'Bron yn amhosib' canfod digwyddiadau anghenion ychwanegol yn y gwyliau

Lluniau o blant yn chwarae gyda parachute
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam o'r Bala oedd wedi cael trafferth dod o hyd i safle gwersylla addas i'w mab awtistig eisiau cynnig "rhyddhad i deuluoedd"

  • Cyhoeddwyd

Mae "bron yn amhosib" dod o hyd i weithgareddau a digwyddiadau i blant niwroamrywiol yn ystod gwyliau ysgol, yn ôl teuluoedd sy'n galw am fwy o gefnogaeth.

Dywedodd un fam o Bwllheli bod "dim byd ar gael" i blant ag anghenion ychwanegol, fel ei mab, sy'n gallu gwneud gwyliau'n "heriol".

Daw wrth i fam arall o'r Bala gynllunio maes gwersylla sy'n addas i'w mab awtistig, ar ôl methu â chanfod lleoliad addas.

Mae academydd yn y maes wedi dweud ei fod yn faes sy'n aml yn cael ei anwybyddu, tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud bod twristiaeth gynhwysol yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn groesawgar i bawb.

Noa ger arwyddFfynhonnell y llun, Sophie Underwood Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noa yn mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored, meddai ei fam

Mae Sophie Underwood Jones o Bwllheli'n dweud bod sesiynau penodol ar gyfer plant fel ei mab wyth oed sydd ag awtistiaeth, Noa.

"Yn gyffredinol pan 'da chi'n gweld y pethe ar y we sy'n cael eu hysbysebu fel campau pêl-droed a diwrnodau ar gael i blant, does dim byd ar gael i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol", meddai.

Dywedodd bod cael sesiynau penodol sy'n galluogi plant i ymlacio heb feirniadaeth yn hanfodol.

"Dyna ydy'r peth pwysicaf," meddai, "Pan 'da chi'n mynd i weithgareddau ar gyfer plant 'arferol' da chi'n cael llygada', 'da chi'n cael pobl yn edrych arnoch chi.

"Dwi 'di cael pobl yn dweud pethau o dan eu gwynt cyn heddiw pan ma' nhw'n gweld Noa wrthi yn chwifio'i freichiau.

"Mae o'n bechod, mae angen bendant codi ymwybyddiaeth ar y cyfan efo bob dim."

Bachgen gyda gwallt melyn a sbectol yn y mor Ffynhonnell y llun, Sophie Underwood Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mam Noa yn rhedeg cyfrif Instagram sy'n ffordd o ddangos lle mae Noa wedi mwynhau bod

Mae mynd i ffwrdd ar wyliau yn gallu creu anawsterau pellach wrth geisio dod o hyd i weithgareddau.

Dywedodd Ms Underwood Jones: "Pan rydyn ni wedi bod yn mynd 'da ni wedi bod yn lwcus iawn os oes na parc ar y safle lle 'da ni'n mynd i aros, ac os oes 'na mae'n dipyn bach o ryddhad i ni fel teulu bo' ni'n gwbod bod hwnna ar gael just i gadw Noa'n brysur."

Byddai cael sesiynau penodol mewn lleoliadau gwyliau sy'n gwneud i'r plant i deimlo'n ddiogel yn gymorth mawr yn ystod y gwyliau, meddai.

"Mae bron yn amhosib dod ar draws sesiynau i blant niwrowahanol. Pan da ni'n mynd dramor ma' kids clubs ymhob man a ma' nhw'n cynnig bob math o weithgareddau, ond does 'na ddim byd ar gyfer ein plant ni."

A woman with light brown wavy hair, wearing a navy crew neck t-short smiles as she looks into the camera. She is standing in a campsite with tents and hills obscured in the background. The background is blurred and it is a head and shoulders shot of her.
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Janatha Carden yw creu safle fyddai'n cwrdd ag anghenion teuluoedd fel un hi

Ar ôl cael profiadau tebyg, penderfynodd mam arall o'r Bala greu lleoliad gwersylla ei hun i deuluoedd niwroamrywiol.

Dywedodd Janatha Carden, 50, bod ei mab awtistig yn "rhedeg a dringo", ac felly bod angen safle gyda ffensys er mwyn diogelwch.

Yn ystod y pandemig, penderfynodd greu safle ei hun fyddai'n ddiogel, ac yn cynnig mannau chwarae addas.

"Mae cael seibiant mor bwysig, a dydyn ni ddim yn casau ein plant bellach am ein bod ni angen brêc", meddai.

Mae Ms Carden yn cynnal tripiau byr ar safle ger y Bala ar hyn o bryd, ond mae wedi cael arian loteri i sefydlu "parc ar gyfer teuluoedd sydd ag aelodau niwroamrywiol ac awtistig" yn y dyfodol.

Brian Garrod
Disgrifiad o’r llun,

Esboniodd yr Athro Brian Garrod ei bod yn heriol i deuluoedd ddod o hyd i rywle addas, gyda llawer yn gorfod ffurfio rhwydweithiau answyddogol i rannu argymhellion

Yn ôl yr Athro Brian Garrod o Brifysgol Abertawe, sydd wedi ymchwilio i'r maes, mae'n aml yn faes sy'n cael ei anwybyddu.

Dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i sichrau fod cyfleusterau yn gynhwysol.

"Rwy'n credu'n bersonol y dylai fod yn rhywbeth a ddaw'n statudol yn y tymor hir, yn rhan o'r Ddeddf Cydraddoldeb," meddai.

"Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb eisoes yn darparu ar gyfer busnesau i gael dyletswydd i sicrhau darpariaeth ond ar hyn o bryd nid ydym yn gweld hynny ar gyfer teuluoedd â phlant niwroamrywiol."

Harri-JacFfynhonnell y llun, Caryl Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caryl Davies yn rhannu profiadau ei mab, Harri-Jac ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae Caryl Davies a'i mab Harri-Jac yn dod o Drefach ger Llanbedr Pont Steffan, ac mae'n dweud bod cyfleusterau a gweithgareddau yn dechrau gwella.

Yn ystod gwyliau ysgol, wrth i blant fynd o "gael trefn ddyddiol", mae'n dweud bod "ffindo pethe i neud yn gallu bod yn llafurus".

Ond dywedodd ei bod wedi cael profiadau "positif iawn 'leni", ac mai paratoi o flaen llaw ydy'r peth pwysicaf.

"Mae 'na lot o waith trefnu, sy'n gallu bod yn anodd achos ma' angen i ni fynd yn ôl trywydd y plentyn.

"Bydde fe'n neis petai na rhyw blatfform falle byddai'n rhestru'r holl lefydd sydd ar gael mas 'na."

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Er y gall gwefannau fel Croeso Cymru gefnogi addysgu'r sector twristiaeth i ddeall niwroamrywiaeth a rhannu gwybodaeth neu hyfforddiant perthnasol, rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, arbenigwyr academaidd, a chymunedau niwrowahanol i archwilio'r ffordd orau o ymgorffori arferion cynhwysol."

Pynciau cysylltiedig