Tlodi gwledig yn ‘cuddio yng ngolau dydd’
- Cyhoeddwyd
Mae angen cynlluniau penodol er mwyn helpu ardaloedd gwledig Cymru, yn ôl strategaeth newydd sy’n ceisio mynd i’r afael â thlodi cefn gwlad.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan yr Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell wedi cael cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Ry’ ni moyn trio defnyddio unrhyw ddylanwad sydd gyda ni ar y Llywodraeth i sicrhau bod anghenion gwledig yn cael blaenoriaeth," meddai Mr Campbell.
Yn ôl yr adroddiad, mae aelwydydd mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn gwario £27 yn fwy yr wythnos ar gludiant a £4 yn fwy ar fwyd na phobl mewn ardaloedd trefol.
Mae’n ymddangos fod incwm ar gyfartaledd yn llai i bobl mewn ardaloedd gwledig hefyd, gyda Sir Benfro, Conwy, Gwynedd, Powys a Cheredigion ymhlith yr isaf yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod cynnydd yng nghostau byw wedi effeithio ar bobl yng nghefn gwlad.
Yn Llandysul, mae Sandra Richards-Davies wedi bod yn rhedeg busnes henebion ers pum mlynedd.
Er ei bod yn cydnabod bod cymorth ar gael drwy grantiau, dywedodd mai'r pethau sylfaenol fel cludiant sy’n cael effaith ar bobl mewn ardaloedd gwledig.
"Un o’r pethau mwyaf yw infrastructure y transport," meddai Sandra.
"Gwnaeth y Bwcabus orffen gyda ni yn glou rili, a mwy o’r henoed oedd yn ei ddefnyddio fe i ddod mewn o’r hinterlands o Landysul.
"A heb hwnna, fi di colli ei busnes nhw i’r economi leol ond hefyd, ni ‘di rhoi pobl mewn sefyllfa lle maen nhw’n eithaf isolated lle maen nhw methu dod mewn i hyd yn oed cael cwmni nawr."
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst
Mae'r strategaeth yn gwneud sawl cynnig, fel sefydlu rôl Comisiynydd Gwledig.
Esboniodd Mr Campbell: "Yr un peth yr hoffwn i weld Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu yw’r hyn sydd yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd sef Prawf Fesur Gwledig."
"Mae angen i bob polisi, neu raglen waith neu strategaeth gael eu mesur yn erbyn effaith hynny ar yr ardaloedd gwledig.
"Felly petawn i’n gallu mabwysiadu hynny, mi fydden i gam ymlaen," meddai.
'Mwy na darn o bapur'
Yn rhedeg cwmni bysys ar gyrion Pencader, mae Rhydian Thomas yn cytuno'n gryf bod tlodi gwledig yn bodoli.
"Nid yn ariannol falle, ond achos ein bod ni’n bell o unrhyw gymorth a sylw," meddai.
Gyda chynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig yn bodoli mewn rhai ardaloedd o’r Deyrnas Unedig, mae yna gynnig yn y strategaeth i'w ymestyn i Gymru, sy'n syniad da yn ôl Mr Thomas.
"Ni’n gwario rhyw £2,000 yr wythnos ar ddisel, so os fydden i'n safio dwy neu dair ceiniog y litr, dros wythnos, dros fis, dros flwyddyn, fydd e’n adio lan at itha’ tipyn."
Ond mae Sandra Richards-Davies yn poeni fod adroddiadau tebyg wedi eu comisiynu yn y gorffennol heb unrhyw ganlyniadau penodol.
"Fydden i moyn i’r strategaeth fod yn fwy na darn o bapur sy’n cael ei gyflwyno atom ni i gyd. Bod e’n neud gwahaniaeth a ddim yn tic bocs exercise."
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cael gwared ar dlodi yn flaenoriaeth ac y dylai cefnogaeth fod ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru.
"Ry’ ni serch hynny yn cydnabod fod y profiad o dlodi yn gallu bod yn wahanol i nifer mewn ardaloedd gwledig a bod y cynnydd mewn costau byw wedi effeithio aelwydydd gwledig yn arbennig o galed.
"Ry’ ni eisiau helpu pobl trwy’r amseroedd anodd yma ac mae modd i bobl ddod o hyd i gymorth ar y rhif hwn ar gyfer y llinell ‘Hawliwch yr hyn sy’n haeddiannol’ 0808 250 5700."