Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cynghrair Cymru

Cwpan Cynghrair CymruFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cynghrair Cymru gan drechu Aberystwyth gyda sgôr o 0 - 1 yn y rownd derfynol.

Dyma oedd yr eildro yn olynol i'r Seintiau Newydd ennill Cwpan y Gynghrair.

Roedd y Seintiau yn ffefrynnau clir cyn y gic gyntaf yn Y Drenewydd nos Wener a hwythau ar frig y Cymru Premier ar hyn o bryd, a'u gwrthwynebwyr ar waelod tabl y chwech isaf.

Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Aberystwyth yn rownd derfynol y cwpan ers 2018.

Aramide Oteh wnaeth sgorio unig gôl y gêm - pan roddodd y Seintiau ar y blaen yn fuan wedi'r toriad.

Roedd y gôl yn dilyn croesiad gan Daniel Williams i'r postyn blaen, ar ôl 49 munud o chwarae.