Mae'n fwy a mwy anodd creu rhaglenni o safon uchel i S4C - cadeirydd newydd

Mae Delyth Evans wedi olynu'r cadeirydd dros dro Guto Bebb a'r cadeirydd parhaol diwethaf, Rhodri Williams
- Cyhoeddwyd
Mae'n "fwy a mwy anodd" i gwmnïau cynhyrchu teledu ddarparu "rhaglenni o safon uchel o fewn cyllidebau tynn", yn ôl cadeirydd newydd S4C.
Dywedodd Delyth Evans hefyd bod rhwystredigaeth ymhlith cwmnïau annibynnol "pan maen nhw'n cynhyrchu cynnwys gwych ac efallai nad yw'n denu'r cynulleidfaoedd maen nhw eisiau".
Ond pwysleisiodd bod "safon yr arlwy yn arbennig o uchel o fewn y cyfyngiadau" cyllidebol.
Roedd Ms Evans yn ymddangos o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru ddydd Mercher.
Dechreuodd yn ei rôl ddechrau Mai, gan olynu Guto Bebb fu'n gadeirydd dros dro.

Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Syr Bryn Terfel ar set Y Llais, a fu'n "llwyddiannus iawn" meddai Delyth Evans
Mae S4C yn derbyn tua £97m y flwyddyn, yn bennaf o ffi'r drwydded, i ddarparu'r gwasanaeth.
Dywedodd Delyth Evans wrth y pwyllgor: "Dwi'n meddwl gyda'r gwariant yma mae S4C yn gwneud job dda iawn o ddarparu arlwy o safon uchel iawn i'n cynulleidfaoedd ni.
"Mae pwysau ar y sector cynhyrchu, wrth gwrs, achos chwyddiant ac mae costau cynhyrchu yn mynd lan.
"Mae'n fwy a mwy anodd i gwmnïau ddarparu rhaglenni o safon uchel o fewn cyllidebau tynn, ond maen nhw yn llwyddo i wneud hynny a dwi'n teimlo bod safon yr arlwy yn arbennig o uchel o fewn y cyfyngiadau hynny."
Dywedodd mai'r ddau beth pwysicaf i S4C yw "cadw lefel y taliad y'n ni'n cael, a sicrwydd ar gyfer y dyfodol".
Wrth gyfeirio at y gyllideb £97m, dywedodd ei fod yn bwysig "ein bod ni'n gallu cynnal yr arian ry'n ni'n cael, bod e ddim yn gostwng mewn unrhyw ffordd".
"Os oes unrhyw newid yn y ffordd mae S4C yn cael ei ariannu, y peth pwysig i S4C yw bod yr arian yna yn dal i fod a bod dim unrhyw fath o fygythiad i hynny, a bod ni hefyd yn cael sicrwydd am flynyddoedd ar gyfer y gyllideb," meddai.
Dywedodd ei bod yn "cymryd blynyddoedd i gynllunio ymlaen llaw, yn arbennig pethau fel dramâu, sy'n un o'n llwyddiannau mawr ni ar S4C".
'Angen mwy nag amddiffyniad i'r gyllideb'
Dywedodd Llyr Morus, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), eu bod yn "croesawu bod y cadeirydd yn cydnabod safon uchel y rhaglenni gan gynhyrchwyr Cymru".
Ond dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae angen i S4C ehangu er mwyn gwneud y mwyaf o'i phresenoldeb ar draws y platfformau, yn ogystal â chynnal a thyfu ei chomisiynu o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
"Felly, hoffem weld nid yn unig amddiffyniad hirdymor i'w chyllideb ond cynnydd, er mwyn gwneud ymrwymiad S4C i'r diwydiannau creadigol ac i'r iaith Gymraeg mor gryf â phosibl."

Mae Bariau, sy'n dilyn hanes Barry Hardy (Gwion Tegid), yn "afaelgar ac yn apelio at bobl ifanc" meddai'r cadeirydd newydd
Pan holwyd Ms Evans am ffigyrau gwylio, dywedodd: "Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni gadw llygad barcud arno, oherwydd holl bwynt S4C yw darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr a phlant".
"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl eisiau gwylio'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
"Mae'n rhwystredigaeth, dwi'n meddwl, i'r cwmnïau cynhyrchu pan maen nhw'n cynhyrchu cynnwys gwych ac efallai nad yw'n cael y cynulleidfaoedd maen nhw eisiau."
Ychwanegodd bod "pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn poeni" am ffigyrau gwylio.
"Mae S4C wedi cynnal ei chynulleidfaoedd yn dda iawn yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf," meddai.
"Ni chafwyd y gostyngiad y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill wedi'i weld, ac ry'n ni wedi bod yn adeiladu cynulleidfaoedd mewn rhai categorïau pwysig iawn, fel pobl ifanc."
Cyfeiriodd at raglen Y Llais, a enillwyd gan Rose Datta o Gaerdydd eleni, rhaglen, meddai, a fu'n "llwyddiannus iawn ac mae tua hanner y gynulleidfa wedi bod o dan 45 oed".
Dywedodd bod y ddrama Bariau am fywyd mewn carchar wedi "denu gwylwyr mewn cartrefi di-Gymraeg yn ogystal â chartrefi Cymraeg - mae e'n destun eithaf gafaelgar ac yn apelio at bobl ifanc hefyd".

"Mae angen i S4C ehangu er mwyn gwneud y mwyaf o'i phresenoldeb ar draws y platfformau" meddai Llyr Morus
Rhybuddiodd Delyth Evans hefyd bod S4C yn wynebu "her fawr" wrth i batrymau gwylio newid.
"Un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn dda iawn dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, hyd yn oed yn gynt na hynny, yw rheoli'r newid mewn gwylio i ffwrdd o deledu daearol i wylio ar-lein, sy'n creu heriau mawr i S4C oherwydd bod llawer o'n gwylio yn dal i fod trwy sianeli daearol ac ni fydd hynny ar gael i ni yn y dyfodol.
"Felly mae helpu cynulleidfaoedd i drawsnewid o deledu daearol i wylio ar-lein yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni gymryd rhan weithredol iawn yn ei gyflawni, gan gario ein cynulleidfaoedd gyda ni."
O ran y "problemau difrifol iawn yn 2023" gyda diwylliant mewnol yn y sianel, dywedodd bod "cynnydd da iawn wedi'i wneud, a fy swydd i yw cario hynny ymlaen a darparu sefydlogrwydd".
Ddechrau 2024 cyhoeddodd Rhodri Williams na fyddai'n parhau yn rôl y cadeirydd yn dilyn cyfnod cythryblus i'r darlledwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024