ni roi ffocws cynyddol ar ffrydio a phlatfformau digidol".
Cafodd y swydd ei hysbysebu fis Mehefin gyda chyflog o £80,000, a bydd Mr Davies yn dechrau yn y rôl fis Rhagfyr.
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Nod gwaith Mr Davies fydd "ymestyn tu hwnt i ddarlledu traddodiadol, yn ehangu presenoldeb digidol S4C a chofleidio'r cyfleoedd i wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol ar draws amryw o blatfformau", meddai S4C mewn datganiad.
Dywedodd y darlledwr bod gan Mr Davies brofiad helaeth yn y maes digidol, a llwyddiant wrth adeiladu cynulleidfaoedd ac ymgysylltiad i rai o frandiau chwaraeon, cyfryngau ac adloniant amlyca'r byd.
Yn y gorffennol mae wedi gweithio gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad, FIFA, Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Rygbi'r Byd.

Dywedodd Mr Davies: "Mae'n fraint ymuno â S4C ar adeg mor gyffrous, gyda Strategaeth 2030 yn gosod gweledigaeth hyderus ar gyfer y dyfodol.
"Rwy'n angerddol am adeiladu cynulleidfaoedd digidol a sicrhau bod S4C yn cysylltu â mwy o bobl nag erioed o'r blaen, gan ddathlu Cymru a'r Gymraeg ar bob llwyfan."
Ychwanegodd Geraint Evans: "Mae'r strategaeth 'Mwy na Sianel Deledu' yn galw am feddwl beiddgar a dull digidol blaengar, ac mae Tecwyn yn dod â'r weledigaeth a'r profiad i'n helpu i gyflawni hynny."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.