Cymru i gael £540m i dyfu'r economi dros dair blynedd

Y prif wahaniaeth yw Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i wario'r arian meddai Prif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n cael £547m gan Lywodraeth y DU dros dair blynedd er mwyn rhoi hwb i'r economi, a Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i wario'r arian.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw dechrau ymgynghori ar sut y dylen nhw wario eu cyfran nhw o gronfa twf lleol y DU.
Dyma'r ail gynllun sydd yn lle'r cymorth ariannol roedd Cymru'n arfer ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) - gan ddisodli cynllun blaenorol Llywodraeth y DU nad oedd gweinidogion Caerdydd yn rhan ohono.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan addo y byddai'r arian yn cyrraedd "pob rhan o Gymru".
Dywedodd bod y cynllun werth "ychydig yn llai" na'r un blaenorol gan y llywodraeth Geidwadol, a oedd yn cyfateb i £585m dros dair blynedd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r ffaith bod llai o arian ar gael, gan ddweud bod Llafur wedi addo mwy o arian i Gymru, "nid degau o filiynau yn llai".
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
Roedd rhannau mawr o Gymru'n gymwys i gael cymorth economaidd pan oedd y DU yn rhan o'r UE.
Roedd Cymru'n cael cyfanswm o £375m y flwyddyn dan y trefniadau oedd yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol ddisodli'r gronfa honno gyda'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, nad oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn yr un ffordd.
Roedd ei strwythur yn achosi gwrthdaro rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, gyda'r blaid Lafur yn anwybyddu gweinidogion Caerdydd i bob pwrpas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod bellach wedi dod i gytundeb â llywodraeth Lafur y DU ar gyfer y broses o ddyrannu'r arian.
Bydd y cynllun cyflawni'n cael ei ddatblygu a'i arwain yng Nghaerdydd.
Bydd gweinidogion yn trafod sut i wneud hynny yn ddiweddarach y mis hwn - mae wedi siarad am helpu pobl i ennill cymwysterau newydd, helpu a thyfu busnesau Cymru mewn sectorau allweddol fel iechyd a deallusrwydd artiffisial, a mynd i'r afael â materion sy'n atal twf.
'Ffocws ar dyfu'r economi'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd Eluned Morgan mai'r "peth cyntaf ni am wneud yw ymgynghori gyda phobl ar draws Cymru ynglŷn â ble dyle ni fod yn gwario'r arian.
"Mae gyda ni syniadau clir o ran beth 'dyn ni eisiau 'neud o ran tyfu'r economi", meddai gan nodi y "bydd y ffocws ar dyfu'r economi a datblygu sgiliau pobl".
Ychwanegodd: "Beth sy'n dda yw bod 22% o holl arian y DU yn dod aton ni yng Nghymru a gyda phoblogaeth o 5% ni 'di 'neud yn dda.
"Y gwahaniaeth mawr rhwng nawr a beth oedd yn diwgydd o'r blaen - ar ôl Brexit, Llywodraeth y DU oedd yn penderfynu ble roedd yr arian yna'n mynd heb unrhyw reference i ni yn Llywodreth Cymru."
'Allweddol i yrru twf economaidd'
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Mae'r buddsoddiad hwn o fwy na hanner biliwn o bunnoedd gan Lywodraeth y DU yn allweddol i yrru twf economaidd yng Nghymru.
"Y ffordd orau i wneud y penderfyniadau ynghylch sut caiff yr arian ei wario yw gan bobl yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ein blaenoriaeth gyffredin o sicrhau twf, ffyniant a chyfleoedd ledled y wlad."
Nid yw'n glir sut y caiff y gronfa ei rhannu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae BBC Cymru ar ddeall na fyddai'r un swm o arian yn cael ei wario o flwyddyn i flwyddyn.
Fe ddaw'r newyddion cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Bydd angen i'r blaid Lafur ddod i gytundeb â phlaid arall er mwyn pasio eu cynlluniau, ac mae disgwyl pleidlais yn y Senedd ddechrau 2026.
Mae deddfau'n nodi os na chaiff cyllideb ei phasio, y bydd toriadau awtomatig yn cael eu gweithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Eluned Morgan: "Byddwn yn cyflwyno cyllideb a fydd yn sicrhau, erbyn mis Ionawr, ein bod yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
"Bydd yn fater i'r pleidiau eraill benderfynu a ydyn nhw'n barod i weld y math o ddinistr fydd yn dod o ganlyniad i beidio â phasio cyllideb, yn enwedig o ystyried yr effaith y gallai gael ar ein hawdurdodau lleol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.