Smith a'r Seintiau yn gobeithio am ragor o lwyddiant yn Ewrop

Leo SmithFfynhonnell y llun, CBDC/Ashley Crowden
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leo Smith yn rhan o garfan Y Seintiau enillodd y Cymru Premier, Cwpan Cymru a Chwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae pencampwyr y Cymru Premier, Y Seintiau Newydd, yn anelu am ragor o lwyddiant yn Ewrop, meddai'r chwaraewr canol cae Leo Smith.

Llwyddodd y Seintiau i greu hanes y tymor diwethaf drwy gyrraedd rownd y gynghrair yng Nghyngres UEFA – y clwb cyntaf o Uwchgynghrair Cymru i wneud hynny.

Bydd y Seintiau yn wynebu'r clwb o Ogledd Macedonia, KF Shkendija, yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, gyda'r cymal cyntaf ar Neuadd y Parc nos Fawrth.

"Mae cychwyn y tymor yn canolbwyntio arno ni'n paratoi at Ewrop a'r gemau cynta' 'ma," meddai Smith.

"Rheina 'di'r gemau ti isho bod yn chwarae ynddyn nhw fel chwaraewr, ac yn enwedig i'r clwb yma.

"'Da ni wedi cael blas o Ewrop yn barod ac os ydan ni ddim yn ei wneud o'r tymor yma mi fyddan ni gyd mor siomedig ar ôl y llwyddiant ga'thon ni flwyddyn diwethaf.

"Ti ddim yn disgwyl rhyw lawer, ond ti'n mynd a trio mwynhau pob un gêm a trio rhoi cyfrif da o ni'n hunain fel tîm ac fel clwb ym mhob gêm, a dwi'n meddwl y gwnaethon ni."

'Yr hogia' yn barod i fynd eto'

Fiorentina a Panathinaikos oedd dau o'r clybiau amlwg wynebodd y Seintiau y tymor diwethaf, ond mae Smith yn cydnabod bydd efelychu perfformiad y llynedd yn dasg anodd.

"Mae 'na bwysau ond mae'r hogia' yn barod i fynd eto," ychwanegodd.

Mae gan y Seintiau hanes yn erbyn Shkendija yn y gystadleuaeth, ar ôl colli o 5-4 dros ddau gymal yn eu herbyn yn 2018.

"Mae 'na un neu ddau o'r hogia' wedi chwarae yn y gêm wnaethon nhw golli 5-0 ac yna ennill 4-0 adra," meddai.

"Fydd o'n dîm newydd i fi chwarae – mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm."

Pynciau cysylltiedig