Dirwyo ffermwr am yrru tractor gyda phlentyn yn y blaen

TractorFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Howard Walters ei ffilmio yn bwydo gwartheg o'i dractor tra bod plentyn yn y cerbyd

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr wedi derbyn gorchymyn cymunedol ar ôl iddo gael ei ddal yn bwydo gwartheg o'i dractor tra bod plentyn yn y cerbyd.

Roedd Howard Walters, 78 oed o Fferm Tirmynydd yn ardal Y Gellifedw yn Abertawe, eisoes wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ym mis Tachwedd 2020 am ganiatáu i'w wyrion reidio yn ei dractor.

Ddeufis yn ddiweddarach, cafodd ei ffilmio gan gymydog yn mynd yn groes i amodau'r hysbysiad hwnnw.

Dywedodd y swyddog wnaeth ymchwilio i achos Mr Walters fod y gyfraith yn "gwbl glir", a bod plant dan 13 oed wedi eu gwahardd rhag gyrru neu reidio unrhyw fath o beiriant amaethyddol.

Fe blediodd Mr Walters yn euog i dorri adran 33 o'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974.

Fe dderbyniodd orchymyn cymunedol 12 mis o hyd, yn ogystal â gorchymyn i dalu £3,000 mewn costau.

Dywedodd Simon Breen, un o arolygwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae'r ffaith bod y ffermwr yma wedi dewis anwybyddu hysbysiad gwahardd am roi ei wyrion mewn perygl yn syfrdanol.

“Byddwn yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith. Mae’r ateb yn syml iawn – ni ddylai plant ifanc fyth reidio mewn cerbydau amaethyddol.”

Pan gafodd y drosedd ei chyflawni roedd Mr Walters eisoes yn destun dedfryd o garchar wedi ei gohirio yn sgil troseddau amgylcheddol ar wahân.

Mewn achos yn Llys y Goron Abertawe ar 27 Awst, cafodd Mr Walters ddirwy o £500 am dorri amodau'r ddedfryd honno.